Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 31 Ionawr 2007.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arolygydd” (“inspector”), mewn perthynas ag unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth berthnasol, yw arolygydd, arolygydd milfeddygol, neu swyddog arall a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdod arall i weithredu yng Nghymru o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno;

mae i “yr awdurdod bwyd”, mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol y gwneir dynodiad ar ei chyfer o dan y Rheoliadau hyn, yr un ystyr â “the food authority” yn y ddeddfwriaeth berthnasol honno;

mae i “yr awdurdod lleol”, mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol y gwneir dynodiad ar ei chyfer o dan y Rheoliadau hyn, yr un ystyr â “the local authority” yn y ddeddfwriaeth berthnasol honno;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

mae i “deddfwriaeth berthnasol” (“relevant legislation”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (3);

ystyr “mangre” (“premises”) yw mangre neu eiddo arall, lle neu gyfrwng cludo;

ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd a lles anifeiliaid(1), fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 776/2006 yn diwygio Atodiad VII o ran labordai cyfeirio'r Gymuned(2) ac fel y'i darllenir gyda'r canlynol—

(a)

Penderfyniad y Comisiwn 2006/677 yn nodi'r canllawiau sy'n gosod meini prawf ar gyfer cynnal archwiliadau o dan Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol i wirio cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid(3);

(b)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(4);

(c)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 yn gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004, ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(5); ac

(ch)

Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 575/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor;

ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006(6).

(2Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “archwiliad” (“audit”), ac eithrio yn rheoliad 10, yw archwiliad awdurdod cymwys a gyflawnir at ddibenion Erthygl 4.6 o Reoliad 882/2004 mewn perthynas ag un darn o ddeddfwriaeth berthnasol neu fwy ohonynt; a

(b)ystyr “archwilydd” (“auditor”) yw person sy'n cynnal archwiliad o'r fath.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “deddfwriaeth berthnasol” (“relevant legislation”) yw cyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd y mae Rheoliad 882/2004 yn gymwys iddynt a rheolau iechyd a lles anifeiliaid, ac eithrio—

(a)“cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) a “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) fel y'u diffinnir yn Rheoliadau 2006; a

(b)Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2006(7) i'r graddau y maent yn rheoleiddio ychwanegion sootechnegol a bwydydd anifeiliaid â meddyginiaeth.

(4Ym mharagraff (3)(b)—

  • mae i “bwydydd anifeiliaid â meddyginiaeth” yr ystyr a roddir i “medicated feedingstuffs” yn Erthygl 1.6 o Gyfarwyddeb 2001/82/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar god y Gymuned sy'n ymwneud â chynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol(8) fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno gan Gyfarwyddeb 2004/28/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2001/82/EC ar god y Gymuned ynghylch cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol(9); ac

  • ystyr “ychwanegion sootechnegol” (“zootechnical additives”) yw ychwanegion bwyd anifeiliaid yn y categorïau a grybwyllir yn Erthygl 6.1(d) ac (e) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion i'w defnyddio i roi maeth i anifeiliaid(10) ac eithrio'r rhai sy'n perthyn i'r grŵp swyddogaethol a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad 1 i'r Rheoliad hwnnw.

(5Oni ddarperir fel arall yn y rheoliad hwn, mae i dermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 882/2004.

(6Oni fynnir fel arall gan y cyd-destun, mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “Erthygl” (“Article”) neu “Teitl” (“Title”) yn gyfeiriadau at Erthygl neu Deitl, yn ôl eu trefn, o Reoliad 882/2004.

(7Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o dro i dro.

RHAN 2Dynodi awdurdodau cymwys a chyfnewid gwybodaeth rhyngddynt

Dibenion y dynodiadau

3.  Mae dynodiadau yn y Rhan hon yn cael eu gwneud at ddibenion Erthygl 4.1.

Dynodi'r Cynulliad Cenedlaethol yn awdurdod cymwys

4.  Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys mewn perthynas â deddfwriaeth berthnasol.

Dynodi awdurdodau lleol, etc., yn awdurdodau cymwys

5.—(1Mae'r awdurdod lleol wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys mewn perthynas â swyddogaethau gorfodi a gweithredu (ac eithrio erlyn) y mae'n eu harfer o dan ddeddfwriaeth berthnasol.

(2Mae'r awdurdod bwyd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys mewn perthynas â swyddogaethau gorfodi a gweithredu (ac eithrio erlyn) y mae'n eu harfer o dan ddeddfwriaeth berthnasol.

(3Yn y rheoliad hwn, mae “yr awdurdod lleol” ac “yr awdurdod bwyd” yn cynnwys awdurdod lleol neu awdurdod bwyd sy'n arfer ei swyddogaethau, sef y rhai y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) neu (2) fel “awdurdod gorfodi” o dan ddeddfwriaeth berthnasol ac o fewn ystyr “enforcement authority” mewn deddfwriaeth o'r fath.

Cyfnewid gwybodaeth

6.  Caiff awdurdodau cymwys a ddynodir o dan y Rheoliadau hyn ddatgelu gwybodaeth i'w gilydd ac i awdurdodau cymwys eraill yn y Deyrnas Unedig ac i Aelod-wladwriaethau eraill at ddibenion Rheoliad 882/2004.

RHAN 3Archwiliadau a rheolaethau'r Gymuned

Pwerau archwilwyr ac eithriad ar gyfer archwilwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd

7.—(1Caiff archwilydd arfer y pwerau yn y rheoliad hwn os yw wedi'i awdurdodi—

(a)gan awdurdod cymwys a ddynodir o dan y Rheoliadau hyn i gynnal archwiliad o weithgareddau'r awdurdod hwnnw; neu

(b)gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal archwiliad yn unol â rheoliad 8(3).

(2At ddibenion cynnal archwiliad, caiff archwilydd fynd i mewn i fangre y mae gan arolygydd bŵer i fynd iddo o dan ddeddfwriaeth berthnasol (“mangre archwilio”) fel petai'r archwilydd yn arolygydd sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer sicrhau mynediad o'r fath o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno.

(3Caiff archwilydd sy'n arfer ei bŵer mynediad ddod ag unrhyw berson gydag ef y mae ar yr archwilydd angen rhesymol am ei gymorth.

(4Caiff archwilydd ofyn i unrhyw berson yn unrhyw fangre archwilio am unrhyw wybodaeth y mae arno angen rhesymol amdani at ddibenion yr archwiliad, a chaiff arolygu unrhyw gofnodion y mae arno angen rhesymol amdanynt at y dibenion hynny.

(5Caiff archwilydd wneud copïau o'r cofnodion hynny neu ei gwneud yn ofynnol i'r copïau gael eu gwneud.

(6Wrth arfer y pwerau a roddwyd gan y rheoliad hwn, rhaid i archwilydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth ei fod wedi'i awdurdodi o dan y Rheoliadau hyn.

(7Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo rheoliad 9 yn gymwys.

Pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag archwiliadau awdurdodau lleol, etc.

8.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cymwys a ddynodir o dan reoliad 5 ddarparu gwybodaeth iddo am unrhyw archwiliadau y mae'r awdurdod cymwys hwnnw wedi'u cynnal neu wedi'u cael neu y mae'r awdurdod cymwys hwnnw yn bwriadu eu cynnal neu eu cael.

(2Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu o dan baragraff (1), rhaid iddo wneud hynny'n ysgrifenedig a rhaid iddo nodi o fewn pa derfyn amser y mae'r wybodaeth sy'n ofynnol i gael ei darparu.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol—

(a)i archwilydd gynnal archwiliad o awdurdod cymwys a ddynodir o dan reoliad 5; a

(b)i'r awdurdod cymwys sydd o dan sylw roi unrhyw gymorth i'r archwilydd hwnnw y bydd ar yr archwilydd angen rhesymol amdano er mwyn cynnal yr archwiliad.

Pwerau'r Asiantaeth Safonau Bwyd sy'n ymgymryd ag archwiliadau ar ran y Cynulliad Cenedlaethol

9.—(1Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn trefnu bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ymgymryd ag archwiliad mewn perthynas â deddfwriaeth berthnasol, bydd darpariaethau archwilio Rheoliadau 2006 yn gymwys fel petai—

(a)ymgymryd â'r archwiliad hwnnw yn ddiben a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) a 9(1) o Reoliadau 2006; a

(b)yr awdurdod cymwys o dan sylw yn awdurdod gorfodi y mae rheoliadau 8 a 9 o Reoliadau 2006 yn gymwys iddo.

(2Dyma ddarpariaethau archwilio Rheoliadau 2006—

(a)rheoliadau 8 a 9(1) i (8) a (10), fel y'i darllenir gyda rheoliad 10; a

(b)rheoliad 11.

(3Mae rheoliadau 17(2), (4) a (5)(c), 18(2) i (9), 19 i 21, 41 i 43, 45 a 46 o Reoliadau 2006 yn gymwys pan fo paragraff (1) o'r rheoliad hwn yn gymwys fel petai'r paragraff hwnnw'n un o ddarpariaethau Rheoliadau 2006 a oedd i'w gorfodi neu i'w gweithredu o dan Reoliadau 2006.

Rheolaethau'r Gymuned

10.  I'r graddau nad oes gan arolygydd bwerau eisoes i wneud hynny, er mwyn ei gwneud yn hwylus i archwiliadau gael eu cynnal gan arbenigwyr y Comisiwn yn unol ag Erthygl 45, caiff arolygydd fynd i unrhyw fangre y mae ganddo bŵer i gael mynediad iddo o dan ddeddfwriaeth berthnasol, ac—

(a)dod ag unrhyw arbenigwyr o'r fath gydag ef; a

(b)dangos iddynt y cofnodion y mae'n eu harolygu.

RHAN 4Cymorth a chydweithrediad o dan Deitl IV

Dyletswyddau awdurdodau lleol, etc, o dan Deitl IV

11.  Rhaid i awdurdod lleol neu awdurdod bwyd sydd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys o dan reoliad 5 hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol os yw'n credu nad yw'n gallu cymryd camau sy'n ofynnol mewn unrhyw achos unigol o dan Deitl IV (cymorth a chydweithrediad gweinyddol ym meysydd bwyd anifeiliaid a bwyd) a rhaid iddo ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn yn rhesymol amdano.

Hwyluso cymorth a chydweithrediad o dan Deitl IV

12.—(1At ddibenion cynorthwyo awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall fel y darperir ar ei gyfer o dan Erthygl 36.3, neu alluogi awdurdod cymwys a ddynodir o dan y Rheoliadau hyn i wneud hynny, caiff arolygydd sy'n arfer ei bwerau o dan ddeddfwriaeth berthnasol i fynd i mewn i fangre neu i arolygu cofnodion—

(a)dod â swyddogion awdurdodedig awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef;

(b)dangos iddynt y cofnodion y mae'n eu harolygu; ac

(c)gwneud copïau iddynt neu ei gwneud yn ofynnol i gopïau gael eu gwneud iddynt o'r cofnodion y mae ganddo bwerau i'w gwneud neu i'w gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gwneud o dan y ddeddfwriaeth berthnasol.

(2At ddibenion hwyluso ymweliad gan dîm arolygu a anfonir gan y Comisiwn fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 40.3(a), caiff arolygydd ddod â chynrychiolwyr y Comisiwn gydag ef wrth arfer ei bwerau o dan ddeddfwriaeth berthnasol i fynd i mewn i fangre neu i arolygu cofnodion.

Adennill treuliau

13.—(1Rhaid i dreuliau a godir gan awdurdod cymwys ar fusnes bwyd anifeiliaid neu fusnes bwyd yn unol ag Erthygl 40.4 gael eu talu gan y busnes hwnnw ar ôl cael archiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cymwys o dan sylw.

(2Rhaid i dreuliau a godir gan awdurdod cymwys ar weithredydd yn unol ag Erthygl 28 gael eu talu gan y gweithredydd hwnnw ar ôl cael archiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cymwys dan sylw.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yw awdurdod cymwys a ddynodir o dan reoliad 4 neu 5.

RHAN 5Gorfodi a chosbau

Dehongli a chymhwyso Rhan 5, etc.

14.—(1Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “archwilydd perthnasol” (“a relevant auditor”) yw archwilydd sy'n arfer ei bwerau o dan reoliad 7;

(b)mae “arolygydd perthnasol” (“a relevant inspector”) yn cynnwys unrhyw berson sy'n dod gydag arolygydd yn unol â rheoliadau 10 neu 12;

(c)nid yw “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw fangre neu ran o fangre a ddefnyddir fel annedd yn unig;

(ch)ystyr “swyddog gorfodi” (“enforcement officer”) yn cynnwys swyddog a awdurdodir i orfodi'r Rheoliadau hyn gan yr awdurdod cymwys sy'n gyfrifol am orfodi yn unol â rheoliad 15.

(2Nid yw Rheoliadau 15 i 19 yn gymwys pan fo rheoliad 9 yn gymwys.

Gorfodi

15.  Mae gorfodi'r Rheoliadau hyn yn gyfrifoldeb yr awdurdod cymwys sydd, o dan unrhyw amgylchiadau penodol, yn awdurdodi bod pwerau yn cael eu harfer o dan y Rheoliadau hyn.

Pwerau swyddogion gorfodi

16.—(1Caiff swyddog gorfodi—

(a)mynd i mewn i fangre ar unrhyw adeg resymol;

(b)gwneud unrhyw ymholiadau, arsylwi unrhyw weithgaredd neu broses, a thynnu ffotograffau; ac

(c)arolygu unrhyw eitem neu gofnodion unrhyw ddosbarth sy'n ymddangos yn berthnasol i'r swyddog gorfodi at ddibenion ei ymchwiliad, ac fe gaiff wneud copïau o'r cofnodion hynny neu ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gwneud a mynd ag unrhyw gofnodion y mae arno angen rhesymol amdanynt oddi yno.

(2Rhaid i swyddog gorfodi wneud y canlynol—

(a)dangos tystiolaeth ei fod wedi'i awdurdodi pan ofynnir iddo wneud hynny;

(b)cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl iddo wneud hynny, darparu i'r person y mae'n ymddangos iddo mai hwnnw sy'n gyfrifol am gofnodion y mae'r swyddog gorfodi yn mynd â hwy oddi yno o dan baragraff (1)(c) dderbynneb ysgrifenedig sy'n nodi'r cofnodion hynny; ac

(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl iddo wneud hynny, ar ôl penderfynu nad oes angen amdanynt mwyach, dychwelyd y cofnodion hynny, ar wahân i'r rhai a ddefnyddir fel tystiolaeth mewn achos llys.

Tramgwyddau a chosbau

17.—(1Bydd person yn euog o dramgwydd os yw heb esgus rhesymol yn rhwystro unrhyw un o'r personau canlynol, neu'n peri neu'n caniatáu iddo gael ei rwystro—

(a)archwilydd perthnasol;

(b)arolygydd perthnasol;

(c)unrhyw berson sy'n dod gydag archwilydd perthnasol neu arolygydd perthnasol o dan reoliadau 7(3), 10, neu 12; neu

(ch)swyddog gorfodi.

(2At ddibenion paragraff (1), mae rhwystro yn cynnwys—

(a)methu—

(i)â dangos cofnodion;

(ii)â darparu cofnodion; neu

(iii)â darparu cyfleusterau rhesymol ar gyfer copïo cofnodion,

fel sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn; a—

(b)methiant gan unrhyw berson i ddarparu gwybodaeth sydd yn ei feddiant pan ofynnir iddo wneud hynny gan archwilydd perthnasol, arolygydd perthnasol neu swyddog gorfodi.

(3Mae person yn euog o dramgwydd os yw'n darparu heb esgus rhesymol i archwilydd perthnasol, arolygydd perthnasol neu swyddog gorfodi, wybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys.

(4Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn atebol, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

18.—(1Pan brofir bod tramgwydd o dan reoliad 17 a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.

(3ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath.

Terfynau amser ar gyfer erlyn

19.  Caiff erlyniad am dramgwydd o dan y Rhan hon ddechrau heb fod yn hwyrach na diwedd—

(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu

(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

Diwygio Rheoliadau 2006

20.—(1Mae Rheoliadau 2006 wedi'u diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y paragraff sy'n dechrau “mae i “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”)” mewnosoder ar ôl y geiriau ““Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”),” y geiriau ““Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”)”.

(3Yn Atodlen 1, ar ôl y diffiniad o ““Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”)”, mewnosoder—

“ystyr “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol fel y'i diwygir(11) ac mae iddo'r un ystyr â'r diffiniad o “Rheoliad TSE y Gymuned” (“Community TSE Regulation”) yn Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006(12).

(4Ym mharagraff (a) o Atodlen 3—

(a)ar ôl is-baragraff (vi) dileer “a”;

(b)ar ddiwedd paragraff (vii)(bb) dileer “; a” ac ychwaneger—

, ac

(viii)y materion a reoleiddir o dan Atodlen 2 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 i'r graddau y mae'r Atodlen honno yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir ar gyfer eu bwyta gan bobl, ynghyd â phwynt 2 o Ran II o Bennod A Atodiad III i Reoliad 999/2001 i'r graddau y mae'r pwynt hwnnw yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir ar gyfer eu bwyta gan bobl.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Ionawr 2007

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources