Search Legislation

Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Swyddogaethau eiriolwr annibynnol galluedd meddyliol

6.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd i berson weithredu fel EAGM o ran cynrychioli person (P).

(2Rhaid i'r EAGM benderfynu yng nghyflawnder yr amgylchiadau sut orau i gynrychioli P a sut i roi'r gefnogaeth orau iddo a rhaid i'r EAGM weithredu'n unol â'r gofynion ym mharagraff (3).

(3Rhaid i'r EAGM—

(a)gwirio bod y cyfarwyddyd a ddyroddwyd wedi cael ei ddyroddi gan gorff GIG neu gan awdurdod lleol;

(b)i'r graddau y mae'n ymarferol ac yn briodol gwneud hynny—

(i)cyfweld P yn breifat, a

(ii)archwilio'r cofnodion sy'n berthnasol i P y mae gan yr EAGM fynediad atynt o dan adran 35(6) o'r Ddeddf;

(c)i'r graddau y mae'n ymarferol ac yn briodol gwneud hynny, ymgynghori â—

(i)personau sy'n ymwneud â darparu gofal neu driniaeth i P mewn swyddogaeth broffesiynol neu am dâl, a

(ii) personau eraill a eill fod mewn sefyllfa i wneud sylwadau ar ddymuniadau, teimladau, credoau neu werthoedd P; ac

(ch)cymryd pob cam ymarferol i gael unrhyw wybodaeth arall ynglyn â P, neu ynglyn â'r weithred neu'r penderfyniad a argymhellir mewn perthynas â P, ag sydd ym marn yr EAGM yn angenrheidiol.

(4Rhaid i'r EAGM gloriannu'r holl wybodaeth a gafodd er mwyn—

(a)canfod i ba raddau y mae'r gefnogaeth a ddarperir i P yn galluogi P i gymryd rhan mewn gwneud unrhyw benderfyniad ynglyn â'r mater y cafodd yr EAGM gyfarwyddyd yn ei gylch;

(b)canfod sut y byddai P yn teimlo, beth fyddai dymuniadau P a pha gredoau a gwerthoedd a fyddai'n debygol o ddylanwadu ar P petai gan P alluedd mewn perthynas â'r weithred neu'r penderfyniad a argymhellir;

(c)canfod pa foddau arall o weithredu sydd ar gael mewn perthynas â P;

(ch)pan argymhellir triniaeth feddygol i P, canfod a fyddai barn feddygol bellach yn debygol o fod o fudd i P.

(5Rhaid i'r EAGM baratoi adroddiad ar gyfer y corff GIG neu'r awdurdod lleol a roddodd gyfarwyddyd iddo.

(6Caiff yr EAGM gynnwys yn yr adroddiad unrhyw gyflwyniadau y mae'n eu hystyried sy'n briodol mewn perthynas â P ac â'r gweithredoedd neu'r penderfyniadau sy'n cael eu hargymell mewn perthynas â P.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources