Search Legislation

Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Trothwyon

5.—(1Mae'r rheoliad hwn yn darparu ar gyfer dyfarnu a yw maint prosiect ailstrwythuro yn hafal i'r trothwy sy'n gymwys neu'n uwch na hynny.

(2Mae'r trothwy ar gyfer y math o brosiect ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 wedi'i nodi yng ngholofn 2 neu 3.

(3Mae paragraffau (4) a (5) yn gymwys pan fo prosiect ailstrwythuro yn cynnwys dim ond un o'r mathau o brosiect ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1.

(4Pan fo prosiect ailstrwythuro i'w gyflawni'n gyfan gwbl y tu allan i ardal sensitif, y trothwy a bennir yng ngholofn 2 yw'r trothwy sy'n gymwys i'r prosiect hwnnw.

(5Pan fo prosiect ailstrwythuro i'w gyflawni, neu pan fo unrhyw ran ohono i'w chyflawni, mewn ardal sensitif, y trothwy a bennir ar gyfer y math hwnnw o brosiect ailstrwythuro yng ngholofn 3 yw'r trothwy sy'n gymwys iddo.

(6Pan fo prosiect ailstrwythuro wedi'i ffurfio o fwy nag un o'r mathau o brosiect ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1—

(a)rhaid i bob rhan berthnasol o'r prosiect ailstrwythuro gael ei asesu er mwyn dyfarnu'r trothwy sy'n gymwys i'r rhan honno, a

(b)os yw unrhyw ran berthnasol o'r prosiect ailstrwythuro yn hafal i'r trothwy sy'n gymwys i'r rhan honno neu'n uwch nag ef, yna mae'r prosiect ailstrwythuro cyfan i'w drin fel un y mae ei faint yn hafal i'r trothwy sy'n gymwys iddo neu'n uwch na'r trothwy hwnnw.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “ardal sensitif” (“sensitive area”) yw—

(a)tir yr hysbyswyd o dan adrannau 3(1) neu 5(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(2) ei fod yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

(b)eiddo sy'n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn 1972 UNESCO er diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd(3)

(c)safle Ewropeaidd o fewn ystyr “European site” yn rheoliad 10 o Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, etc.) 1994(4).

(ch)ardal o harddwch naturiol eithriadol a ddynodwyd fel y cyfryw drwy Orchymyn a wnaed gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru(5) o dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(6) (dynodi ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol) ac a gadarnhawyd yn briodol gan Weinidogion Cymru o dan adran 83(3) o'r Ddeddf honno;

(d)Parc Cenedlaethol o fewn ystyr “National Park” yn Neddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(7); neu

(dd)heneb gofrestredig o fewn ystyr “scheduled monument” yn Neddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979(8).

(3)

Gweler Papur Gorchymyn 9424.

(5)

Gweler adran 128 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43).

(6)

2000 p. 37. Ymdrinnir â gorchmynion sy'n dynodi ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a wnaed cyn i adran 82 o Ddeddf 2000 ddod i rym fel petaent wedi'u gwneud o dan adran 82 yn rhinwedd paragraff 16 o Atodlen 15 i'r Ddeddf honno.

(7)

1949 p. 97. Cafodd diwygiadau perthnasol eu gwneud gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), Atodlen 10, paragraff 2.

(8)

1979 p. 46. Gweler y diffiniad yn adran 1(11).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources