Search Legislation

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn disodli yn bennaf (gyda diwygiadau):

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir 2001 (OS 2001/2682 (Cy.223));

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002 (OS 2002/1898 (Cy. 199));

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2003 (OS 2003/1726 (Cy.189)); ac

Adran 7 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968(1).

Diddymir y ddeddfwriaeth uchod yr un pryd ag y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu deddfwriaeth Gymunedol a weithredwyd yn flaenorol gan y tair set o Reoliadau y cyfeirir atynt uchod (OS 2001/2682 (Cy.223); 2002/1898 (Cy.199) a 2003/1726 (Cy.189)). Y rhannau o ddeddfwriaeth Gymunedol y mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i'w gweithredu yw—

Cyfarwyddeb y Cyngor 98/58/EC ynghylch amddiffyn anifeiliaid a gedwir at ddibenion ffermio(2);

Cyfarwyddeb y Cyngor 99/74/EC sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer diogelu ieir dodwy(3);

Cyfarwyddeb y Cyngor 91/629/EEC sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer diogelu lloi(4), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/2/EC(5) a Phenderfyniad y Comisiwn 97/182/EC(6); a

Chyfarwyddeb y Cyngor 91/630/EEC sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer diogelu moch(7), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/88/EC(8) a Chyfarwyddeb y Cyngor 2001/93/EC(9).

Mae'r Rheoliadau hyn (a'r ddeddfwriaeth Gymunedol a weithredir ganddynt) yn adlewyrchu'r rhwymedigaethau a gynhwysir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar gyfer Diogelu Anifeiliaid a gedwir at Ddibenion Ffermio dyddiedig 10 Mawrth 1976 (Cyfres Cytuniad Ewrop Rhif 98), o'i ddarllen ynghyd â'r Protocol Diwygio i'r Confensiwn Ewropeaidd ar gyfer Diogelu Anifeiliaid a gedwir at Ddibenion Ffermio dyddiedig 6 Chwefror 1992 (Cyfres Cytuniad Ewrop Rhif 145).

Gwneir y Rheoliadau o dan adran 12(1), (2) a (3) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(10) ac maent yn gymwys i bob anifail a gedwir at ddibenion ffermio, yn ddarostyngedig i eithriadau cyfyngedig penodol a nodir yn rheoliad 3(2).

Mae rheoliad 4(1) yn pennu'r egwyddor gyffredinol bod rhaid i bersonau sy'n gyfrifol am anifeiliaid a ffermir gymryd camau rhesymol i sicrhau y cedwir yr anifeiliaid mewn amodau sy'n cydymffurfio ag Atodlen 1. Mae'r egwyddor hon yn gymwys i'r holl anifeiliaid asgwrn cefn (ac eithrio dyn) sy'n cael eu bridio neu eu cadw ar gyfer cynhyrchu bwyd, gwlân neu grwyn neu at ddibenion ffermio eraill, ond nid yw hyn yn cynnwys pysgod, ymlusgiaid nac amffibiaid.

Mae i'r ymadrodd “person sy'n gyfrifol” am anifail yr ystyr a roddir i “person responsible” yn adran 3 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, sy'n cynnwys person sy'n gyfrifol am anifail ar sail barhaol neu dros dro, person sydd ag anifail o dan ei ofal, perchennog anifail a pherson sy'n gyfrifol am blentyn o dan 16 mlwydd oed sy'n ymgymryd â gofal gwirioneddol neu reolaeth wirioneddol dros yr anifail.

Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer yr amodau y mae'n rhaid cadw pob anifail a ffermir ynddynt (rheoliad 4(1) ac Atodlen 1), ac ar gyfer amodau ychwanegol penodol sy'n gymwys i'r anifeiliaid canlynol a ffermir—

  • ieir dodwy mewn sefydliadau a chanddynt 350 neu fwy o ieir dodwy, a gedwir mewn—

    • systemau di-gawell (rheoliad 5(1)(b) ac Atodlen 2);

    • cewyll confensiynol (batri) (rheoliad 5(1)(b) ac Atodlen 3);

    • cewyll gwell (rheoliad 5(1)(b) ac Atodlen 4);

    • pob system cewyll a di-gawell (rheoliad 5(1)(b) ac Atodlen 5);

  • ieir dodwy, p'un ai mewn sefydliadau a chanddynt 350 neu fwy o ieir ai peidio (rheoliad 5(1)(a));

  • lloi (rheoliad 5(1)(c) ac Atodlen 6);

  • gwartheg (rheoliad 5(1)(ch) ac Atodlen 7);

  • moch (rheoliad 5(1)(d) ac Atodlen 8); a

  • chwningod (rheoliad 5(1)(dd) ac Atodlen 9).

Ni chaniateir adeiladu systemau cewyll confensiynol newydd na chewyll batri newydd na'u defnyddio am y tro cyntaf (paragraff 8 o Atodlen 3), a gwaherddir hwy ar ac ar ôl 1 Ionawr 2012 (paragraff 9 o Atodlen 3).

Mae rheoliad 6 yn gosod rhwymedigaethau ar bersonau sy'n gyfrifol am anifeiliaid a ffermir, i fod yn gyfarwydd â chodau ymarfer ac i sicrhau bod y codau ar gael iddynt tra'n gofalu am anifeiliaid, ac i sicrhau bod gan gyflogeion hefyd yr un wybodaeth a modd i gyrchu'r wybodaeth honno.

Mae rheoliad 7(a) yn ei gwneud yn dramgwydd i berson sy'n gyfrifol am anifail a ffermir, heb awdurdod neu esgus cyfreithlon, beidio â chydymffurfio â naill ai'r ddyletswydd gyffredinol i gydymffurfio ag Atodlen 1 neu ag unrhyw un o'r dyletswyddau ychwanegol i gydymffurfio ag Atodlenni 2 i 9 fel y bo'n gymwys. Mae'r rheoliad hefyd yn creu tramgwydd pan na chyflawnir unrhyw un o'r dyletswyddau yn rheoliad 6 mewn perthynas â chodau ymarfer.

Cyflawnir tramgwydd o dan reoliad 7(b) os gwneir cofnod ffug neu os rhoddir gwybodaeth ffug.

Y gosb uchaf am dramgwydd o dan reoliad 7(a) neu (b) carchariad am 6 mis a/neu ddirwy ar lefel 4 o'r raddfa safonol (sef £2,500 ar hyn o bryd). Pan ddaw adran 281(5) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003(11) i rym, bydd y cyfnod hwyaf yn y carchar yn cynyddu i 51 wythnos.

Mae arfarniad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi. Gellir cael copïau ohono o Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(2)

OJ Rhif L221, 8.8.98, t.23

(3)

OJ Rhif L203, 3.8.99, t 53

(4)

OJ Rhif L340. 11.12.91, t 28

(5)

OJ Rhif L25, 28.1.97, t 24

(6)

OJ Rhif L76, 24.2.97, t 30

(7)

OJ Rhif L340, 11.12.91, t 33

(8)

OJ Rhif L316, 1.12.2001

(9)

OJ Rhif L316, 1.12.2001, t 36

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources