- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
9.—(1) Rhaid i ardystio tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru fod yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i swyddog awdurdodedig ardystio bod tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru naill ai—
(a)yn datws hadyd cyn-sylfaenol,
(b)yn datws hadyd sylfaenol, neu
(c)yn datws hadyd ardystiedig,
os yw gofnion paragraff (3) wedi'u bodloni.
(3) Y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a)bod tystysgrif cnwd sy'n tyfu wedi cael ei dyroddi o ran y tatws hadyd; a
(b)o'u harchwilio'n swyddogol bod canfyddiad wedi ei wneud nad yw'r tatws hadyd dros ben unrhyw un o'r goddefiannau ar gyfer clefydau neu blâu, difrod neu ddiffygion a bennir yn narpariaethau priodol Atodlen 3.
(4) Rhaid i gais am ardystiad o datws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid bod gydag ef wybodaeth o'r fath ag a fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(5) At ddibenion paragraff (2), mae label swyddogol a ddyroddwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn o ran tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig yn dystiolaeth ddigonol bod swyddog awdurdodedig wedi ardystio bod y tatws hadyd y mae'r label yn ymwneud â nhw yn datws hadyd cyn-sylfaenol, yn datws hadyd sylfaenol neu yn datws hadyd ardystiedig, yn ôl y digwydd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: