Search Legislation

Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cymryd lle Rheoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) 1992 (“Rheoliadau 1992”), gydag addasiadau, o ran Cymru.

Mae Rheoliad 3 yn cynnwys diffiniadau o “gwaith pwysig”, “mân weithiau” “gwaith safonol” a “gwaith brys”.

Mae Rheoliad 4 yn gosod gofynion o ran ffurf y gofrestr gwaith stryd y mae'n ofynnol i awdurdod strydoedd ei chadw o dan adran 53(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (“Deddf 1991”). Mae hefyd yn rhagnodi'r wybodaeth o ran gwaith stryd sydd i'w chadw yn y gofrestr ynghyd â gwybodaeth ynghylch categorïau penodol o waith stryd, gwaith arall, hysbysiadau, trwyddedau, offer, gwaith adfer a gwybodaeth arall sydd i'w chadw. Gwneir darpariaeth i wybodaeth a ardystir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth at ddibenion gwarchod diogelwch gwladol ac i wybodaeth sy'n sensitif yn fasnachol i ymgymerwr fod yn wybodaeth gyfyngedig at ddibenion adran 53(3) o Ddeddf 1991.

Mae Rheoliad 5 yn rhagnodi, gan gyfeirio at y Fanyleb Dechnegol ar gyfer Trosglwyddo Hysbysiadau yn Electronig a luniwyd gan Yr Adran Drafnidiaeth ac sy'n ddyddiedig 5 Gorffennaf 2007 fel y'i hadolygwyd neu y'i hail ddyroddwyd o bryd i'w gilydd, ffurf yr hysbysiad sydd i'w roi at ddibenion adrannau 54, 55, 57, 58, 58A, 66, 70 a 72(3) o Ddeddf 1991. Mae'r adrannau hyn yn ymwneud â rhaghysbysiad o weithiau penodol, hysbysiad o dyddiad dechrau gwaith, hysbysiad o waith argyfwng, cyfyngiadau ar waith yn sgil gwaith ffordd sylweddol ac yn sgil gwaith stryd sylweddol, osgoi oedi neu rwystro diangen, gwaith adfer a ffioedd a bennir gan gyfeirio at gyfnod parhad y gwaith. Darperir hefyd ar gyfer cynnwys gwybodaeth bellach mewn hysbysiadau o dan adrannau 54, 55, 57 a 58A ac ar gyfer ffurf hysbysiadau eraill.

Mae Rheoliadau 6 a 7 yn gosod y modd y mae hysbysiadau o dan Ran III o Ddeddf 1991, ac eithrio y rhai hynny o dan adran 74, 74A neu Atodlen 4B, a chopïau o hysbysiadau, i gael eu cyflwyno ac maent yn cynnwys darpariaeth benodol ar gyfer cyflwyno gan ddefnyddio “cyfathrebiadau electronig”.

Mae Rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgymerwr roi rhaghysbysiad o ddim llai na thri mis ynglŷn â gweithiau pwysig, ac eithrio mewn achosion penodol, ac yn rhagnodi cyfnodau eraill at ddibenion hysbysiadau o dan adran 54 o Ddeddf 1991.

Mae Rheoliad 9 yn rhagnodi cyfnod rhoi hysbysiad o ddyddiad dechrau gwaith stryd, y mae'n ofynnol ei roi o dan adran 55 o Ddeddf 1991, ar gyfer gweithiau pwysig, mân weithiau, gwaith safonol a gwaith argyfwng. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth amgen pan roddir hysbysiad o dan adran 58(1) yn cyfyngu ar waith stryd yn y dyfodol yn sgil gwaith ffordd sylweddol drwy sefydlu cyfnod o ddim mwy na 20 niwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwnnw pan fo rhaid i ymgymerwyr, nad ydynt eisoes wedi rhoi hysbysiad o waith arfaethedig, roi hysbysiad o'r hyn a arfaethir ganddynt. Mae hefyd yn ymdrin â materion eraill cysylltiedig ag adran 55.

Mae Rheoliad 10 yn gosod y weithdrefn sydd i'w dilyn pan fo awdurdod strydoedd yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 56(1) neu (1A) o Ddeddf 1991 o ran amseriad gwaith stryd neu o dan adran 56A o ran gosod offer. Mae hefyd yn rhagnodi cyfnodau pan na fydd cyfarwyddiadau o'r fath yn effeithiol ar ôl i'r cyfnodau hynny ddod i ben.

Mae Rheoliad 11 yn diffinio “gwaith ffordd sylweddol” at ddibenion adran 58(1) o Ddeddf 1991, yn rhagnodi gwahanol gyfnodau ar gyfer cyfyngiadau ar waith stryd yn sgil cwblhau gwaith ffordd sylweddol ac yn darparu bod rhaid cyhoeddi hysbysiad o gyfyngiad arfaethedig o dan yr adran hon ar unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod strydoedd perthnasol at y diben o roi gwybodaeth i'r cyhoedd. Mae'n mynd rhagddo i ragnodi personau ychwanegol y mae'n rhaid rhoi copi o'r hysbysiad iddynt, a chategorïau o waith y caniateir ei wneud er gwaethaf y cyfyngiad ac i ymdrin â nifer o faterion cysylltiedig.

Mae Rheoliad 12 yn diffinio “gwaith stryd sylweddol ” at ddibenion adran 58A o Ddeddf 1991 ac Atodlen 3A iddi. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth i hysbysiad o gyfyngiad arfaethedig ar waith stryd yn sgil cwblhau gwaith stryd sylweddol gael ei gyhoeddi ar wefan ac yn rhagnodi personau ychwanegol y mae'n rhaid rhoi copi o'r hysbysiad iddynt. Mae'n sefydlu cyfnod o ddim llai na 20 niwrnod o ddyddiad y cyhoeddi pan fo raid i ymgymerwyr, nad ydynt eisoes wedi rhoi hysbysiad o waith arfaethedig, hysbysu'r awdurdod strydoedd o'r hyn a arfaethir ganddynt ac yn rhagnodi ffurf hysbysiad o'r fath â'r modd i'w roi. Mae hefyd yn rhagnodi ffurf cyfarwyddyd sy'n gosod y cyfyngiad ac yn darparu iddo gael ei roi drwy ei gyhoeddi ar wefan. Mae'n pennu gwahanol gyfnodau ar gyfer cyfyngu ar waith stryd yn sgil cwblhau gwaith stryd sylweddol ac yn rhagnodi categorïau o waith y caniateir ei wneud er gwaethaf y cyfyngiad ac yn ymdrin â nifer o faterion cysylltiedig.

Mae Rheoliad 13 yn esemptio rheolwyr strydoedd (yr awdurdod strydoedd ar gyfer strydoedd nad ydynt yn briffyrdd a gynhelir) rhag y gofyniad i gadw cofrestr ac mae'n darparu mai'r awdurdod priffyrdd lleol fydd yr awdurdod strydoedd dros strydoedd o'r fath at ddibenion cadw cofrestr a chael gwybodaeth gan ymgymerwr ynglŷn â lleoliad offer a ganfyddwyd ganddo a disgrifiad ohono. Mae hefyd yn darparu na fydd adran 61 o Ddeddf 1991 (strydoedd a warchodir) yn gymwys i strydoedd nad ydynt yn briffyrdd a gynhelir pan fo gofyn cael cydsyniad o dan deddfiad arall i'w darnio neu i'w hagor.

Mae Rheoliadau 14(1), 15(1) a 16(1) a (2) yn pennu'r meini prawf y mae'n rhaid i awdurdod strydoedd eu defnyddio wrth ddynodi stryd yn stryd a warchodir o dan adran 61 o Ddeddf 1991, neu yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig o dan adran 63 neu, ac eithrio pan fo'r dynodiad drwy gytundeb rhwng yr awdurdod strydoedd a mwyafrif yr ymgymerwyr y gŵyr yr awdurdod fod ganddynt offer yn y stryd, yn stryd sy'n sensitif i draffig o dan adran 64.

Mae Rheoliadau 14(3), 15(3) a 16(6) yn gosod yr wybodaeth y mae'n rhaid i awdurdod strydoedd sicrhau ei bod ar gael pan fo'n dynodi stryd yn stryd a warchodir, yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig neu'n stryd sy'n sensitif i draffig.

Mae Rheoliad 14(2) a Rhannau 1 a 3 o'r Atodlen yn gosod y weithdrefn ar gyfer dynodi stryd yn stryd a warchodir. Darperir ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o ddynodiad arfaethedig ar wefan, ar gyfer ei chyflwyno i gyrff a phersonau penodedig ac ar gyfer cynnal ymchwiliad lleol cyn gwneud dynodiad os oes gwrthwynebiadau.

Mae Rheoliadau 15(2), 16(4) a Rhannau 2 a 3 o'r Atodlen yn gosod y weithdrefn ar gyfer dynodi stryd yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig neu yn stryd sy'n sensitif i draffig. Darperir ar gyfer ar rhoi hysbysiad o'r cynnig i gyrff a phersonau penodedig ac ar gyfer ystyried gwrthwynebiadau cyn gwneud dynodiad.

Mae Rheoliadau 14(2), 15(2) a 16(4) a Rhan 4 o'r Atodlen yn darparu ar gyfer tynnu yn ôl ddynodiad stryd yn stryd a warchodir, yn stryd ag iddi anawsterau peirianyddol arbennig neu'n stryd sy'n sensitif i draffig gan yr awdurdod strydoedd.

Mae Rheoliad 17 yn addasu adran 70(3) a (4) o Ddeddf 1991 (dyletswydd i hysbysu awdurdod o waith adfer fel y mae i'w gymhwyso o ran Cymru) drwy newid y cyfnod y mae'n rhaid rhoi hysbysiad interim a pharhaol i'r awdurdod strydoedd o 7 i 10 niwrnod gwaith.

Mae Rheoliad 18 yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i ymgymerwyr ei rhoi i'r awdurdod strydoedd mewn hysbysiadau o dan adran 70 o Ddeddf 1991 ynglŷn â gwaith adfer interim a pharhaol.

Mae Rheoliad 19 yn datgymhwyso'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â gweithiau stryd yng Nghymru y rhoddwyd hysbysiad yn eu cylch o dan adran 54(1), 55(1) neu 57 o Ddeddf 1991 cyn dyddiad eu dod i rym ac yn cadw cymhwysiant Rheoliadau 1992 mewn perthynas â'r gweithiau hynny.

Mae'r cyhoeddiad a ddyroddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) ar 1 Awst 2006 sy'n dwyn y teitl “Spatial data sets for geographical referencing — specification for a street gazetteer” dan gyfeirnod Rhif BS 7666 — 1 2006 (ISBN 0 580 48710 5) i'w gael o unrhyw fan gwerthu a redir gan y BSI neu drwy'r post oddi wrth y BSI o Milton Keynes. Mae'r cyhoeddiad sy'n dwyn y teitl “Manyleb ar gyfer Adfer Agorfeydd mewn Priffordd” a wnaed ar 7 Tachwedd 2006 ac a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 24 Ionawr 2007 i'w gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn http://new.wales.gov.uk/legislation/legislationinforce/nonsi/HighwaysWales/HighwaysWales2006/SpecificationReinstatementHighwaylang=en. Mae'r ddogfen “Technical Specification for the Electronic Transfer of Notices” dyddiedig 5 Gorffennaf 2007 ar gael ar wefan Yr Adran Drafnidiaeth' yn www.dft.gov.uk/roads/streetworks ac fe'i cyhoeddir maes o law.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol ar gael gan yr Is-adran Rheoli Rhwydwaith Ffyrdd, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn http://www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/bus/bus-legislation-sub/bus-legislation-sub-annulment.htm

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources