Search Legislation

Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 311 (Cy.28)

GOFAL CYMDEITHASOL , CYMRU

Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2007

Wedi'u gwneud

6 Chwefror 2007

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1(4), 12(2), 16(1), 22(1), (2)(a) i (d), (f) i (j), 5(a) ac (c), (7) (3), (4), (c), 118 (5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1)ac wedi iddo ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2007 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2007, ac eithrio rheoliad 2(12), a ddaw i rym ar 15 Chwefror 2007.

(2Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(2)

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio'r Prif Reoliadau.

2.—(1Yn y rheoliad hwn, oni bai i'r cyd-destun fynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Prif Reoliadau sy'n dwyn y Rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y Rhif hwnnw.

(2Mae'r Prif Reoliadau wedi'u diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(3Yn rheoliad 2 (Dehongli), mewnosoder y canlynol yn y lle priodol—

ystyr “cyflogai parhaol” (“permanent employee”) yw person a gyflogir yn llawn amser neu'n rhan-amser gan y person cofrestredig, gan gynnwys personau a gyflogir ar gontract gwasanaeth am dymor penodedig am ddim llai na chyfnod o chwech mis.

“ystyr “cymhwyster perthnasol” (“relevant qualification”) yw cymhwyster a gynhwysir mewn rhestr a gynhelir gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;

ystyr “gweithiwr dolen gyswllt” (“link worker”) yw aelod o staff cartref plant sy'n briodol o ran ei hynafedd a chanddo gyfrifoldeb penodol am ddiogelu a hybu lles plentyn unigol o ran iechyd ac addysg ac am gydgysylltu â darparwyr addysg a gofal iechyd ar ran y plentyn hwnnw;

(4Yn rheoliad 8 (Ffitrwydd y rheolwr) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A). Yn ddarostyngedig i baragraff (2B) a (2C), mae cyfeiriad at gymwysterau a phrofiad ym mharagraff (2)(b)(i) yn cynnwys gofyniad bod rhaid iddo—

(a)ddal cymhwyster perthnasol; a

(b)fod wedi gweithio am ddim llai na phum mlynedd ym maes gofal preswyl i blant.

(2B). Pan fo rheolwr nad yw'n dal cymhwyster perthnasol wedi'i benodi i reoli plant cartref cyn 1 Gorffennaf 2007 ni fydd y person hwnnw heb oni bai fod yn ffit i reoli cartref plant ei fod yn enill y cymhwyster perthnasol , ddim hydrach na—

(a), 1 Tachwedd 2007; neu

(b)unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd y Cynulliad yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol;

(2C) Nid yw paragraff (2A)(b) yn gymwys o ran rheolwr a benodwyd cyn 1 Gorffennaf 2007.

(2Ch). Nid oes dim ym mharagraffau (2A) hyd at (2C) sy'n effeithio ar unrhyw ofyniad i reolwr feddu ar gymwysterau, medrau neu brofiad arall sy'n berthnasol i'r materion a nodir ym mharagraff (2)(b).

(2D). Ni fydd person yn ffit i reoli cartref plant os nad yw wedi'i gofrestru'n rheolwr gyda Chyngor Gofal Cymru heb fod yn hwyrach na —

(i)1 Tachwedd 2007; neu

(ii)unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd y Cynulliad yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol..

(5Yn rheoliad 11 (Hybu lles) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Wrth gydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn a rheoliadau 18(1)(c) a 20(1), rhaid i'r person cofrestredig ddynodi aelod o staff i fod yn weithiwr dolen gyswllt ar gyfer pob plentyn.

(6Yn rheoliad 12 (Cynllun lleoliad y plentyn), ym mharagraff (1)(b), ar ôl y geiriau “gofal iechyd ac addysg y plentyn”, mewnosoder—

  • gan gynnwys enw a manylion cyswllt gweithiwr dolen gyswllt y plentyn.

(7Yn rheoliad 18 (Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden)—

(a)ar ôl is-baragraff (1)(b) dileer y gair “ac”; a

(b)ar ôl is-baragraff (1)(c), mewnosoder—

(ch)mae gweithiwr dolen gyswllt plentyn yn cymryd rhan mewn unrhyw adolygiad sy'n cynnwys ystyried cynnydd addysgol y plentyn, p'un a yw'r adolygiad yn cael ei gynnal o dan Reoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007(3) neu fel arall.

(8Yn rheoliad 20 (Anghenion iechyd plant)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a), ar ôl y geiriau “ymarferydd cyffredinol” mewnosoder—

  • a'i fod wedi'i roi o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig. a

(b)ar ôl is-baragraff (2)(dd) mewnosoder—

(e)bod gweithiwr dolen gyswllt plentyn yn cymryd rhan mewn unrhyw adolygiad sy'n cynnwys ystyried unrhyw agwedd o iechyd plentyn, p'un a yw'r adolygiad hwnnw yn cael ei gynnal o dan Reoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007 neu fel arall.

(9Yn rheoliad 25 (Staffio cartrefi plant)

(a)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Wrth gydymffurfio â pharagraff (1) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad oes, ar bob adeg ar ôl 1 Gorffennaf 2010, neu unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd y Cynulliad yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol, dim llai na 80% o'r staff gofal yn y cartref plant yn dal cymhwyster perthnasol.;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A). Wrth gydymffurfio â pharagraff (2) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad oes ar unrhyw adeg ar ôl 1Mawrth 2008 neu unrhyw ddyddiad y bydd y Cynulliad yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol dim llai na 90% o'r staff gofal sy'n gweithio mewn cartref plant yn gyflogeion parhaol.

(10Yn rheoliad 26 (Ffitrwydd gweithwyr), ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

(2A) Yn ddarostyngedig i baragraff (2B) a (2C), o ran aelod o staff gofal cartref plant, mae cyfeiriad at gymwysterau a phrofiad ym mharagraff (2)(b) yn cynnwys gofyniad bod rhaid i berson ddal cymhwyster perthnasol.

(2B) Pan fo person nad yw'n dal cymhwyster perthnasol wedi cael ei benodi i weithio mewn cartref plant cyn 1 Gorffennaf 2007 ni fydd y person hwnnw yn ffit i weithio mewn cartref plant ori bai ei fod yn ennill, y cymhwyster perthnasol ddim hwyrach na—

(a)tair blynedd ar ôl 1 Gorffennaf 2007; neu

(b)unrhyw ddyddiad hwyrach y bydd y Cynulliad Cenedlaethol o dan amgylchiadau eithriadol yn cytuno arno.

(2C) Pan fo person nad yw'n dal cymhwyster perthnasol wedi'i benodi i weithio mewn cartref plant ar ôl 1 Gorffennaf 2007, nid yw'r person hwnnw heb fod yn ffit i weithio mewn cartref plant ori bai ei fod yn ennill cymhwyster perthnasol ddim hwyrach na—

(a)tair blynedd ar ôl y dyddiad cyntaf ar ôl 1 Gorffennaf 2007 pan benodwyd ef i weithio mewn cartref plant; neu

(b)erbyn unrhyw ddyddiad hwyrach y bydd y Cynulliad Cenedlaethol o dan amgylchiadau eithriadol yn cytuno arno.

(2Ch) Pan fo person sy'n ddarostyngedig i ofyniad i gael cymhwyster perthnasol cyn pen cyfnod o amser a bennir yn unol â pharagraff (2B) neu (2C) yn cael ei benodi yn ystod y cyfnod hwnnw i swydd wahanol ym maes gofal preswyl plant, gyda'r un cyflogwr neu gyda chyflogwr arall, nid yw'r cyfnod hwnnw o amser i'w newid oherwydd y rheswm hwnnw yn unig.

(2D) Nid oes dim ym mharagraffau (2A) hyd at (2C) sy'n effeithio ar unrhyw ofyniad i berson feddu ar gymwysterau, medrau neu brofiad arall sy'n berthnasol i'r materion a nodir ym mharagraff (2)(b) ac (c).

(2Dd) Nid yw person a benodwyd i weithio mewn cartref plant cyn 1 Gorffennaf 2007 yn ffit i weithio mewn cartref plant os nad yw yn cofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol gyda Chyngor Gofal Cymru heb fod yn hwyrach na—

(a)1 Mawrth 2008; neu

(b)unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd y Cynulliad yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol .

(2E) Nid yw person a benodwyd i weithio mewn cartref plant ar ôl 1 Gorffennaf 2007 yn ffit i weithio mewn cartref plant os nad yw'n cofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol gyda Chyngor Gofal Cymru heb fod yn hwyrach na—

(a)chwe mis ar ôl y dyddiad cyntaf ar ôl 1 Gorffennaf 2007 pan benodwyd ef i weithio mewn cartref plant; neu

(b)unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd y Cynulliad yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol.

(11Yn rheoliad 27 (Cyflogi staff), ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A). O dan y Rheoliadau hyn, pan fo ffitrwydd unrhyw berson a gyflogir gan y person cofrestredig yn dibynnu arno'n ennill cymhwyster perthnasol cyn pen amser penodedig, rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y mae'n ymarferol, ei alluogi i ennill y cymhwyster cyn pen yr amser penodedig.

(12Yn rheoliad 33(4) (Adolygiad o ansawdd gofal)—

(a)ym mharagraff (2)(c)(iv) yn lle'r geiriau “cartref gofal” rhodder y geiriau “cartref plant”; a

(b)ym mharagraff (4)(a) yn lle'r geiriau “defnyddwr gwasanaeth” rhodder y geiriau “plant sy'n cael eu lletya yn y cartref plant;”.

(13Yn Atodlen 2 (Yr wybodaeth y mae ei hangen mewn Perthynas a Phersonau sy'n Ceisio Rhedeg neu Reoli Cartref Plant neu Weithio Mewn Un), ar ol paragraff 5, mewnosoder—

5A  Tystiolaeth ddogfennol o gofrestru gyda Cyngor Gofal Cymru.

(14Yn Atodlen 4 (Cofnodion eraill) ar ol paragraff 2 (e) mewnosoder.

Diwygiadau i Reoliadau Cofretru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002

3.—(1Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(5) wedi'u diwygio o ran cartrefi plant, yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn Rhan III o Atodlen 1, ar ôl paragraff 16(e) mewnosoder—

(ea)where the establishment is a children’s home, whether the person is registered with the Care Council for Wales and if so, details of their registration;

(3Yn Rhan 1 o Atodlen 3, ar ôl paragraff 2, mewnosoder—

2A  Where the establishment is a children’s home, details of the applicant’s registration with the Care Council for Wales.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.

6 Chwefror 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002. Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer lefelau gofynnol isaf o gymwysterau a phrofiad ar gyfer rheolwyr a staff cartrefi plant, dynodi aelod o staff cartref plant i ddiogelu a hybu lles pob plentyn a leolir yn y cartref o ran iechyd ac addysg, cofrestru staff a rheolwyr gyda Chyngor Gofal Cymru, y niferoedd gofynnol o staff parhaol, gofyniad i sicrhau bod plant yn cael mynd at ddeintydd, ac yn gwneud mân newidiadau eraill i'r Prif Reoliadau. Mae'r rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002.

(4)

Mewnosodwyd rheoliad 33 newydd i Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 O.S. 2002/327 (Cy.40) gan reoliad 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoleiddol 9 Chwynion) (Cymru) 2006 O.S. 20006/3251 (Cy.295) a ddaeth rym ar 1 Ionawr 2007.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources