- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
6.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n prynu llaeth oddi wrth berchennog buches odro yng Nghymru neu'r person â gofal amdani i'w ailwerthu fel llaeth neu gynnyrch llaeth—
(a)ddewis labordy a gymeradwywyd i brofi'r llaeth hwnnw am lewcosis buchol ensootig;
(b)hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am y labordy a ddewiswyd;
(c)unwaith bob pum mlynedd ac ar ei draul ei hun gyflwyno dwy sampl o laeth i'r labordy hwnnw i'w brofi am dystiolaeth o lewcosis buchol ensootig a rhaid gadael bwlch o bedwar mis o leiaf rhwng pob tro y cymerir samplau a rhaid i'r samplau gynnwys llaeth oddi wrth bob buwch odro yn y fuches honno y mae ei llaeth ar gael i'w werthu;
(ch)ychwanegu at y sampl y cadwolyn hwnnw y mae'r person â gofal am y labordy yn gofyn amdano;
(d)sicrhau bod label ar y sampl sy'n cynnwys—
(i)cod bariau neu ddyfais arall sy'n galluogi'r labordy i adnabod y fuches neu'r rhan o fuches y cymerwyd y sampl ohoni; a
(ii)dyddiad cymryd y sampl.
(2) Mae person yn esempt o'r dyletswydd a osodir gan baragraff (1) uchod, os yw'r person hwnnw dim ond yn prynu llaeth amrwd wedi'i ragbacio i'w ailwerthu—
(a)yn y cynhwysydd y cafodd y person hwnnw ef ynddo a'r caewyr heb eu torri;
(b)o gerbyd a ddefnyddir yn gyfreithlon fel mangre siop; a
(c)yn uniongyrchol i'r defnyddiwr olaf.
(3) Ym mharagraff (2) uchod, ystyr “defnyddiwr olaf” yw unrhyw berson sy'n prynu llaeth heblaw at ddibenion—
(a)ei ailwerthu;
(b)sefydliad arlwyo; neu
(c)busnes gweithgynhyrchu.
(4) Ni chaiff unrhyw berson mewn unrhyw ddull na modd drin, ac eithrio drwy ychwanegu cadwolyn yn unol â pharagraff (1)(ch) uchod, unrhyw sampl neu ei label, nac ymyrryd â hwy a bernir bod person wedi trin neu ymyrryd â sampl os yw'r person yn gwneud unrhyw beth mewn perthynas ag ef sy'n debygol o effeithio ar ganlyniad y profi sy'n ofynnol o dan yr erthygl hon.
(5) Rhaid i'r person â gofal am labordy a gymeradwywyd gydymffurfio â'r darpariaethau canlynol fel un o amodau'r gymeradwyaeth —
(a)rhaid i'r person hwnnw gadw cofnod o'r buchesi yr anfonir eu llaeth i'w brofi o dan baragraff (1) uchod;
(b)rhaid i'r person hwnnw hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith os na cheir sampl pan y'i disgwylir oddi wrth un o'r buchesi a restrir yn y cofnodion a gedwir dan is-baragraff (a) uchod;
(c)rhaid i'r person hwnnw hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 24 awr pan fydd sampl wedi ei brofi am dystiolaeth o fodolaeth o lewcosis buchol ensootig a bod y canlyniad yn gadarnhaol;
(ch)rhaid i'r person hwnnw hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn mis pan fydd sampl wedi ei brofi am dystiolaeth o fodolaeth lewcosis buchol ensootig a bod y canlyniad yn negyddol; a
(d)rhaid i'r person hwnnw gadw cofnod o ganlyniadau'r holl brofion a wneir am dystiolaeth o fodolaeth lewcosis buchol ensootig am gyfnod o flwyddyn o ddyddiad y prawf.
(6) Os bydd unrhyw berson yn methu â chymryd unrhyw gam sy'n ofynnol o dan ddarpariaethau paragraff (1) uchod, caiff arolygydd milfeddygol, heb ragfarnu unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi o'r methiant hwnnw, gymryd y cam hwnnw, neu beri ei gymryd, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw dreuliau y mae wedi mynd iddynt yn rhesymol wrth wneud hynny oddi wrth y person sydd wedi methu â chymryd y cam gofynnol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: