Search Legislation

Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hyn Cymru 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 398 (Cy.44)

COMISIYNYDD POBL HYN CYMRU, CYMRU

Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hyn Cymru 2007

Wedi'u gwneud

14 Chwefror 2007

Yn dod i rym

16 Chwefror 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adrannau 5(4)(b) a 6(5), 8(1), (3) a (5), 10(1), (4), (5) a (9), 14(1), 15(1) a (3) o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a pharagraffau 8 a 22 o Atodlen 1 iddi.

RHAN ICyffredinol

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007 a deuant i rym ar 16 Chwefror 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006(1);

ystyr “y Prif Weinidog” (“the First Minister”) yw'r person a benodir o dro i dro yn Brif Weinidog Cymru o dan adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

ystyr “trefniadau mewn perthynas ag eiriolaeth, cwynion neu chwythu'r chwiban” (“arrangements in relation to advocacy, complaints or whistle-blowing”) yw trefniadau sy'n dod o fewn is-adrannau (4), (5) a (6) o adran 5 o'r Ddeddf yn ôl y digwydd;

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad —

(a)at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(b)mewn rheoliad at baragraff â Rhif , yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif, yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r Rhif hwnnw.

RHAN IIAdolygiad o'r Trefniadau

Cyngor a chymorth a ragnodir

3.  Dyma'r math o gyngor a chymorth a ragnodir at ddibenion adran 5(4)(b) o'r Ddeddf —

(a)rhoi cyngor a chymorth i bobl hŷn berthnasol yng Nghymru, er mwyn eu galluogi a'u cynorthwyo i fynegi eu barn a'u dymuniadau ar lafar neu drwy ddefnyddio unrhyw ddull arall o gyfathrebu, a

(b)rhoi cyngor (gan gynnwys gwybodaeth) i bobl hŷn berthnasol ynghylch eu hawliau a'u lles.

Rhoi gwybodaeth gan bersonau rhagnodedig

4.—(1Caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo roi gwybodaeth i'r Comisiynydd, wedi'i chofnodi ar unrhyw ffurf, y mae'r Comisiynydd o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus ei chael at ddibenion —

(a)adolygu trefniadau mewn perthynas ag eiriolaeth, cwynion neu chwythu'r chwiban,

(b)asesu effaith methiant unrhyw berson i wneud trefniadau o'r fath yn unol ag adran 5(3) o'r Ddeddf, ac

(c)penderfynu a gydymffurfiwyd ag argymhelliad a wnaed mewn adroddiad yn dilyn adolygiad o'r cyfryw drefniadau.

(2Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —

(a)o ran darparu gwasanaethau rheoledig yng Nghymru, darparwyr neu gyn-ddarparwyr gwasanaethau o'r fath, cyflogeion neu gyn-gyflogeion darparwyr neu gyn-ddarparwyr o'r fath, personau sy'n gweithio neu a fu'n gweithio i ddarparwyr neu gyn-ddarparwyr o'r fath yn wirfoddol, ac aelodau a chyflogeion a chyn-aelodau a chyn-gyflogeion y Cynulliad;

(b)aelodau (gan gynnwys aelodau etholedig), cyfarwyddwyr, gweithredwyr, swyddogion a chyflogeion person perthnasol, cyn-aelodau, cyn-gyfarwyddwyr, cyn-weithredwyr, cyn-swyddogion a chyn-gyflogeion person perthnasol a phersonau sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio i berson perthnasol yn wirfoddol;

(c)derbynnydd neu reolwr eiddo person sydd neu sydd wedi bod yn berson perthnasol neu berson sy'n darparu neu sydd wedi darparu'r gwasanaethau a ddisgrifir yn is-baragraff (a), ei ddatodwr neu ei ddatodwr dros dro neu ei ymddiriedolwr mewn methdaliad, yn ôl y digwydd.

(3At ddibenion is-baragraffau (2)(b) ac (c) ystyr “person perthnasol” yw'r Cynulliad, unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 3 i'r Ddeddf sy'n darparu gwasanaethau i berson hŷn yng Nghymru neu ar ei gyfer neu berson sy'n darparu'r cyfryw wasanaethau ar ran y person hwnnw neu o dan drefniant â'r person hwnnw.

RHAN IIIRhoi cymorth

Rhoi cymorth mewn achosion

5.—(1Caiff y Comisiynydd, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), roi cymorth i berson hŷn yng Nghymru —

(a)wrth wneud cwyn neu sylwadau i neu mewn perthynas ag unrhyw berson y cyfeirir ato yn adrannau 8(1)(a) i (d) o'r Ddeddf, a

(b)mewn perthynas ag achosion a ragnodir ym mharagraff (2) pan fydd yr achosion, ym marn resymol y Comisiynydd, yn ymwneud â materion sy'n gymwys neu'n berthnasol yn fwy cyffredinol i fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru nag yn yr achos penodol o dan sylw.

(2Mae'r achosion a ragnodir at ddibenion adran 8(1)(e) o'r Ddeddf yn achosion sy'n ymwneud â'r canlynol —

(a)darparu gwasanaethau rheoledig i berson hŷn yng Nghymru neu mewn perthynas ag ef;

(b)darparu gwasanaethau i berson hŷn yng Nghymru neu mewn perthynas ag ef gan unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 3 i'r Ddeddf neu unrhyw berson sy'n darparu gwasanaethau ar ran y person hwnnw neu o dan drefniant ag ef; neu

(c)yr effaith a geir ar berson hŷn yng Nghymru wrth arfer neu arfer arfaethedig unrhyw swyddogaeth gan y Cynulliad neu berson a grybwyllir yn Atodlen 2 i'r Ddeddf.

(3Wrth benderfynu a ddylid rhoi cymorth, caiff y Comisiynydd gymryd i ystyriaeth y cymorth ariannol a'r cymorth arall sydd ar gael i'r person hŷn yng Nghymru mewn perthynas â'r achosion, y gŵyn neu'r sylwadau o dan sylw, gan gynnwys cymorth o dan Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999.

(4Nid yw'r rheoliad hwn yn effeithio ar y gyfraith a'r arferion ynghylch pwy gaiff gynrychioli person mewn perthynas ag unrhyw achos.

Amodau

6.—(1Os bydd y Comisiynydd yn penderfynu darparu cymorth ariannol i berson hŷn yng Nghymru yn unol â rheoliad 5 gellir darparu'r cymorth yn ddarostyngedig i'r naill neu'r llall o'r amodau a bennir ym mharagraff (2) neu'n ddarostyngedig i'r ddau.

(2Dyma'r amodau —

(a)y caiff y Comisiynydd adennill cost resymol rhoi'r cymorth o unrhyw symiau o delir gan bartïon eraill at y diben hwnnw yn yr achos o dan sylw;

(b)nad yw'r cymorth a roddir yn dyblygu cymorth sydd wedi'i roi neu a all gael ei roi o dan unrhyw ddeddfiad.

(3At ddibenion paragraff (2)(a) nid yw'n berthnasol a yw'r symiau a delir gan bartïon eraill yn daladwy yn rhinwedd penderfyniad gan lys neu dribiwnlys, cytundeb a wnaed er mwyn osgoi achos neu er mwyn dod ag achos i ben, neu fel arall.

RHAN IVArchwilio achosion

Archwiliadau

7.  Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol yn y Rhan hon caiff y Comisiynydd archwilio achosion personau penodol sydd neu sydd wedi bod yn bobl hŷn yng Nghymru.

Achosion sy'n destun archwilio

8.  Yn ddarostyngedig i reoliad 9, caiff y Comisiynydd archwilio achosion personau penodol sydd neu sydd wedi bod yn bobl hŷn yng Nghymru —

(a)y mae gwasanaethau rheoledig yn cael neu wedi cael eu darparu iddynt neu mewn perthynas â hwy;

(b)y mae gwasanaethau yn cael neu wedi cael eu darparu iddynt neu mewn perthynas â hwy gan unrhyw un o'r personau a grybwyllir yn Atodlen 3 i'r Ddeddf neu bersonau sy'n darparu gwasanaethau o'r fath ar ran unrhyw un o'r personau hynny neu o dan drefniant â hwy; neu

(c)sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ac y mae arfer, neu'r bwriad i arfer, unrhyw swyddogaeth sydd gan y Cynulliad neu sydd gan unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 2 i'r Ddeddf yn effeithio arnynt neu wedi effeithio arnynt,

os yw'r achosion yn ymwneud â materion ynglŷn â darparu gwasanaethau o'r fath neu ag effaith arfer y swyddogaethau hynny ar y person a enwyd.

Yr amgylchiadau lle gellir gwneud archwiliad

9.  Dim ond achos person penodol sydd neu sydd wedi bod yn berson hŷn yng Nghymru y caiff y Comisiynydd archwilio —

(a)os bydd sylwadau wedi'u gwneud i'r Comisiynydd gan y person o dan sylw, neu os nad yw'r person o dan sylw am unrhyw reswm yn gallu gwneud sylwadau o'r fath, os gwneir y sylwadau i'r Comisiynydd ar ran y person dan sylw gan berson sy'n ymddangos i'r Comisiynydd ei fod yn berson priodol i weithredu ar ran y person o dan sylw;

(b)os yw'r Comisiynydd o'r farn bod y sylwadau'n codi cwestiwn o egwyddor sy'n gymwys neu'n berthnasol yn fwy cyffredinol i fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru nag yn yr achos penodol o dan sylw; ac

(c)os yw'r Comisiynydd wedi cymryd i ystyriaeth a yw'r materion sydd o dan sylw yn yr achos wedi cael neu yn cael eu hystyried yn ffurfiol mewn unrhyw fodd gan bersonau eraill ac os nad ydynt, a ydynt, ym marn y Comisiynydd, yn fwy addas i gael eu hystyried gan bersonau eraill.

Y weithdrefn ar gyfer cynnal archwiliad

10.—(1Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu cynnal archwiliad rhaid iddo —

(a)llunio cylch gwaith yr archwiliad;

(b)anfon y cylch gwaith at y person a gyflwynodd sylwadau mewn perthynas â'r achos yn unol â pharagraff (a) o reoliad 9;

(c)anfon hysbysiad ysgrifenedig o'r archwiliad arfaethedig a chopïau o'r cylch gwaith at y person (“y person sy'n cael ei archwilio”) y mae ei waith wrth ddarparu gwasanaethau neu wrth arfer swyddogaethau i gael ei archwilio;

(ch)rhoi cyfle i'r person sy'n cael ei archwilio, ac os yw ef yn dymuno hynny, i'w gynrychiolydd, gyflwyno sylwadau mewn ysgrifen neu yn bersonol mewn perthynas â'r materion sy'n cael eu harchwilio.

(2Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu peidio â chynnal archwiliad rhaid iddo baratoi datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad hwnnw ac anfon copïau ohono —

(a)at y person a gyflwynodd sylwadau mewn perthynas â'r achos yn unol â pharagraff (a) o reoliad 9, a

(b)at unrhyw bersonau eraill y mae'r Comisiynydd o'r farn ei bod yn briodol eu hanfon atynt.

Rhoi gwybodaeth mewn cysylltiad ag archwiliad

11.—(1Wrth gynnal archwiliad caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol bod person y mae paragraff (3) yn gymwys iddo yn rhoi unrhyw wybodaeth sy'n ymddangos i'r Comisiynydd ei bod yn angenrheidiol at ddibenion —

(a)yr archwiliad, a

(b)penderfynu a gydymffurfiwyd ag argymhelliad a wnaed mewn adroddiad yn dilyn archwiliad o achos.

(2Wrth gynnal archwiliad caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson y mae angen iddo roi gwybodaeth o dan baragraff (1) neu berson arall a gall fod yn atebol am y cyfryw wybodaeth, yn rhoi esboniad, neu gymorth i'r Comisiynydd o ran, —

(a)unrhyw faterion sy'n destun yr archwiliad, neu

(b)unrhyw wybodaeth a ddarperir o dan baragraff (1).

(3Dyma'r personau y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt —

(a)mewn perthynas â darparu gwasanaethau rheoledig yng Nghymru, darparwyr neu gyn-ddarparwyr gwasanaethau o'r fath, cyflogeion neu gyn-gyflogeion darparwyr neu gyn-ddarparwyr o'r fath, personau sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio i ddarparwyr neu gyn-ddarparwyr o'r fath yn wirfoddol, ac aelodau a chyflogeion a chyn-aelodau a chyn-gyflogeion y Cynulliad;

(b)aelodau (gan gynnwys aelodau etholedig), cyfarwyddwyr, gweithredwyr, swyddogion a chyflogeion person perthnasol, cyn-aelodau, cyn-gyfarwyddwyr, cyn-weithredwyr, cyn-swyddogion a chyn-gyflogeion person perthnasol a phersonau sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio i berson perthnasol yn wirfoddol;

(c)derbynnydd neu reolwr eiddo person sydd neu sydd wedi bod yn berson perthnasol neu berson sy'n darparu neu sydd wedi darparu'r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraff (a), ei ddatodwr neu ei ddatodwr dros dro neu ei ymddiriedolwr mewn methdaliad, yn ôl y digwydd.

(4At ddibenion is-baragraffau 3(b) a (c) ystyr “person perthnasol” yw'r Cynulliad, unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 2 i'r Ddeddf, unrhyw berson arall sy'n arfer swyddogaeth gan y Cynulliad neu unrhyw berson a grybwyllir yn y cyfryw Atodlen 2, neu unrhyw berson sy'n darparu gwasanaethau i bobl hŷn neu ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru ar ran unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 3 i'r Ddeddf neu o dan drefniant ag ef.

Presenoldeb tystion

12.—(1Caiff y Comisiynydd, os bernir ei bod yn angenrheidiol at ddibenion archwiliad, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo fod yn bresennol yn bersonol gerbron y Comisiynydd i roi gwybodaeth, esboniad neu gymorth.

(2Y personau y mae'r paragraff hwn yn berthnasol iddynt yw personau y mae'n ofynnol iddynt —

(a)rhoi gwybodaeth o dan baragraff (1) o reoliad 11, neu

(b)rhoi esboniad neu gymorth o dan baragraff (2) o reoliad 11.

(3Dim ond os rhoddwyd i berson hysbysiad ysgrifenedig rhesymol o ddyddiad arfaethedig ei bresenoldeb a'r wybodaeth, yr esboniad neu'r cymorth y mae ar y Comisiynydd eu hangen y caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw fod yn bresennol yn bersonol mewn unrhyw le yn unol â pharagraff (1).

(4Mewn cysylltiad â phresenoldeb personol o'r fath, caiff y Comisiynydd, yn ddarostyngedig i adran 10(7) ac (8) o'r Ddeddf, ddyroddi gwysion tystio a gweinyddu llwon neu gadarnhadau a chaiff ganiatáu i berson gael ei gynrychioli gerbron y Comisiynydd.

RHAN VSwyddogaethau pellach

Y berthynas â phobl hŷn yng Nghymru

13.—(1Rhaid i'r Comisiynydd gymryd camau rhesymol i sicrhau —

(a)bod pobl hŷn yng Nghymru yn cael gwybod am fodolaeth ac am swyddogaethau swyddfa'r Comisiynydd;

(b)bod pobl hŷn yng Nghymru yn cael gwybod am leoliad swyddfa neu swyddfeydd y Comisiynydd ac ym mha ffyrdd y gallant gyfathrebu â'r Comisiynydd a'i staff;

(c)bod pobl hŷn o'r fath yn cael eu hannog i gyfathrebu â'r Comisiynydd a'i staff;

(ch)bod barn pobl hŷn o'r fath ynghylch sut y dylai'r Comisiynydd arfer ei swyddogaethau ac ynghylch cynnwys rhaglen waith flynyddol y Comisiynydd yn cael ei cheisio; a

(d)bod y Comisiynydd a'i staff yn trefnu eu bod ar gael i bobl hŷn o'r fath yn ardal y bobl hŷn.

(2Wrth arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraff (1) rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r hyn yw anghenion ac amgylchiadau bobl hŷn o'r fath yn ei farn resymol ef.

RHAN VIAdroddiadau

Adroddiadau

14.—(1Pan ddaw archwiliad a gynhelir yn unol â Rhan IV o'r Rheoliadau hyn i ben, rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad ar ei ganfyddiadau.

(2Pan ddaw adolygiad ar gyflawni swyddogaethau yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf neu adolygiad ar drefniadau yn unol ag adran 5 o'r Ddeddf i ben, caiff y Comisiynydd lunio adroddiad ar ei ganfyddiadau.

(3Os bydd y Comisiynydd a Chomisiynydd Plant Cymru yn cyflawni eu priod swyddogaethau o dan y Ddeddf a Deddf Safonau Gofal 2000 ynghylch yr un mater caiff y Comisiynydd lunio adroddiad ar y cyd â Chomisiynydd Plant Cymru.

(4Rhaid i adroddiad a lunnir o dan baragraff (1), (2) neu (3) nodi —

(a)canfyddiadau a chasgliadau'r Comisiynydd; a

(b)unrhyw argymhellion a wneir gan y Comisiynydd.

(5Rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'i adroddiad—

(a)at y Prif Weinidog;

(b)i lyfrgelloedd y Cynulliad a dau Dŷ'r Senedd;

(c)yn achos adroddiad a lunnir o dan baragraff (1), at y person a gyflwynodd sylwadau i'r Comisiynydd yn unol â rheoliad 9; a

(ch)yn achos adroddiad a lunnir o dan baragraff (1), (2) neu (3), at y person neu'r personau —

(i)y mae ei waith wrth ddarparu gwasanaethau neu ei waith wrth arfer swyddogaethau wedi'i archwilio;

(ii) y mae ei drefniadau mewn perthynas ag eiriolaeth, cwynion neu chwythu'r chwiban wedi'u hadolygu;

(iii)a grybwyllir yn yr adroddiad.

Camau pellach yn sgil adroddiad

15.—(1Os yw'r Comisiynydd wedi llunio adroddiad ar ôl iddo archwilio achos yn unol ag adran 10 o'r Ddeddf neu adolygiad o'r trefniadau yn unol ag adran 5 o'r Ddeddf sy'n cynnwys argymhelliad mewn perthynas â darparydd gwasanaethau rheoledig yng Nghymru, y Cynulliad neu berson a grybwyllir yn Atodlen 2 i'r Ddeddf, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol mewn ysgrifen i'r person y gwneir yr argymhelliad mewn perthynas ag ef roi'r wybodaeth berthnasol i'r Comisiynydd o fewn y fath gyfnod rhesymol ag y caiff y Comisiynydd ei bennu ond sut bynnag dim hwyrach na 3 mis ar ôl y dyddiad yr anfonir copi o'r adroddiad at y person hwnnw.

(2Os yw'r Comisiynydd wedi llunio adroddiad ar ôl adolygu cyflawni swyddogaethau yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf sy'n cynnwys argymhelliad mewn perthynas â pherson a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn, caiff y Comisiynydd ofyn mewn ysgrifen i'r person y gwneir yr argymhelliad mewn perthynas ag ef roi'r wybodaeth berthnasol i'r Comisiynydd o fewn y fath gyfnod rhesymol ag y caiff y Comisiynydd ei bennu ond sut bynnag dim hwyrach na 3 mis ar ôl y dyddiad yr anfonir copi o'r adroddiad at y person hwnnw.

(3At ddibenion paragraffau (1) a (2) ystyr “yr wybodaeth berthnasol” yw y fath wybodaeth, esboniad neu gymorth i alluogi'r Comisiynydd i benderfynu a yw'r person o dan sylw wedi cydymffurfio â'r argymhelliad neu a fydd yn cydymffurfio ag ef, neu esboniad ar y rheswm dros beidio â chymryd camau o'r fath neu dros beidio â bwriadu eu cymryd.

(4Pan wneir gofyniad o dan baragraff (1) neu gais o dan baragraff (2) rhaid iddo gynnwys datganiad y gall methiant i ymateb o fewn yr amser a bennir o dan y paragraff perthnasol gael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd y mae'r Comisiynydd yn credu ei fod yn briodol.

(5Os yw'r Comisiynydd yn credu'n rhesymol, pan gaiff yr wybodaeth berthnasol, nad yw'r camau a gymerwyd neu y bwriedir eu cymryd er mwyn cydymffurfio â'r argymhelliad neu nad yw'r rheswm am beidio â chymryd camau o'r fath neu am beidio â bwriadu eu cymryd, yn ddigonol, caiff y Comisiynydd anfon hysbysiad ysgrifenedig at y person o dan sylw yn nodi'r diffygion, sef hysbysiad y mae angen ymateb iddo o fewn un mis o ddyddiad ei anfon.

(6Os na chaiff y Comisiynydd ymateb o fewn 1 mis i ddyddiad anfon yr hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (5) neu os yw'n anfodlon ar yr ymateb, caiff y Comisiynydd anfon hysbysiad atodol sy'n mynnu ymateb atodol o fewn 1 mis o ddyddiad ei anfon.

(7Rhaid i'r hysbysiad atodol gynnwys datganiad y gall methiant i roi'r hyn sy'n ymateb atodol boddhaol ym marn y Comisiynydd, neu fethiant i ymateb o gwbl, gael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd y mae'r Comisiynydd yn credu ei fod yn briodol.

(8Rhaid i'r Comisiynydd gadw cofrestr yn cynnwys manylion —

(a)argymhellion a geir mewn adroddiadau a lunnir o dan reoliad 14, a

(b)canlyniadau camau pellach a gymerir yn unol â pharagraffau (1), (2), (5) a (6) o'r rheoliad hwn.

(9Rhaid i unrhyw gofrestr a gedwir o dan baragraff (8) fod yn agored i'w harchwilio gan unrhyw berson ar bob adeg resymol yn swyddfeydd y Comisiynydd a chaiff y Comisiynydd wneud trefniadau i gopïau o'r gofrestr fod ar gael i'w harchwilio mewn unrhyw fan arall neu fannau eraill neu drwy unrhyw fodd arall y mae'n credu eu bod yn briodol.

(10Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi'r trefniadau archwilio a enwyd mewn ffordd a fydd yn dod â hwy i sylw personau y mae'n debyg, ym marn resymol y Comisiynydd, y bydd ganddynt ddiddordeb.

Adroddiadau i'r Cynulliad

16.—(1Caiff y Comisiynydd wneud adroddiad i'r Cynulliad mewn cysylltiad ag arfer unrhyw un o'i swyddogaethau cyffredinol yn unol ag adran 2 o'r Ddeddf.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad blynyddol i'r Cynulliad, y mae'n rhaid iddo gynnwys —

(a)crynodeb o'r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau'r Comisiynydd o dan y Ddeddf yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, gan gynnwys crynodeb o'r adroddiadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod hwnnw ac o unrhyw sylwadau y gall y Comisiynydd fod wedi'u gwneud yn ystod y cyfnod hwnnw yn unol ag adran 2(3) o'r Ddeddf, gan gynnwys unrhyw sylwadau a wnaed ynghylch ystod neu effeithiolrwydd pwerau'r Comisiynydd;

(b)crynodeb o'r cwynion a wnaed yn unol â gweithdrefn gwyno'r Comisiynydd a sefydlwyd yn unol ag adran 20 o'r Ddeddf a'r camau a gymrwyd gan y Comisiynydd wrth ymateb i'r cwynion hŷn;

(c)adolygiad o faterion sy'n berthnasol i fuddiannau pobl hyn yng Nghymru; a

(ch)crynodeb o raglen waith y Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y llunnir yr adroddiad ar ei chyfer ac o gynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dilyn.

(3Rhaid i'r adroddiad cyntaf y cyfeirir ato ym mharagraff (2) gael ei lunio yn 2008.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r Comisiynydd, erbyn 1 Hydref bob blwyddyn fan bellaf, anfon copi o'r adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), (2) a (3) —

(a)at y Prif Weinidog; a

(b)i lyfrgelloedd y Cynulliad a dau Dŷ'r Senedd.

Cyhoeddi adroddiadau

17.—(1Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bod yr adroddiadau a lunnir o dan reoliadau 14 ac 16 ar gael mewn fformatau sydd yn hygyrch i bobl hŷn.

(2Rhaid i'r Comisiynydd drefnu bod copïau o adroddiadau a lunnir o dan reoliadau 14 ac 16 ar gael i'w harchwilio yn swyddfa'r Comisiynydd ar bob adeg resymol ac mewn unrhyw fannau eraill neu drwy unrhyw gyfrwng arall, gan gynnwys drwy gyfrwng electronig, y mae'r Comisiynydd yn credu eu bod yn briodol.

(3Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi'r trefniadau archwilio a enwyd mewn ffordd a fydd yn dod â hwy i sylw personau y mae'n debyg, ym marn resymol y Comisiynydd, y bydd ganddynt ddiddordeb ynddynt.

RHAN VIIAmrywiol

Blynyddoedd ariannol

18.—(1At ddibenion paragraff 22 o Atodlen 1 i'r Ddeddf pennir y cyfnodau canlynol —

(d)mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol gyntaf, y cyfnod o 1 Ebrill 2007 tan 31 Mawrth 2008;

(e)mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol ddilynol, y cyfnod o 1 Ebrill tan 31 Mawrth.

Gwybodaeth

19.  Os yw gwybodaeth y mae'n ofynnol iddi gael ei rhoi o dan baragraff (1) o reoliad 4, paragraff (1) o reoliad 11 neu baragraff (1) o reoliad 15 yn wybodaeth sy'n cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur neu ar unrhyw ffurf arall, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal y cyfrifiadur neu'r ddyfais arall sy'n cadw'r wybodaeth honno, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, drefnu bod yr wybodaeth ar gael, neu gyflwyno'r wybodaeth, ar ffurf weladwy a darllenadwy.

20.  Os yw person yn rhoi gwybodaeth i'r Comisiynydd yn unol â pharagraff (1) o reoliad 11 neu'n bresennol gerbron y Comisiynydd yn unol â rheoliad 12, caiff y Comisiynydd dalu i'r person hwnnw, os yw'n credu bod hynny'n briodol —

(a)symiau mewn perthynas â threuliau a dynnwyd yn briodol gan y person, a

(b)lwfansau yn iawndal am iddo golli ei amser,

yn unol ag unrhyw raddfeydd ac o dan unrhyw amodau y caiff y Comisiynydd eu pennu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Chwefror 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (“y Comisiynydd”) a sefydlwyd o dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2006 (“y Ddeddf”).

Mae Rhan I o'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaethau dehongli.

Mae Rhan II yn ymwneud â rôl y Comisiynydd yn adolygu trefniadau eiriolaeth, cwynion a chwythu'r chwiban. Mae'n rhagnodi'r math o gyngor a threfniadau cymorth y caiff y Comisiynydd eu hadolygu fel rhan o'i bŵer i adolygu trefniadau eiriolaeth (rheoliad 3). Mae hefyd yn rhoi pŵer i'r Comisiynydd i'w gwneud yn ofynnol i gael gwybodaeth oddi wrth bersonau rhagnodedig at ddibenion penodol (rheoliad 4).

Mae Rhan III yn rhoi pŵer i'r Comisiynydd ddarparu cymorth ariannol a chymorth arall i bobl hŷn yng Nghymru, yn rhagnodi'r achosion a'r gweithdrefnau pan ganiateir rhoi cymorth o'r fath mewn cysylltiad â hwy (rheoliad 5) ac yn darparu amodau y caniateir eu gosod mewn cysylltiad â rhoi cymorth (rheoliad 6).

Mae Rhan IV yn rhoi swyddogaethau i'r Comisiynydd ynghylch archwilio achosion personau penodol sydd neu sydd wedi bod yn bobl hŷn yng Nghymru (rheoliad 7). Mae'n pennu'r mathau o achos a all gael eu harchwilio (rheoliad 8) ac o dan ba amgylchiadau y gall archwiliad gael ei wneud (rheoliad 9). Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal archwiliad (rheoliad 10), rhoi gwybodaeth i'r Comisiynydd mewn cysylltiad ag archwiliad (rheoliad 11), a phresenoldeb tystion gerbron y Comisiynydd (rheoliad 12).

Mae Rhan V yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer y trefniadau ynghylch perthynas y Comisiynydd â phobl hŷn yng Nghymru (rheoliad 13).

Mae Rhan VI yn gwneud darpariaeth ar gyfer adroddiadau penodol a chamau i'w cymryd i'w rhoi ar waith (rheoliadau 14 a 15), ynghylch adroddiadau i'r Cynulliad (rheoliad 16) ac ynghylch cyhoeddi adroddiadau (rheoliad 17).

Mae Rhan VII yn cynnwys darpariaethau amrywiol ynghylch cyfnod y flwyddyn ariannol gychwynnol a'r blynyddoedd ariannol canlynol (rheoliad 18); ynghylch y modd y rhoddir gwybodaeth (rheoliad 19); ynghylch talu treuliau a lwfansau mewn perthynas â rhoi gwybodaeth (rheoliad 20).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources