Search Legislation

Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “athro neu athrawes” (“teacher”) yw person sy'n athro ysgol neu'n athrawes ysgol at ddibenion adran 122 o Ddeddf 2002 ac mae'n cynnwys person y bernid ei fod yn athro neu'n athrawes heblaw am y ffaith nad yw parti arall y contract yn awdurdod neu'n gorff llywodraethu ysgol sy'n dod o fewn Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal ysgol a gynhelir neu a fydd yn cynnal ysgol arfaethedig;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

mae “diswyddo” (“dismissal”) i gael ei ddehongli yn unol ag adrannau 95 a 136 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(1);

ystyr “staff cymorth” (“support staff”) yw unrhyw aelod o staff ysgol heblaw athro neu athrawes.

(2Mae cyfeiriadau at unrhyw swydd wag yn cynnwys darpar swydd wag ac mae cyfeiriadau at absenoldeb person yn gyfeiriadau at absenoldeb y person o'r ysgol, neu ei absenoldeb arfaethedig o'r ysgol.

(3Mae person i gael ei drin fel pe bai'n bodloni unrhyw ofynion ynglŷn â chymwysterau staff os yw—

(a)yn bodloni unrhyw ofynion mewn perthynas â chymwysterau neu gofrestru sy'n gymwys iddo o ganlyniad i reoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adrannau 132 i 135 o Ddeddf 2002(2), rheoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 19 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(3) a rheoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 218(1)(a) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(4),

(b)yn bodloni unrhyw amodau o ran iechyd a chynneddf gorfforol sy'n gymwys iddo o ganlyniad i Reoliadau Addysg (Safonau Iechyd) (Cymru) 2004(5), ac

(c)heb fod yn destun unrhyw gyfarwyddyd sydd wedi'i wneud o dan adran 142 o Ddeddf 2002 na chaiff wneud gwaith y mae'r adran honno'n gymwys iddo.

(4Mae cyfeiriadau at staff cymorth yn cynnwys staff sydd wedi'u cymryd ymlaen i ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol o dan adran 27 o Ddeddf 2002.

(2)

Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, O.S. 2004/1729 (Cy. 173) a Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004, O.S. 2004/1744 (Cy.183) a Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 2005, O.S. 2005/1227 (Cy.85).

(3)

1998 p.30; Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, O.S.2003/543 (Cy.77) fel y'u diwygiwyd gan O.S.2004/872 (Cy.87), O.S.2004/1745 (Cy.184) ac y'u dirymwyd gan O.S. 2005/1818 (Cy.146).

(4)

1998 p.40; diddymir adran 218(1)(a) gan adrannau 146 a 215(2) o Ddeddf 2002 a Rhan 3 o Atodlen 22 iddi, nad ydynt mewn grym hyd yma. Gweler rheoliadau 11 i 14 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999, O.S. 1999/2817 (Cy.18).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources