Search Legislation

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro drwy Loeren) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Canolfan Monitro Pysgodfeydd” (“Fisheries Monitoring Centre”) yw Canolfan Monitro Pysgodfeydd a sefydlwyd o dan Erthygl 3(7) o Reoliad y Cyngor 2847/93;

ystyr “cwch pysgota Cymunedol” (“Community fishing boat”) yw cwch pysgota sy'n chwifio baner Aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sydd wedi cael ei gofrestru yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995(1) neu sydd dan berchnogaeth lwyr personau sy'n gymwys i berchnogi llongau Prydeinig at ddibenion y Rhan honno o'r Ddeddf;

ystyr “cwch pysgota trydedd gwlad” (“third country fishing boat”) yw llong bysgota sy'n chwifio baner gwladwriaeth ac eithrio Aelod-wladwriaeth o'r Cymunedau Ewropeaidd ac sydd wedi cael ei chofrestru yn y wladwriaeth honno ac mae'n cynnwys llong dderbyn yn ystyr Rheoliad y Cyngor 2847/93;

mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 155(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2);

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “darpariaeth gyfatebol” (“equivalent provision”) yw unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw Orchymyn arall a wneir at ddibenion gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn, sy'n rhychwantu unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y mae ganddi effaith gyfatebol i ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn, y gellir rhoi rheithdrefnau ar waith yng Nghymru ynglyn â hi yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981;

ystyr “dyfais olrhain drwy loeren” (“satellite-tracking device”) yw dyfais sy'n anfon yr wybodaeth sy'n ofynnol drwy gyfrwng lloeren a gorsaf ddaearol ar y tir i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd;

ystyr “person sydd â gofal” (“person in charge”), o ran cwch pysgota, yw perchennog, meistr neu'r siartrwr, os oes un, y cwch pysgota neu asiant unrhyw un ohonynt;

ystyr “Rheoliad y Cyngor 2847/93” (“Council Regulation 2847/93”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 sy'n sefydlu system reoli sy'n gymwys i'r polisi pysgodfeydd cyffredin(3) fel y'i newidiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2870/95(4), Penderfyniad y Cyngor (EC) Rhif 95/528(5), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2489/96(6), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 686/97(7), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2205/97(8), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2635/97(9), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2846/98(10), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003(11), Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1954/2003(12)) a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 768/2005(13));

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2244/2003 sy'n gosod darpariaethau manwl ynghylch Systemau Monitro Llongau ar sail lloeren(14)); ac

ystyr “yr wybodaeth sy'n ofynnol” (“required information”) yw'r wybodaeth a osodir yn Erthygl 5(1) o Reoliad y Comisiwn.

(2Mae unrhyw gyfeiriad at lyfr lòg, datganiad, dogfen neu wybodaeth sy'n ofynnol yn cynnwys, yn ogystal â llyfr lòg, datganiad, dogfen neu'r wybodaeth sy'n ofynnol mewn ysgrifen—

(a)unrhyw fap, cynllun, graff, lluniad neu ddyddiadur;

(b)unrhyw ffotograff;

(c)unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio synau neu ddata arall (ond nid delweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu ymhellach (gyda neu heb gymorth unrhyw gyfarpar arall); ac

(ch)unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negydd, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel (fel y crybwyllwyd ynghynt) atgynhyrchu'r delweddau ymhellach.

(3)

O.J. Rhif L261, 20.10.93, t.1.

(4)

O.J. Rhif L301, 14.12.95, t.1.

(5)

O.J. Rhif L301, 14.12.95, t.35.

(6)

O.J. Rhif L338, 28.12.96, t.12.

(7)

O.J. Rhif L102, 19.4.97, t.1.

(8)

O.J. Rhif L304, 7.11.97, t.1.

(9)

O.J. Rhif L356, 31.12.97, t.14.

(10)

O.J. Rhif L358, 31.12.98, t.5.

(11)

O.J. Rhif L122, 16.5.03, t.1.

(12)

O.J. Rhif L289, 7.11.03, t.1.

(13)

O.J. Rhif L128, 21.5.05, t.1.

(14)

O.J. Rhif L333, 20.12.03, t.17.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources