Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 5Cyffredinol ac Atodol

Cymhwyso darpariaethau'r Ddeddf

22.  Mae'r darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn yr un modd ag y maent yn gymwys at ddibenion y Ddeddf —

(a)adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(b)adran 30(8) (ynghylch tystiolaeth ddogfennol);

(c)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).

Diwygiad i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990

23.  Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(1), yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt) yn lle enw a chyfeirnod Rheoliadau 1998 rhodder enw a chyfeirnod y Rheoliadau hyn.

Diwygiadau i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005

24.—(1Diwygir Rheoliadau 2005 yn unol â pharagraffau (2) i (6).

(2Yn rheoliad 2(1) —

(a)ar ôl y diffiniad o “Cyfarwyddeb 93/10/EEC” rhodder y diffiniad a ganlyn—

ystyr “Cyfarwyddeb 2002/72/EC” (“Directive 2002/72/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â deunyddiau bwyd(2), fel y'i diwygiwyd diwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/79/EC(3);

(b)mewnosoder y diffiniad canlynol yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor —

ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006(4).

(3Yn rheoliad 8—

(a)ar ddechrau paragraff (2) ychwaneger yr ymadrodd “Ac eithrio paragraff (4),”:

(b)yn lle paragraff (4) rhodder y paragraff canlynol—

(4) Ni chaiff neb weithgynhyrchu unrhyw gaenen i'w rhoi ar ffilm y cyfeirir ati ym mharagraff (3)(b) gan ddefnyddio unrhyw sylwedd neu grŵp o sylweddau ac eithrio'r rhai a restrir yn Atodiadau II, III neu IV i Gyfarwyddeb 2002/72/EC a heblaw yn unol â'r gofynion, y cyfyngiadau a manylebau priodol a geir yn yr Atodiadau hynny ac yn Rheoliadau 2006..

(4Yn rheoliad 9—

(a)ym mharagraff (3), yn lle'r ymadrodd “yn Rhan I o Atodlen 1 i Reoliadau 1998” rhodder “yn Adran A neu B o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/72/EC”.

(b)yn is-baragraff (b) o baragraff (3), yn lle'r ymadrodd “o'r Rhan honno fel y'i darllenir gyda Rhan II o'r Atodlen honno.” rhodder “o'r Adrannau hynny fel y'u darllenir gyda'r rhagarweiniad cyffredinol i'r Atodiad hwnnw.”.

(c)ym mharagraff (5), yn lle'r ymadrodd “Atodlenni 3 a 4 rhodder “Atodlenni 2 a 3”.

Dirymiadau

25.  Dirymir y Rheoliadau a ganlyn neu rannau ohonynt —

(a)Rheoliadau 1998 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru;

(b)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000(5);

(c)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002(6);

(ch)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002(7);

(d)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2004(8);

(dd)Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005(9);

(e)rheoliad 15 o Reoliadau 2005.

(2)

OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18. Diwygiwyd y Gyfarwyddeb hon o'r blaen gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2004/1/EC (OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45) a 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t..8)

(3)

OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.35.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources