- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 2(6) o Atodlen 3A i Ddeddf 1991 a pharagraffau (3), (6) a (7) isod, at ddibenion adran 55, rhaid i ymgymerwr sy'n bwriadu dechrau gwneud gwaith stryd o gategori a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl rhoi cyfnod o hysbysiad o ran y categori hwnnw o ddim llai na'r hyn a ddangosir yng ngholofn 2.
(1) | (2) |
---|---|
Categori o waith | Y cyfnod |
Gwaith pwysig | 10 diwrnod |
Gwaith safonol | 10 diwrnod |
Mân weithiau | 3 diwrnod |
(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 6(2) a pharagraffau (6) a (7) isod, at ddibenion adran 55, pan fo ymgymerwr yn bwriadu gwneud gwaith brys mewn unrhyw stryd, rhaid iddo roi hysbysiad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag o fewn dwy awr o fod wedi dechrau ar y gwaith.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), pan fo ymgymerwr
(a)wedi cael hysbysiad o dan adran 58(1) yn cyfyngu ar waith stryd yn y dyfodol yn sgil gwaith stryd sylweddol;
(b)yn bwriadu dechrau gwneud
(i)gwaith stryd, ac eithrio gwaith disymwth, cyn i'r cyfyngiad ddod i rym; neu
(ii)gwaith stryd, ac eithrio gwaith a ganiateir o dan adran 58(5), sy'n golygu darnio rhan o'r briffordd y bydd y cyfyngiad yn gymwys iddo, neu dwnelu neu dyllu oddi tani, tra bo'r cyfyngiad yn weithredol; ac
(c)nad yw eisoes wedi rhoi hysbysiad o ran y gwaith hwnnw yn unol â pharagraff (1),
rhaid iddo, at ddibenion adran 55, roi hysbysiad o'r hyn y bwriada ei wneud ddim mwy na 20 o ddiwrnodau o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad o dan adran 58(1).
(4) At ddibenion adran 55(7), y cyfnod a ragnodir yw —
(a)5 niwrnod pan fo'r hysbysiad yn ymwneud â gwaith pwysig neu waith safonol; a
(b)2 ddiwrnod pan fo'n ymwneud â mân weithiau.
(5) At ddibenion adran 55(8), y cyfnod a ragnodir yw 2 ddiwrnod yn dechrau gyda'r dyddiad pan fydd yr hysbysiad yn peidio â bod yn effeithiol.
(6) Nid oes angen rhoi hysbysiad o dan adran 55(1) pan fo ymgymerwr yn bwriadu dechrau gwneud gwaith stryd
(a)mewn stryd nad yw'n stryd sy'n sensitif i draffig;
(b)ar droetffordd stryd sy'n sensitif i draffig ar adeg sy'n sensitif i draffig; neu
(c)mewn stryd sy'n sensitif i draffig, ar adeg nad yw'n sensitif i draffig,
os nad yw'r gwaith yn golygu darnio'r stryd neu dwnelu neu dyllu oddi tani.
(7) Nid yw'n ofynnol i ymgymerwr statudol roi hysbysiad o dan adran 55(1) i unrhyw berson y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo oni bai bod y cyfryw berson wedi gofyn am hysbysiad o'r fath.
(8) Mae is-baragraff (7) yn gymwys i —
(a)unrhyw ymgymerwr statudol sydd ag offer yn y stryd y mae'r gwaith yn debygol o effeithio arno; a
(b)unrhyw berson y byddai ganddo fel arall hawl i gael hysbysiad o'r fath yn rhinwedd fod ganddo yn y stryd ran o bibell wasanaeth yn gorwedd rhwng ffin y stryd a'r stopfalf ar y cyfryw bibell yn y stryd honno neu fod ganddo draen yn y stryd honno.
(9) Ym mharagraff (8) mae i “draen”, “pibell wasanaeth ” a “stopfalf” yr un ystyr ag sydd i “drain”, “service pipe” a “stopcock” yn Neddf y Diwydiant Dwr 1991(1).
1991 p.56. Cafodd y diffiniad o “service pipe” yn adran 219(1) ei ddiwygio gan adran 92(6) o Ddeddf Dŵr 2003 (p.37). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: