Search Legislation

Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “amser sy'n sensitif i draffig” (“traffic-sensitive time”), mewn perthynas â stryd sy'n sensitif i draffig yw

(a)

yn achos dynodiad cyfyngedig, yr adegau neu'r dyddiadau a bennir; a

(b)

mewn unrhyw achos arall, unrhyw adeg;

ystyr “categori o ffordd” (“road category”) yw un o'r categorïau o ffyrdd a bennir ym mharagraff 1.3.1 o Bennod S1 o gôd ymarfer 2006 Rhif 72, sy'n dwyn y teitl “Manyleb ar gyfer Adfer Agorfeydd mewn Priffyrdd” dyddiedig Tachwedd 2006 ac a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 24 Ionawr 2007.

ystyr “cofrestr gwaith stryd” (“street works register”) yw cofrestr y mae'n ofynnol i awdurdod stryd ei chadw yn ôl adran 53 o Ddeddf 1991;

ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1);

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991;

ystyr “diwrnod” (“day”) yw diwrnod gwaith;

ystyr “dynodiad cyfyngedig” (“limited designation”) yw dynodiad yn unol â rheoliad 16(3) am adegau penodol neu ar ddyddiadau penodol;

ystyr “y Fanyleb Dechnolegol” (“the Technical Specification”) yw'r Fanyleb Dechnolegol ar gyfer Trosglwyddo Hysbysiadau yn Electronig a luniwyd gan Yr Adran Drafnidiaeth ac sy'n ddyddiedig 5 Gorffennaf 2007 fel y'i hadolygwyd neu y'i hail ddyroddwyd o bryd i'w gilydd,;

ystyr “gwaith brys” (“urgent works”) yw

(a)

gwaith stryd, ac eithrio gwaith argyfwng, y mae'n angenrheidiol eu gwneud ar yr adeg pan gânt eu gwneud

(i)

er mwyn atal neu ddwyn i ben unrhyw ymyrraeth annisgwyl â chyflenwad neu wasanaeth a ddarperir gan ymgymerwr;

(ii)

er mwyn osgoi colled sylweddol i ymgymerwr mewn perthynas â gwasanaeth cyfredol; neu

(iii)

er mwyn ail gysylltu cyflenwadau neu wasanaethau pan fyddai'r ymgymerwr dan atebolrwydd sifil neu droseddol petai'r ail gysylltu yn cael ei ddal yn ôl hyd nes i'r cyfnod hysbysu priodol ddod i ben; a

(b)

mae'n cynnwys gwaith na ellir yn rhesymol ei wahanu oddi wrth waith o'r fath.

ystyr “gwaith disymwth” (“immediate works”) yw gwaith brys neu waith argyfwng;

ystyr “gwaith pwysig” (“major works”) yw

(a)

gwaith stryd a ddynodwyd yn rhaglen weithredol flynyddol ymgymerwr, neu er nas dynodwyd yn benodol mewn rhaglen o'r fath, y byddid fel rheol yn ei gynllunio neu yn dod yn ymwybodol ohono o leiaf chwe mis cyn y dyddiad arfaethedig ar gyfer y gwaith;

(b)

gwaith stryd ac eithrio gwaith disymwth

(i)

pan fo'r awdurdod stryd wedi crybwyll wrth ymgymerwr; neu

(ii)

pan fo ymgymerwr o'r farn

fod angen gorchymyn o dan adran 14 o'r Ddeddf (gwaharddiad neu gyfyngiad dros dro ar ffyrdd); neu

(c)

gwaith stryd, ac eithrio gwaith disymwth, y cynlluniwyd iddynt gymryd mwy na deng niwrnod;

ystyr “gwaith safonol” (“standard works”) yw gwaith stryd, ac eithrio gwaith disymwth neu weithiau pwysig, y cynlluniwyd iddynt gymryd mwy na thri diwrnod ond dim mwy na deng niwrnod.

ystyr “mân weithiau” (“minor works”) yw gwaith stryd ac eithrio gwaith disymwth, na chynlluniwyd iddynt gymryd mwy na thri diwrnod;

ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Arwyddion Traffig 2002(2);

ystyr “stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig” (“street with special engineering difficulties”) yw stryd a ddynodwyd yn un ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig o dan adran 63 o Ddeddf 1991;

ystyr “stryd sy'n sensitif i draffig” (“traffic-sensitive street”) yw stryd a ddynodwyd yn un sy'n sensitif i draffig o dan adran 64 o Ddeddf 1991; ac

ystyr “ymgymerwr statudol” (“statutory undertaker”) yw person sydd â hawl yn rhinwedd hawl statudol i wneud gwaith stryd.

(2Oni bai bod darpariaeth benodol wahanol, mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn Neddf 1991.

(1)

1984 p.27. Amnewidiwyd adran 14 gan Ddeddf Traffig Ffyrdd ( Cyfyngiadau Dros Dro) 1991, adran 1(1) ac Atodlen 1. Diwygiwyd adran 138(3) gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Canlyniadol) 1988, adran 4 ac Atodlen 3, paragraff 25(8).

(2)

Rhan 1 o O.S. 2002/3113, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/1670. Mae yna ddiwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources