Search Legislation

Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 580 (Cy.52)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2007

Wedi'i wneud

27 Chwefror 2007

Yn dod i rym

1 Ebrill 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraffau 4 a 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) ac a freinir bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2007, a daw i rym ar 1 Ebrill 2007.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Gorchymyn 1992” (“the 1992 Order”) yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992(3).

Diwygio

2.  Diwygir Gorchymyn 1992 yn unol â'r canlynol.

Atodlen 1

3.—(1Yn Rhan I (Prentisiaid) o Atodlen 1 (Diffiniad o fyfyrwyr, etc.) i Orchymyn 1992, ym mharagraff 1 diwygier y canlynol—

(a)Yn is-baragraff (1)(b), yn lle “National Council for Vocational Qualifications” rhodder “National Assembly for Wales or the Qualifications and Curriculum Authority”;

(b)Dileer is-baragraff (1)(c)(i); ac

(c)Yn is-baragraff (1)(c)(ii), yn lle “no more than £160 per week” rhodder “employed at a salary or in receipt of an allowance or both, which are, in total no more than £195 per week”.

(2Yn Rhan II (Myfyrwyr) o Atodlen 1 i Orchymyn 1992 ym mharagraff 2(a), yn lle “Central Bureau for Educational Visits and Exchanges” rhodder “British Council”.

Atodlen 2

4.  Yn Rhan I (Sefydliadau ar gyfer myfyrwyr) o Atodlen 2 (Sefydliadau addysgol rhagnodedig) i Orchymyn 1992—

(1Ym mharagraff 1, yn lle is-baragraff (d) rhodder “institutions within the higher education sector, as defined in section 91(5) of the Further and Higher Education Act 1992(4)”.

(2Ym mharagraff 2, o dan y diffiniad o “further education”, yn lle “the Education Act 1944” rhodder “section 2 of the Education Act 1996(5)”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Chwefror 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan Ran I o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, gostyngir y swm sy'n daladwy o ran y dreth gyngor os yw person sy'n preswylio mewn annedd yn teilyngu cael ei ddiystyru at ddibenion disgownt. Mae Atodlen 1 i Ddeddf 1992 yn darparu i ddosbarthau o bersonau gymhwyso at ddibenion disgownt. Mae Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992 (“Gorchymyn 1992”) yn gwneud darpariaeth bellach ynglyn â rhai o'r dosbarthau hynny.

Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhannau I a II o Atodlen 1 i Orchymyn 1992 o ran prentisiad a myfyrwyr. Mae Erthygl 4 yn diwygio Rhan I o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwnnw o ran sefydliadau ar gyfer myfyrwyr.

Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn, ac mae ar gael o Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol, Yr Adran Llywodraeth Leol a Diwylliant, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920825111).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y paragraffau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod ar gyfer y Ddeddf hon yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw.

(5)

1996 p.56. Mewnosodwyd adran 2(2A) a (2B) gan adran 110(1) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21). Amnewidiwyd adran 2(1) gan adran 156(2) o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Mewnosodwyd adran 2(6A) gan adran 177(1) a (3) o Ddeddf Addysg 2002. Diwygiwyd adran 2(2A), (2B), (3) a (4) gan adran 177(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 7 iddi, paragraff 33 o Atodlen 21 iddi, ac Atodlen 22 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources