- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) a Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (“Rheoliadau 1999”).
2. Mae'r Rheoliadau'n rhoi ar waith ddeddfwriaeth ganlynol y Gymuned Ewropeaidd—
(a)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/6/EC (OJ Rhif L24, 27.1.2005, t.33) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 71/250/EEC o ran llunio adroddiad ar ganlyniadau dadansoddol a'u dehongli fel sy'n ofynnol o dan Gyfarwyddeb 2002/32/EC;
(b)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/7/EC (OJ Rhif L27, 29.1.2005, t.41) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/70/EC sy'n gosod gofynion ar gyfer penderfynu ar lefelau deuocsinau a PCBs o fath deuocsin mewn bwydydd anifeiliaid; ac
(c)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/8/EC (OJ Rhif L27, 29.1.2005, t.44) sy'n diwygio Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid.
3. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 1999 i adlewyrchu'r ffaith bod Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a wneir i sicrhau gwirio y cydymffurfir â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, ac â rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1) yn gwneud yn effeithiol, o 1.1.2006 ymlaen, y rhwymedigaeth gyffredinol sydd ar Aelod-wladwriaethau ac a gafwyd gynt yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC, i sicrhau bod gwaith samplu a dadansoddi, sy'n cael ei wneud yn unol â rheolaethau swyddogol, yn dilyn dulliau Cymunedol a ragnodir.
4. Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/8/EC drwy ddiwygio Atodlen 5 i Reoliadau 2006 mewn perthynas â chofnodion penodol ynghylch plwm, fflworin a mercwri.
5. Yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn—
(a)mae paragraffau (2) a (5) yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/7/EC o ran trosi drwy gyfeirio at y diwygiadau a wnaed gan y Gyfarwyddeb honno i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/70/EC;
(b)mae paragraff (3) yn gwneud y diwygiadau canlyniadol y cyfeirir atynt ym mharagraff 3 uchod;
(c)mae paragraffau (4) a (6) yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/6/EC drwy gyflwyno gofynion newydd o ran ansicrwydd ynghylch mesuriad estynedig a chywiro er mwyn adfer pan ddadansoddir bwyd anifeiliaid i ganfod lefelau'r sylweddau annymunol a phan lunnir adroddiad ar y dadansoddiad.
6. Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi ei baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y trosir darpariaethau gweithredol Cyfarwyddebau'r Comisiwn 2005/6, 2005/7 a 2005/8 yn gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Llawr 11, Wood Street, Caerdydd CF11 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: