- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5) caiff cynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu ar gyfer talu am bob blwyddyn y mae'r cynllun yn gysylltiedig â hi lwfans (“lwfans cyfrifoldeb arbennig”) i'r cyfryw aelodau o'r awdurdod ag sy'n gynghorwyr ac sydd â'r cyfryw gyfrifoldebau arbennig mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw ag —
(a)a ragnodir gan y Panel mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw
(i)yn yr adroddiad cychwynnol; neu
(ii)mewn unrhyw adroddiad atodol; a
(b)a bennir yn y cynllun.
(2) Ni chaniateir talu lwfans cyfrifoldeb arbennig i fwy na hanner cant y cant o aelodau'r awdurdod (canran a gyfrifir drwy ddefnyddio cyfanswm nifer y seddau ar yr awdurdod a thrwy dalgrynnu i fyny nifer yr aelodau i'r Rhif cyfan nesaf pan nad yw'r Rhif , o gyfrifo'r ganran, yn Rhif cyfan).
(3) Ni chaiff y swm y mae hawl iddo o ran cyfrifoldeb arbennig a hynny ar ffurf lwfans cyfrifoldeb arbennig sy'n daladwy gan awdurdod, yn ddarostyngedig i reoliad 11 a pharagraffau (1) i (3) o reoliad 12, fod yn fwy na'r swm a ragnodir gan y Panel mewn cysylltiad â'r cyfrifoldeb arbennig hwnnw ac â'r awdurdod hwnnw —
(a)ac eithrio pan fydd is-baragraff (b) yn gymwys, yn yr adroddiad cychwynnol yn unol â rheoliad 34(1)(b)(ii);
(b)mewn adroddiad atodol, y mae darpariaethau perthnasol yr adroddiad yn gymwys ar y pryd.
(4) Ni chaniateir i awdurdod dalu mwy nag un lwfans cyfrifoldeb arbennig i aelod sy'n un o gynghorwyr yr awdurdod hwnnw.
(5) Rhaid i unrhyw gynllun sy'n gwneud y cyfryw ddarpariaeth ag a grybwyllir ym mharagraff (1) ddarparu —
(a)pan nad oes gan aelod, drwy gydol blwyddyn, unrhyw gyfrifoldebau arbennig o'r math sy'n rhoi i aelod hawl i lwfans cyfrifoldeb arbennig, bydd hawl yr aelod hwnnw yn hawl i daliad o'r cyfryw gyfran o'r lwfans hwnnw ag sy'n cynrychioli nifer y dyddiau pan fydd gan yr aelod hwnnw'r cyfryw gyfrifoldebau arbennig fel cyfran o nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno; a
(b)pan gaiff cynllun ei ddiwygio fel a grybwyllir ym mharagraff (2) o reoliad 6 ac nad oes gan aelod drwy gydol y cyfan o unrhyw gyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) o'r paragraff hwnnw unrhyw gyfrifoldebau arbennig o'r fath sy'n rhoi i aelod hawl i lwfans cyfrifoldeb arbennig, bydd hawl yr aelod hwnnw yn hawl i daliad o'r cyfryw gyfran o'r lwfans sy'n gymwys i bob cyfnod o'r fath ag sy'n cynrychioli nifer y dyddiau y pery tymor mewn swydd yr aelod yn y cyfnod hwnnw fel cyfran o nifer y dyddiau yn y cyfnod.
(6) Rhaid i gynllun bennu bod yn rhaid i'r awdurdod, pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod o awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu reoliadau a wneir o dan y Rhan honno, wrthod talu'r rhan o lwfans cyfrifoldeb arbennig sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu ddyletswyddau y mae'r aelod hwnnw wedi'i atal dros dro neu'n rhannol rhag eu cyflawni.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: