Search Legislation

Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoleiddiol a Chwynion) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004

8.  Diwygir Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004(1) fel a ganlyn —

(a)Yn lle rheoliad 22 (Adolygu ansawdd gweithrediad y cynllun) rhodder—

Adolygu Ansawdd y Gofal

22.(1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal sy'n cael ei roi i bob oedolyn sydd wedi'i leoli o dan y cynllun lleoli oedolion.

(2) Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu —

(a)bod ansawdd y gofal yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn; a

(b)bod y person cofrestredig yn cael barn —

(i)yr oedolion perthnasol;

(ii)cynrychiolwyr yr oedolion perthnasol;

(iii)unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu i leoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolion;

(iv)gofalwyr lleoliad oedolion; a

(v)y staff sy'n cael eu cyflogi gan y cynllun,

ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.

(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —

(a)oedolion perthnasol;

(b)cynrychiolwyr oedolion perthnasol;

(c)unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu i leoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolion;

(ch)gofalwyr lleoliad oedolion;

(d)staff sy'n cael eu cyflogi gan y cynllun; ac

(dd)y Cynulliad Cenedlaethol.

Asesu'r Gwasanaeth

22A.(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig gynnal asesiad o ansawdd gweithredu'r cynllun gan gynnwys ansawdd y llety a'r gofal sy'n cael eu darparu i oedolion perthnasol drwy'r cynllun.

(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.

Hysbysu am gydymffurfedd

22B.(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.

(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan (1).

(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan (1) wedi'u cwblhau..

(b)Yn lle rheoliad 21 (Cwynion) rhodder—

Cwynion

21.(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig (“y weithdrefn gwyno”) ar gyfer ystyried cwynion a wneir iddo gan oedolyn perthnasol neu berson sy'n gweithredu ar ran oedolyn perthnasol neu ofalwr lleoliad oedolion.

(2) Rhaid i'r drefn gwyno fod yn briodol i anghenion oedolion perthnasol.

(3) Rhaid i'r drefn gwyno gynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwynion a wneir am y person cofrestredig.

(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau canlynol yn ymwybodol o fodolaeth y drefn gwyno a chymryd camau rhesymol i roi copi o'r drefn gwyno iddynt ar fformat priodol neu ar unrhyw fformat y gofynnir amdano —

(a)yr oedolion perthnasol;

(b)cynrychiolwyr yr oedolion perthnasol; ac

(c)unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu i leoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolion.

(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y gofalwyr lleoliad oedolion a'r staff sy'n cael eu cyflogi at ddibenion y cynllyn yn cael eu hysbysu o'r drefn gwyno, yn cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch gweithredu'r drefn gwyno.

(6) Rhaid i'r drefn gwyno gynnwys —

(a)enw, cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)y drefn, os oes un, y mae'r person cofrestredig wedi'i hysbysu ohoni gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(7) Rhaid i'r drefn gwyno gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar, pan fo'n briodol.

(8) Os yw'r drefn gwyno yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r drefn gwyno yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth y cynllun.

Ymdrin â chwynion

21A.(1) Rhaid i'r drefn gwyno a lunnir o dan reoliad 21 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles yr oedolyn perthnasol yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r oedolion perthnasol.

(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod lleol sydd wedi trefnu i leoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolion.

(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd

(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.

(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.

(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.

Datrysiad Lleol

21B.(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau gwaith.

(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.

(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu llety i oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolyn, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.

(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.

Ystyriaeth Ffurfiol

21C.(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.

(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid i'r cadarnhad hwnnw grynhoi natur a sylwedd y gwyn, yr ymchwiliad a wnaed, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.

(3) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu lleoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolyn.

(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.

(5) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.

Cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol

21D.(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—

(a)y mae'r achwynydd wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu codi achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys amdano, neu

(b)y mae'r person cofrestredig yn codi achos disgyblu amdano neu'n bwriadu codi achos disgyblu amdano, neu

(c)y mae'r person cofrestredig wedi cael ei hysbysu amdano bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan unrhyw berson neu gorff wrth ystyried achos troseddol; neu

(ch)y cynhaliwyd cyfarfod amdano sy'n cynnwys cyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion agored i niwed, neu

(d)yr hysbyswyd y person cofrestredig amdano bod ymchwiliadau cyfredol wrth ystyried achos o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, rhaid i'r person cofrestredig ystyried, wrth ymgynghori â'r achwynydd ac unrhyw berson arall neu gorff arall y mae'n briodol yn ei farn ef ymgynghori ag ef, sut y dylid ymdrin â'r gwyn. Rhaid cyfeirio at y cyfryw gwynion at ddibenion y rheoliad hwn fel “cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol”.

(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.

(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.

(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.

(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.

(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn..

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources