- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
19.—(1) Caiff arolygydd, pan fydd yn cyflawni'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, fod y person sydd â gofal unrhyw gerbyd neu gyfarpar yn ei lanhau a'i ddiheintio.
(2) Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd, wrth gyflawni'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn—
(a)glanhau a diheintio unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw beth ar y fangre honno;
(b)ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, bod meddiannydd unrhyw fangre yn glanhau a diheintio unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw beth yn y fangre;
(c)ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, bod meddiannydd unrhyw fangre neu geidwad unrhyw ddofednod neu adar caeth eraill—
(i)yn cadw neu ynysu unrhyw ddofednod, neu unrhyw adar caeth neu anifeiliaid eraill mewn man penodedig;
(ii)gwahanu unrhyw ddofednod, adar caeth neu anifeiliaid oddi wrth unrhyw anifeiliaid neu adar eraill.
(3) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf(1)—
(a)adran 63 (pwerau cyffredinol arolygwyr);
(b)adran 64 (pwerau arolygwyr o ran dofednod);
(c)adran 64A(2) (pwerau arolygwyr o ran rhwymedigaethau Cymunedol);
(ch)adran 65(1) i (3) (pŵer i ddal llestri ac awyrennau dan gadwad).
(4) Mae adran 65A o'r Ddeddf(3) (arolygu cerbydau) yn gymwys fel petai—
(a)y Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf;
(b)y diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn; a
(c)pob parth brechu neu fangre a bennir mewn hysbysiad brechu wedi'i ddynodi at ddibenion yr adran honno tra bo'r hysbysiad brechu.
(5) Caiff arolygydd sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre o dan reoliad 8 neu baragraff (3)—
(a)marcio unrhyw aderyn neu beth arall at ddibenion eu hadnabod;
(b)cymryd samplau o unrhyw aderyn;
(c)mynd â'r personau a'r pethau ag ef y mae'r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
(6) Caiff unrhyw berson sy'n mynd i mewn i fangre o dan baragraff (5)(c) fynd yn ôl ati heb neb yn ei hebrwng i gymryd unrhyw gamau pellach sy'n angenrheidiol er mwyn gweithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn.
Estynnwyd y diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf i gynnwys dofednod ac adar caeth eraill, fel y'i diffinnir gan y Rheoliadau hyn, gan O.S. 2006/2927 (W.262).
Mewnosodwyd adran 64A gan O.S. 1992/3293, rheoliad 2.
Mewnosodwyd adran 65A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), adran 10.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: