- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 7
1.—(1) Rhaid i filfeddyg y ganolfan wneud cofnod o unrhyw anifail buchol sydd i'w derbyn ac—
(a)nad oedd yn perthyn i fuches a oedd yn swyddogol rydd o lewcosis buchol ensootig yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC; neu
(b)a oedd yn epil i fam na chafodd ganlyniad negyddol, ar ôl i'r anifail buchol gael ei symud oddi wrthi, i brawf a gynhaliwyd yn unol ag Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan drosglwyddo copi o unrhyw gofnod a wnaed o dan is-baragraff (1) i filfeddyg canolfan y ganolfan gasglu y bydd yr anifeiliaid buchol yn symud iddi, heb fod yn hwyrach na dyddiad y symudiad hwnnw.
2.—(1) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr anifeiliaid buchol, o fewn yr 28 o ddiwrnodau cyn cyfnod y cwarantîn, yn cael y profion canlynol, gyda chanlyniadau negyddol yn achos pob un (ac eithrio'r prawf gwrthgorffynnau BVD/MD y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d)(ii))—
(a)ar gyfer twbercwlosis buchol, prawf twbercwlin mewngroenol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a osodir yn Atodiad B i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;
(b)ar gyfer brwselosis buchol, prawf serolegol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a osodir yn Atodiad C i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;
(c)ar gyfer lewcosis buchol ensootig, prawf serolegol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a osodir yn Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;
(ch)ar gyfer IBR/IPV, prawf serolegol (firws cyfan) ar sampl gwaed os nad yw'r anifeiliaid buchol yn dod o fuches sy'n rhydd rhag IBR/IPV fel y'i diffinnir yn Erthygl 2.3.5.3. o'r Cod Iechyd Anifeiliaid Rhyngwladol(1); a
(d)ar gyfer BVD/MD,
(i)prawf ynysu firws neu brawf am antigenau firws, a
(ii)prawf serolegol i ganfod a oes gwrthgorffynnau yn bresennol neu beidio.
(2) Os cynhelir unrhyw un o'r profion a restrir ym mharagraffau 2(1)(a) i (d)(i) ar samplau a gesglir yn y ganolfan gwarantîn, ni chaniateir i gyfnod y cwarantîn ddechrau cyn y dyddiad samplu.
(3) Os bydd canlyniadau unrhyw un o'r profion a restrwyd ym mharagraffau 2(1)(a) i (d)(i) yn gadarnhaol, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr anifail buchol perthnasol yn cael ei symud ar unwaith o'r ganolfan gwarantîn.
(4) Yn achos cwarantîn ar gyfer grŵp, ni fydd cyfnod y cwarantîn yn dechrau i weddill yr anifeiliaid buchol hyd nes y bydd yr anifail buchol yr oedd canlyniad ei brawf yn gadarnhaol wedi'i symud oddi yno.
3.—(1) Yn ystod y cwarantîn, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr anifeiliaid buchol yn cael eu profi fel a ganlyn—
(a)ar gyfer brwselosis buchol, prawf serolegol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad C i Gyfarwyddeb 64/432/EEC, o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl iddynt gael eu derbyn i'r man cwarantîn, gyda chanlyniadau negyddol;
(b)ar gyfer IBR/IPV, prawf serolegol (firws cyfan) ar sampl gwaed, o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl iddynt gael eu derbyn i'r man cwarantîn, gyda chanlyniadau negyddol;
(c)ar gyfer Campylobacter fetus ssp. venerealis—
(i)yn achos anifeiliaid buchol sy'n llai na chwe mis oed neu sydd wedi'u cadw ers yr oedran hwnnw mewn grŵp o'r un rhyw cyn cael eu rhoi mewn cwarantîn, prawf unigol ar sampl o olchiadau gweiniau artiffisal neu sbesimen blaengroenol, o leiaf saith niwrnod ar ôl iddynt gael eu derbyn i'r man cwarantîn, gyda chanlyniadau negyddol;
(ii)yn achos anifeiliaid buchol gwryw sy'n chwe mis oed neu'n hŷn ac a allasant fod wedi bod mewn cyffyrddiad ag anifeiliaid buchol benyw cyn cyfnod y cwarantîn, prawf a gynhelir teirgwaith gyda chyfnod o wythnos rhwng pob prawf (caniateir i'r profion hyn ddechrau saith niwrnod ar ôl i'r anifeiliaid buchol gwryw gael eu derbyn i'r ganolfan gwarantîn CE) ar samplau o olchiadau gweiniau artiffisial neu sbesimen blaengroenol, gyda chanlyniadau negyddol;
(ch)ar gyfer Trichomonas foetus—
(i)yn achos anifeiliaid buchol sy'n llai na chwe mis oed neu wedi'u cadw ers yr oedran hwnnw mewn grŵp o'r un rhyw cyn cael eu rhoi mewn cwarantîn, prawf unigol ar sampl o sbesimen blaengroenol, o leiaf saith niwrnod ar ôl iddynt gael eu derbyn i'r man cwarantîn, gyda chanlyniadau negyddol;
(ii)yn achos anifeiliaid buchol sy'n chwe mis oed neu'n hŷn ac a allasant fod wedi bod mewn cyffyrddiad ag anifeiliaid buchol benyw cyn cyfnod y cwarantîn, prawf a gynhelir teirgwaith gyda chyfnod o wythnos rhwng pob prawf (caniateir i'r profion hyn ddechrau saith niwrnod ar ôl i'r anifeiliaid buchol gwryw gael eu derbyn i'r ganolfan gwarantîn CE) ar samplau o sbesimen blaengroenol, gyda chanlyniadau negyddol.
(2) Os caiff unrhyw anifail buchol ganlyniad cadarnhaol ar ôl prawf o dan is-baragraff (1), rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau—
(a)bod yr anifail hwnnw'n cael ei symud ar unwaith o'r ganolfan gwarantîn; a
(b)bod unrhyw anifail buchol arall o'r un grŵp yn cael ei ailbrofi i weld a oes arno'r clefyd perthnasol yn unol ag is-baragraff (1), a bod y cyfnod y gellir ei ailbrofi ar ei ôl yn dechrau ar y dyddiad y symudir yr anifail buchol cadarnhaol oddi yno.
4.—(1) Yn ystod y cwarantîn, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr anifeiliaid buchol yn cael eu profi ar gyfer BVD/MD fel a ganlyn—
(a)prawf ynysu firws neu brawf am antigenau firws o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl i'r anifeiliaid buchol gael eu derbyn i'r man cwarantîn, gyda chanlyniadau negyddol; a
(b)prawf serolegol i ganfod a oes gwrthgorffynnau yn bresennol neu beidio, o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl i'r anifeiliaid gael eu derbyn i'r man cwarantîn.
(2) Dim ond os bydd y prawf serolegol yn dangos nad oes unrhyw serodrosi mewn unrhyw anifail buchol yr oedd ganddo ganlyniad negyddol i'r prawf serolegol o dan baragraff 2(1)(d)(ii) ar gyfer gwrthgorffynnau BVD/MD y caiff milfeddyg y ganolfan ganiatáu i anifeiliaid buchol gael eu symud i ganolfan gasglu CE neu ganolfan gasglu ddomestig.
(3) Os bydd serodrosi'n digwydd mewn unrhyw anifail buchol yn y ganolfan gwarantîn, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau, o ran yr anifeiliaid buchol sy'n seronegyddol—
(a)eu bod yn aros mewn cwarantîn; a
(b)na fyddant yn cael eu hanfon i ganolfan casglu semen hyd nes y bydd o leiaf dair wythnos, na chafwyd unrhyw serodrosi pellach ynddynt, wedi mynd heibio.
(4) Caiff milfeddyg y ganolfan ganiatáu i anifeiliaid buchol sy'n serolegol gadarnhaol gael eu hanfon i ganolfan casglu semen ar ôl iddynt—
(a)cwblhau 28 o ddiwrnodau mewn cwarantîn; a
(b)cael eu profi'n unol ag is-baragraff (1).
5. Rhaid i filfeddyg y ganolfan wneud cofnod o'r anifeiliaid buchol hynny y mae canlyniad eu profion serolegol ym mharagraff 2(1)(d)(ii) neu 4(1)(b) am gwrthgorffynnau ar gyfer BVD/MD yn gadarnhaol a throsglwyddo copi o'r cofnod i filfeddyg canolfan y ganolfan gasglu y bydd yr anifeiliaid buchol yn symud iddi, a hynny heb fod yn hwyrach na dyddiad y symudiad hwnnw.
Ar gael yn //www.oie.int/eng/normes/mcode/en_chapitre_2.3.5.htm.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: