Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rhan 2Cyfeirio Gwrthwynebiadau gan Rieni

Rhieni sy'n gymwys i gyfeirio gwrthwynebiad

6.  At ddibenion adran 90(2)(b) y disgrifiad o riant a gaiff gyfeirio gwrthwynebiad sy'n ymwneud â threfniadau derbyn o dan yr is-adran honno yw unigolyn—

(a)os yw'r gwrthwynebiad yn dod o fewn rheoliad 7(1)(a), sy'n rhiant y mae ei blentyn o oedran ysgol gorfodol ac yn derbyn addysg gynradd; neu

(b)os yw'r gwrthwynebiad yn dod o fewn rheoliad 7(1)(b), sy'n rhiant y mae ei blentyn wedi cael ei ben blwydd yn ddwy oed ond heb gael ei ben blwydd yn bump oed, neu sy'n rhiant y mae ei blentyn o oedran ysgol gorfodol ac yn derbyn addysg gynradd,

ac sydd (yn y naill achos a'r llall) yn preswylio yn yr ardal berthnasol y mae ymgynghori o dan adran 89(2)(b) ynghylch y trefniadau derbyn hynny'n gymwys.

Gwrthwynebiadau y caiff rhieni eu cyfeirio

7.—(1At ddibenion adran 90(2)(c) y disgrifiad o wrthwynebiad y caniateir ei gyfeirio o dan adran 90(2) yw—

(a)gwrthwynebiad sy'n ymwneud â threfniadau dethol sydd eisoes yn bodoli;

(b)gwrthwynebiad sy'n ymwneud â nifer derbyn ar gyfer unrhyw grŵp oedran perthnasol sy'n is na'r nifer derbyn a nodir ar gyfer y grŵp oedran hwnnw.

(2At ddibenion y rheoliad hwn,

(a)ystyr “trefniadau dethol” (“selection arrangements”) yw'r trefniadau hynny (os oes rhai) yn y trefniadau derbyn a benderfynwyd ar gyfer ysgol ar gyfer blwyddyn ysgol benodol ac sy'n darparu ar gyfer dethol disgyblion yn ôl eu gallu o fewn ystyr adran 99(5); a

(b)mae trefniadau dethol i'w hystyried yn rhai sydd eisoes yn bodoli os ydynt—

(i)yn parhau o'r ddarpariaeth a wnaed yn nhrefniadau derbyn yr ysgol o dan sylw ar ddechrau blwyddyn ysgol 1997/98 ac a wnaed gan drefniadau derbyn olynol yr ysgol byth oddi ar hynny, a

(ii)yn llwyr ddibynnol ar adran 100 o ran bod yn gyfreithlon.

(3At ddiben paragraff (2)(b)(ii), mae trefniadau dethol i'w hystyried yn rhai sy'n llwyr ddibynnol ar adran 100 o ran bod yn gyfreithlon os na chânt eu gwneud yn gyfreithlon yn rhinwedd adran 99(1) a (2)(c) (dosbarthiadau chwech), neu adran 101 (bandio disgyblion).

Amod i'w fodloni cyn penderfynu gwrthwynebiadau gan rieni

8.—(1Rhaid i'r amod ym mharagraff (2) gael ei fodloni cyn bydd yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu gwrthwynebiad gan riant o dan adran 90(2).

(2Yr amod yw bod nid llai na phump o rieni sy'n bodloni'r gofyniad yn rheoliad 6 wedi cyfeirio gwrthwynebiadau o dan adran 90(2) (neu un neu fwy o wrthwynebiadau ar y cyd)—

(a)sy'n ymwneud â'r un trefniadau derbyn; a

(b)sy'n codi'r un mater neu fater sy'n sylweddol yr un fath.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources