Search Legislation

Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 2646 (Cy.227)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

3 Hydref 2006

Yn dod i rym

9 Hydref 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 185(2) a (3) o Ddeddf Tai 1996(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 9 Hydref 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Ardal Deithio Gyffredin” (“the Common Travel Area”) yw'r Deyrnas Unedig, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon gyda'i gilydd;

ystyr “caniatâd cyfyngedig” (“limited leave”) yw caniatâd o dan Ddeddf 1971 i ddod i'r Deyrnas Unedig neu i aros yno a hwnnw'n ganiatâd am gyfnod cyfyngedig;

ystyr “ceisydd lloches” (“asylum-seeker”) yw person nad yw o dan 18 oed ac sydd wedi cyflwyno hawliad lloches a gofnodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel un a oedd wedi'i gyflwyno cyn 3 Ebrill 2000 ond nad yw wedi'i benderfynu;

ystyr “y Confensiwn ynglŷn â Ffoaduriaid” (“the Refugee Convention”) yw'r Confensiwn ynghylch Statws Ffoaduriaid a wnaed yn Genefa ar 28 Gorffennaf 1951(2) fel y'i hestynnwyd gan Erthygl 1(2) o'r Protocol ynghylch Statws Ffoaduriaid a wnaed yn Efrog Newydd ar 31 Ionawr 1967(3);

ystyr “Deddf 1971” (“the 1971 Act”) yw Deddf Fewnfudo 1971(4);

ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf Ceiswyr Gwaith 1995(5);

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Tai 1996;

ystyr “hawliad lloches” (“claim for asylum”) yw hawliad y buasai'n groes i rwymedigaethau'r Deyrnas Unedig o dan y Confensiwn Ffoaduriaid i'r hawlydd gael ei symud o'r Deyrnas Unedig, neu i'w gwneud yn ofynnol iddo ymadael â'r Deyrnas Unedig; ac

ystyr “y rheolau mewnfudo” (“the immigration rules”) yw'r rheolau a osodwyd fel y'u crybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf 1971 (darpariaethau cyffredinol ar gyfer rheoleiddio a rheoli).

(2At ddibenion y diffiniad o “ceisydd lloches”, penderfynir hawliad lloches ar ddiwedd y cyfnod sy'n dechrau—

(a)ar y dyddiad y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn hysbysu'r hawlydd o'r penderfyniad ar yr hawliad; neu

(b)os yw'r hawlydd wedi apelio yn erbyn penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, ar y diwrnod y gwaredir yr apêl,

a hwnnw'n gyfnod a ragnodir o dan adran 94(3) o Ddeddf Ymfudo a Lloches 1999(6).

(3At ddibenion rheoliadau 3(1)(i) (Dosbarth I)—

(a)ystyr “lwfans ceisio gwaith ar sail incwm” (“an income-based jobseeker’s allowance”) yw lwfans ceisio gwaith, sy'n daladwy o dan Ddeddf 1995, y mae hawl i'w gael wedi'i seilio ar y ffaith bod yr hawlydd yn bodloni amodau sy'n cynnwys y rhai sydd wedi'u nodi yn adran 3 o Ddeddf 1995 (yr amodau sy'n seiliedig ar incwm);

(b)mae i “cymorthdal incwm” yr un ystyr ag “income support” yn adran 124 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(7) (cymhorthdal incwm); ac

(c)mae person ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ar unrhyw ddiwrnod y mae lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn daladwy i'r person hwnnw ac ar unrhyw ddiwrnod—

(i)y mae'r person hwnnw'n bodloni'r amodau o ran hawl i gael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ar ei gyfer ond pan na fo'r lwfans yn cael ei dalu'n unol ag adran 19 o Ddeddf 1995(8) (amgylchiadau nad yw'r lwfans ceisio gwaith yn daladwy odanynt); neu

(ii)sy'n ddiwrnod aros at ddibenion paragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf 1995 (diwrnodau aros) ac sy'n dod yn union cyn diwrnod y mae lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn daladwy ar ei gyfer i'r person hwnnw neu y byddai'n daladwy iddo oni bai am adran 19 o Ddeddf 1995.

Dosbarthiadau o bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac sy'n gymwys i gael cymorth tai

3.—(1Mae'r canlynol yn ddosbarthiadau o bersonau a ragnodwyd at ddibenion adran 185(2) o Ddeddf 1996 (personau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac sy'n gymwys i gael cymorth tai)-

(a)Dosbarth A—person a gofnodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn ffoadur o fewn y diffiniad o “refugee” yn Erthygl 1 o'r Confensiwn ynglyn â Ffoaduriaid;

(b)Dosbarth B—person—

(i)sydd wedi cael caniatâd eithriadol gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddod i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi y tu allan i ddarpariaethau'r rheolau mewnfudo; a

(ii)nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw gynnal ei hun a lletya ei hun, ac unrhyw berson sy'n dibynnu ar y person hwnnw, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;

(c)Dosbarth C—person y mae ganddo ganiatâd cyfredol i ddod i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a hwnnw'n ganiatâd nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad neu amod ac sy'n preswylio fel arfer yn yr Ardal Deithio Gyffredin ac eithrio person—

(i)sydd wedi cael caniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar ôl i ymrwymiad ysgrifenedig yn unol â'r rheolau mewnfudo gael ei roi gan berson arall (“noddwr” y person hwnnw) yn datgan y byddai'n gyfrifol am gynhaliaeth a llety'r person hwnnw;

(ii)sydd wedi bod yn preswylio yn y Deyrnas Unedig am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i'r Deyrnas Unedig neu'r dyddiad y rhoddwyd yr ymrwymiad ar gyfer y person hwnnw, pa ddyddiad bynnag yw'r diweddaraf; a

(iii)y mae ei noddwr, neu pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o'i noddwyr, yn dal yn fyw;

(ch)Dosbarth D—person a adawodd diriogaeth Montserrat ar ôl 1 Tachwedd 1995 oherwydd effaith ffrwydriad llosgfynyddol ar y diriogaeth honno;

(d)Dosbarth E—person sy'n preswylio fel arfer yn yr Ardal Deithio Gyffredin ac—

(i)sy'n wladolyn gwladwriaeth sydd wedi cadarnhau'r Confensiwn Ewropeaidd ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol a wnaed ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953(9) neu wladwriaeth sydd wedi cadarnhau Siarter Cymdeithasol Ewrop a wnaed yn Torino ar 18 Hydref 1961(10) ac sy'n bresennol yn gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig; neu

(ii)cyn 3 Ebrill 2000 yr oedd ar awdurdod tai ddyletswydd iddo o dan Ran III o Ddeddf Tai 1985(11) (tai a'r digartref) neu Ran VII o Ddeddf 1996 (digartrefedd) sy'n dal mewn bodolaeth, a'r person hwnnw'n wladolyn gwladwriaeth sy'n un o lofnodwyr y Confensiwn Ewropeaidd ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol a wnaed ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953 neu wladwriaeth sy'n un o lofnodwyr Siarter Cymdeithasol Ewrop a wnaed yn Torino ar 18 Hydref 1961;

(dd)Dosbarth F—person sy'n geisydd lloches ac a gyflwynodd hawliad lloches—

(i)sydd wedi'i gofnodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel un oedd wedi'i gyflwyno pan gyrhaeddodd y person y Deyrnas Unedig (yn hytrach na phan ddaeth yn ôl i'r Deyrnas Unedig) o wlad sydd y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin; a

(ii)nad yw wedi'i gofnodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel un sydd wedi'i benderfynu (ac eithrio ar apêl) neu wedi'i ollwng;

(e)Dosbarth G—person sy'n geisydd lloches ac—

(i)a oedd ym Mhrydain Fawr pan wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol ddatganiad i'r perwyl bod newid mor sylfaenol yn amgylchiadau'r wlad y mae'r person hwnnw yn un o'i gwladolion fel na fyddai'r Ysgrifennydd Gwladol fel rheol yn gorchymyn i berson ddychwelyd i'r wlad honno;

(ii)a gyflwynodd hawliad lloches sydd wedi'i gofnodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel un a oedd wedi'i gyflwyno o fewn cyfnod o dri mis o'r diwrnod y cafodd y datganiad hwnnw ei wneud; a

(iii)y mae ei hawliad lloches heb ei gofnodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel un sydd wedi'i benderfynu (ac eithrio ar apêl) neu wedi'i ollwng;

(f)Dosbarth H—person sy'n geisydd lloches ac—

(i)a gyflwynodd hawliad lloches perthnasol ar 4 Chwefror 1996 neu cyn hynny; a

(ii)yr oedd ganddo, ar 4 Chwefror 1996, hawl i gael budd-dal o dan reoliad 7A o Reoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) 1987(12) (personau o dramor);

(ff)Dosbarth I—person sydd ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu'n cael cymhorthdal incwm ac sy'n gymwys i gael y budd-dal hwnnw am reswm gwahanol i'r rheswm—

(i)bod gan y person hwnnw ganiatâd cyfyngedig i ddod i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a hwnnw'n ganiatâd a roddwyd yn unol â'r rheolau mewnfudo perthnasol a bod y person hwnnw heb gyllid am gyfnod dros dro oherwydd amhariad ar y taliadau sy'n cael eu hanfon o dramor at y person hwnnw; neu

(ii)y barnwyd o dan reoliad 3 o Reoliadau Personau wedi'u Dadleoli (Amddiffyn Dros Dro) 2005(13) fod y person hwnnw wedi cael caniatâd eithriadol i ddod i'r Deyrnas Unedig neu i aros yno at ddibenion darparu moddion byw; ac

(g)Dosbarth J—person y mae amddiffyniad dyngarol wedi'i roi iddo o dan y Rheolau Mewnfudo.

(2Ym mharagraff (1)(f)(i) (Dosbarth H), mae hawliad lloches perthnasol yn hawliad lloches—

(a)nad yw wedi'i gofnodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel un sydd wedi'i benderfynu (ac eithrio ar apêl) neu wedi'i ollwng; neu

(b)sydd wedi'i gofnodi fel un sydd wedi'i benderfynu (ac eithrio ar apêl) ar neu cyn 4 Chwefror 1996 ac y mae apêl yn yr arfaeth—

(i)a oedd yn yr arfaeth ar 5 Chwefror 1996; neu

(ii)a oedd wedi'i gwneud o fewn y terfynau amser a bennwyd yn y rheolau gweithdrefn a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1971(14) (gweithdrefn).

(3Ym mharagraff (1)(ff)(i) (Dosbarth I), ystyr “rheolau mewnfudo perthnasol” (“relevant immigration rules”) yw'r rheolau mewnfudo ynghylch—

(a)sefyllfa pan nad oes, neu pan nad oes angen, unrhyw ddibyniaeth ar gronfeydd cyhoeddus;

(b)sefyllfa pan na ddidynnir unrhyw swm o gronfeydd cyhoeddus.

(4Ym mharagraff (1)(ff) (Dosbarth I), mae i “moddion byw” yr un ystyr â “means of subsistence” yn rheoliad 4 o Reoliadau Personau wedi'u Dadleoli (Amddiffyn Dros Dro) 2005(15).

Disgrifiad o bersonau sydd i'w trin fel personau o dramor sy'n anghymwys i gael cymorth tai.

4.—(1Mae'r canlynol yn ddisgrifiadau o bersonau, ac eithrio personau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, sydd i'w trin at ddibenion Rhan VII o Ddeddf 1996 (digartrefedd) fel personau o dramor sy'n anghymwys i gael cymorth tai—

(a)yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), person nad yw'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon;

(b)person y mae ei hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon, yn deillio'n unig o Gyfarwyddeb y Cyngor Rhif 90/364/EEC neu Gyfarwyddeb y Cyngor Rhif 90/365/EEC.

(2Ni fydd y personau canlynol, serch hynny, yn cael eu trin fel personau o dramor sy'n anghymwys yn unol â pharagraff (1)(a)—

(a)person sy'n weithiwr at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 neu (EEC) Rhif 1251/70;

(b)person sy'n weithiwr i wladwriaeth sydd wedi'i derbyn ac y mae arno angen cael ei gofrestru ac sy'n cael ei drin fel gweithiwr at ddibenion y diffiniad o berson cymwysedig (“qualified person”) yn rheoliad 6 o Reoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006(16) yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Ymaelodi (Mewnfudo a Chofrestru Gweithwyr) 2004(17);

(c)person sydd â hawl i breswylio yn unol â Rheoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006(18), a honno'n hawl sy'n deillio o Gyfarwyddeb y Cyngor Rhif 68/360/EEC, Rhif 73/148/EEC neu Rif 75/34/EEC;

(ch)person a adawodd diriogaeth Montserrat ar ôl 1 Tachwedd 1995 oherwydd effaith ffrwydriad llosgfynyddol ar y diriogaeth honno.

(3Ni fydd person yn cael ei drin fel un sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon at ddibenion paragraff (1)(a) os nad oes ganddo hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon.

Darpariaethau trosiannol

5.  Ni fydd y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn effeithiol o ran ceisydd yr oedd ei gais am gymorth tai o dan Ran VII o Ddeddf 1996 wedi'i wneud cyn 9 Hydref 2006.

Dirymu

6.  Dirymir drwy hyn Reoliadau Digartrefedd (Cymru) 2000(19).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(20)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Hydref 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Nid yw person sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn gymwys i gael cymorth tai o dan Ran VII o Ddeddf Tai 1996 (digartrefedd) oni bai bod y person hwnnw yn perthyn i ddosbarth a ragnodwyd o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 185(2)). Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth ynghylch disgrifiadau eraill o bersonau sydd i'w trin at ddibenion Rhan VII fel personau o dramor sy'n anghymwys i gael cymorth tai (adran 185(3)).

Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod dosbarth newydd o bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, sy'n gymwys i gael cymorth tai ac sy'n cael amddiffyniad dyngarol. Mae amddiffyniad dyngarol yn ffurf ar ganiatâd a roddir i bersonau nad ydynt yn gymwys i gael statws ffoaduriaid ond a fyddai'n wynebu risg gwirioneddol o ddioddef niwed difrifol os caent eu hanfon yn ôl i'r wladwriaeth y maent yn tarddu ohoni (gweler paragraffau 339C-344C o'r Rheolau Mewnfudo (HC395)).

Ni fydd y Rheoliadau hyn yn effeithio ar geisiadau am gymorth tai a wneir cyn 9 Hydref 2006.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2000.

(2)

Gorch. 9171.

(3)

Gorch. 3906.

(6)

1999 p.33. Gweler adran 167 o'r Ddeddf honno i gael y diffiniad o “prescribed” at ddibenion y Ddeddf honno.

(7)

1992 p.4. Diwygiwyd adran 124 gan baragraff 30 o Atodlen 2, a chan Atodlen 3, i Ddeddf 1995.

(8)

Diwygiwyd adran 19 gan baragraff 67 o Atodlen 1 i'r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth (p.18) a pharagraff 141 o Atodlen 7 i Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1998 (p.14).

(9)

Gorch. 9512.

(10)

Gorch. 2643.

(11)

1985 p.68. Nid yw diddymiad Rhan III, a ddechreuwyd gan Ddeddf Tai 1996 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) 1996 (O.S. 1996/2959 (p.88)), yn rhinwedd paragraff 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw, yn gymwys i geiswyr o dan Ran III o'r Ddeddf honno yr oedd eu ceisiadau wedi'u gwneud cyn 20 Ionawr 1997.

(12)

O.S. 1987/1971; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1994/470 a 1994/1807.

(14)

Diwygiwyd adran 22 gan O.S. 1987/465; mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Diddymwyd adran 22 o Ddeddf 1971 gan Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 p.33. 2 Hydref 2000 oedd y dyddiad dod i rym at ddibenion penodol yn unig (OS 2000/2444).

(20)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources