- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliadau 7 ac 8
1—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Gwahardd Cŵn” yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i fynd â'r ci ar y cyfryw dir, neu i ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, yn ystod amserau neu gyfnodau o'r fath ag a gaiff eu pennu yn y gorchymyn.
(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fynd â'r ci ar y tir, neu ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
(3) Nid yw'r tramgwydd yn gymwys i berson sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Deddf Cymorth Gwladol 1948, i berson byddar mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan Hearing Dogs for Deaf People (elusen gofrestredig Rhif 293358), nac i berson ag arno anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454), Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281) neu Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.
2 Mewn unrhyw Orchymyn Gwahardd Cŵn, rhaid gosod y tramgwydd o fynd â chi ar dir y mae wedi'i wahardd oddi arno, neu ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.
3 Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Gwahardd Cŵn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)
Mae [X](3), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](4).
2 Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](5).
3—(1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg] [yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](6) os bydd y person hwnnw yn mynd â'r ci ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, neu yn caniatáu iddo fynd arno neu aros arno oni bai—
(a)bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros wneud hynny; neu
(b)bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw wneud hynny.
(2) Nid oes dim yn yr erthygl hon yn gymwys i berson—
(a)sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948; neu
(b)sydd yn fyddar, mewn perthynas â chi wedi'i hyfforddi gan Hearing Dogs for Deaf People (elusen gofrestredig Rhif 293358) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth; neu
(c)sydd ag anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan elusen ragnodedig ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.
(3) At ddibenion yr erthygl hon —
(a)cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno; a
(b)mae pob un o'r canlynol yn “elusen a ragnodwyd”—
(i)Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454);
(ii)Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281);
(iii)Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680).
4 Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
[ATODLEN] [ATODLEN 1](7)
[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](8)
[ATODLEN 2
[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](9)
Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.
Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.
Penner pa un sy'n berthnasol.
Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.
Penner pa un sy'n berthnasol.
Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.
Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: