Search Legislation

Rheoliadau Arolygu'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 3103 (Cy.286)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Arolygu'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

21 Tachwedd 2006

Yn dod i rym

1 Ebrill 2007

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 55(4), 56(3), 57(7), (9) a (10) a 120(2) o Ddeddf Addysg 2005(1), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “adroddiad o arolygiad” (“inspection report”) yw'r adroddiad ar arolygiad y mae'n ofynnol i'r Prif Arolygydd ei wneud o dan adran 57(7);

ystyr “cynllun gwaith” (“action plan”) yw'r datganiad ysgrifenedig sy'n ymateb i adroddiad o arolygiad y cyfeirir ato yn adran 57(9) a rheoliad 6.

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2),

ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005;

ystyr “gwyl y banc” (“bank holiday”) yw diwrnod sy'n wyl y banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(3);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, nac yn wyl y banc;

ystyr “y Prif Arolygydd” (“the Chief Inspector”) yw Prif Arolygydd Ei Mawrhydi ar Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru(4); ac

mae i “service provider” a “relevant provider” yr ystyron a roddir iddynt gan adrannau 55 a 56 yn eu tro;

(2Os yw'n ofynnol, o dan y Rheoliadau hyn, i rywbeth gael ei wneud gan gyfeirio at gyfnod o amser sy'n cael ei gyfrif o ddyddiad penodol, mae'r cyfnod hwnnw'n dechrau yn union ar ôl y dyddiad hwnnw.

(3Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at adrannau (heb fwy) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005.

Arolygiadau cyntaf

3.—(1Mae'r Rheoliad hwn yn gymwys yn achos darparydd gwasanaeth neu ddarparydd perthnasol na chafodd ei archwilio o'r blaen naill ai o dan adran 35 neu 35A o Ddeddf 1998(5) nac o dan adran 55 neu 56.

(2Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys, mae'r darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol i gael ei arolygu o dan adran 55 neu 56 (yn ôl y digwydd), o fewn cyfnod o chwe blynedd o'r dyddiad pryd y daeth y darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol gyntaf yn ddarparydd o'r fath.

Bylchau rhwng arolygiadau olynol

4.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 3, rhaid i'r Prif Arolygydd wneud arolygiad, o dan adran 55, ar bob darparydd gwasanaeth, ac o dan adran 56 ar bob darparyddperthnasol, ar ôl pob bwlch o chwe blynedd.

(2At ddibenion paragraff (1), mae bylchau yn cychwyn o'r dyddiad pryd y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf ar y darparydd gwasanaeth (o dan adran 35 o Ddeddf 1998 neu adran 55) neu ar y darparydd perthnasol (o dan adran 35A o Ddeddf 1998 neu adran 56).

Y cyfnod ar gyfer paratoi adroddiad o arolygiad

5.  Y cyfnod y mae adroddiad o arolygiad i gael ei baratoi o'i fewn yw deg a thrigain o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad pryd y cwblhawyd yr arolygiad arno.

Dyletswydd i baratoi cynllun gwaith

6.  Rhaid i berson sy'n cael arolygiad dan adran 55 neu 56 baratoi adroddiad ysgrifenedig sy'n ymateb i'r adroddiad o arolygiad gan osod allan y camau fydd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw faterion y cyfeirir atynt yn yr adroddiad o arolygiad neu i weithredu unrhyw argymhellion a geir yn yr adroddiad, a'r graddfeydd amser ar gyfer cymryd y camau hynny neu ar gyfer gweithredu'r argymhellion hynny (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “cynllun gwaith”).

Y cyfnod ar gyfer paratoi cynllun gwaith

7.  Y cyfnod y mae'n rhaid i berson sy'n cael archwiliad dan adran 55 neu 56 baratoi cynllun gwaith o'i fewn yw hanner cant o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad y cafodd y person hwnnw gopi o'r adroddiad o arolygiad o dan adran 57(7)(b).

Darparu copïau o adroddiadau o arolygiadau a chynlluniau gwaith a'u cyhoeddi

8.—(1Rhaid i'r Prif Arolygydd anfon copi o adroddiad o arolygiad at y personau a ddynodir ym mharagraff (3) (yn ychwanegol at y rheini a ddynodir yn adran 57(7)(b)(i), (ii) a (iv) o Ddeddf 2005).

(2Rhaid i'r person sydd wedi paratoi cynllun gwaith anfon copi ohono at y personau a ddynodir ym mharagraff (3).

(3Y personau hynny yw—

(a)y Prif Arolygydd; a

(b)unrhyw berson sy'n gofyn am gopi.

9.  Rhaid i gopi o'r adroddiad o arolygiad a'r cynllun gwaith fod ar gael i'w archwilio yn swyddfa gofrestredig neu ym mhrif swyddfa'r darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol a gafodd ei archwilio, a rhaid ei gyhoeddi ar unrhyw wefan ar y rhyngrwyd sydd gan y darparydd hwnnw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Tachwedd 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adrannau 55 — 57 o Ddeddf Addysg 2005 yn darparu ar gyfer arolygiad o'r gwasanaeth gyrfaoedd a gwasanaethau cysylltiedig yng Nghymru gan y Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) Mae'r gwasanaethau hyn ar hyn o bryd yn cael eu darparu gan nifer o gwmnïau cyfyngedig â gwarantau, sy'n gweithredu ar y cyd fel Gyrfa Cymru. Mae darpariaethau Deddf 2005 yn cymryd lle'r darpariaethau a geid gynt yn Neddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Mae'r gofynion parthed arolygiad yn cael eu tynhau a'u gwneud yn fwy cyfatebol i'r rheini sy'n gymwys i ysgolion. Mae adrannau 55 — 57 yn darparu fframwaith, gan adael y manylion i gael eu rhagnodi mewn rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r manylion hynny.

Mae Rheoliad 2 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Mae Rheoliad 3 yn delio ag arolygiadau cyntaf. Rhaid i ddarparydd gwasanaeth gyrfaoedd a gwasanaethau eraill na chafodd ei arolygu o'r blaen gael ei arolygu o fewn cyfnod o chwe mlynedd o'r dyddiad pryd y daeth gyntaf yn ddarparydd.

Mae Rheoliad 4 yn darparu fod darparwyr presennol i gael eu harolygu bob chwe blynedd. Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiad o arolygiad gael ei baratoi o fewn deg a thrigain o ddiwrnodau gwaith o ddyddiad cwblhau'r arolygiad.

Mae Rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun gwaith (fel a ddisgrifir yn y rheoliad hwnnw) gael ei baratoi yn dilyn arolygiad.

Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynllun gwaith gael ei baratoi o fewn cyfnod o hanner cant o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad y derbyniodd y darparydd gopi o'r adroddiad o'r arolygiad.

Mae Rheoliadau 8 a 9 yn darparu ar gyfer anfon copïau o adroddiadau a chynlluniau gwaith i bersonau dynodedig, ac ar gyfer eu cyhoeddi yn swyddfeydd y darparydd ac ar y rhyngrwyd.

(1)

2005 p.18. Daw adrannau 55-57 i rym ar 1 Ebrill 2007: O.S. 2006/1338 (Cy.130 (C.45). Ar gyfer “prescribed” a “regulations”, gweler adran 55(8).

(4)

Gweler adran 73 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, p.21.

(5)

1998 p.30. Diwygiwyd adran 35 gan baragraff 77 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, a mewnosodwyd adran 35A gan adran 81 o'r Ddeddf honno. Diddymir y ddwy adran gan Ddeddf 2005, Atodlen 19, Rhan 1, sy'n effeithiol o 1 Ebrill 2007: O.S. 2006/1338 (Cy.130) (C.45).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources