Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dyma'r gorchymyn cychwyn cyntaf o dan Ddeddf Addysg 2005 (“Deddf 2005”) i gael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n dwyn i rym holl ddarpariaethau Deddf 2005 sy'n gofyn am orchymyn gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w dwyn i rym, ac eithrio adran 101 ac Atodlen 16 (a diwygiadau canlyniadol perthynol a diddymiadau yn Atodlenni 18 a 19) ynghylch ariannu ysgolion a gynhelir, ac adran 70 (a diwygiad canlyniadol perthynol yn Atodlen 12) ynghylch cynigion i gau ysgolion cynradd gwledig. Er hynny, dygir adrannau 41 a 42 i rym yn unig wrth eu cymhwyso i ysgolion arbennig o'r math y cyfeirir ato yn adran 28(2)(d).

Ar wahân i ddarpariaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru ac a ddygir i rym gan y Gorchymyn ar 1 Ebrill 2007 (gweler Atodlen 3), dygir y darpariaethau a ddygir i rym gan y Gorchymyn i rym ar 1 Medi 2006 (gweler Atodlenni 1 a 2). Dygir y darpariaethau a restrir yn Atodlen 1 i rym o ran Cymru yn unig. Am resymau technegol, mae'r rhai a restrir yn Atodlenni 2 a 3 yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr, ond at ddibenion ymarferol, nid ydynt yn gymwys yn Lloegr.

Mae disgrifiad cryno isod o'r darpariaethau a ddygir i rym gan y Gorchymyn. Yn yr hyn a ganlyn, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005 ac at Atodlenni iddi.

Darpariaethau yn Rhan 1 a ddygir i rym gan y Gorchymyn

Gan mwyaf, mae darpariaethau ar wahân (a gwahanol) yn gymwys i Gymru i'r rhai sy'n gymwys i Loegr. Mae penodau 1 a 2 o Ran 1 o Ddeddf 2005, a ddaeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol (7 Ebrill 2005) yn ddarpariaethau newydd nad ydynt yn gymwys ond i Loegr. O ran Lloegr, maent yn disodli'r gyfraith sy'n ymwneud ag arolygiadau ysgolion yn Neddf Arolygiadau Ysgolion 1966 (“Deddf 1996”). Yn rhinwedd adran 62 gellir cyflwyno system debyg i Gymru os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu gwneud hynny ac ar adeg y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei phenderfynu. Yn y cyfamser, mae darpariaethau Rhan 1 (gan gynnwys Atodlenni 1 - 9) a ddygir i rym gan y Gorchymyn hwn gan mwyaf yn ailddeddfu Deddf 1996 fel y mae'n gymwys i Gymru. Diddymir y Ddeddf honno yn ei chyfanrwydd gan adran 60. Ar wahân i'r darpariaethau a ailddeddfir, mae'r darpariaethau a ddygir i rym gan y Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer arolygu'r gwasanaethau gyrfaoedd, ac yn gwneud rhai diwygiadau (diwygiadau canlyniadol at ei gilydd) i amrywiol ddeddfiadau sy'n ymwneud ag arolygiadau (gan gynnwys deddfiadau sy'n ymwneud ag arolygu dosbarthiadau chwech; gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin; ac ysgolion annibynnol) - Atodlenni 5 i 9.

Ymhlith y newidiadau sylweddol y mae–

  • darpariaeth newydd ar gyfer arolygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru (adrannau 55 - 57)

  • pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol i roi cyngor ar benodi neu ddiswyddo Prif Arolygydd Cymru, ac i sefydlu bwrdd cynghori i roi cyngor ynghylch swyddogaethau'r Prif Arolygydd (adrannau 19 a 22)

  • newidiadau yn y ddarpariaeth ar gyfer ysgolion sy'n peri pryder; yn enwedig, yn y ffordd y mae'r ysgolion hynny i'w categoreiddio mewn adroddiadau arolygu (Pennod 5 o Ran 1)

  • O ran arolygiadau o addysg grefyddol, mae gofyniad newydd i ysgolion eglwysig ymgynghori â phersonau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn dewis arolygydd (adran 50)

  • darpariaeth newydd sy'n galluogi gwneud adroddiadau cyfunol o ran arolygiadau a wneir o dan Ddeddf 2005 ac amryw o ddeddfiadau eraill sy'n ymwneud ag addysg a phlant (adran 59)

Darpariaethau yn Rhannau 2 a 4 a ddygir i rym gan y Gorchymyn

Mae adran 71 yn diwygio adran 31 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i wneud ymgynghori yn ofynnol o ran cynigion penodol sy'n ymwneud ag ysgol arbennig a gynhelir.

Mae adran 73 yn diffinio termau a ddefnyddir yn Rhan 2.

Mae adran 105 yn mewnosod adran 28A newydd yn Neddf Addysg 2002 sy'n rhoi pwerau cyfyngedig i ysgolion a gynhelir gynnig cyrsiau addysg uwch i'w disgyblion.

Mae adran 106 yn mewnosod adran 89(1A) newydd yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ynghylch trefniadau derbyn ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Mae adran 115 yn diwygio adran 29(3) o Ddeddf Addysg 2002 (ynghylch pŵer corff llywodraethu ysgol i gyfarwyddo disgyblion i fynychu darpariaeth addysgol amgen).

Mae adran 116 yn mewnosod adran newydd 444ZA yn Neddf Addysg 1996 ynghylch methiant â sicrhau bod disgyblion yn mynychu'r ysgol a hysbysiadau cosb.

Mae adran 117 yn cyflwyno Atodlen 18 sy'n diwygio amryw o ddeddfiadau.

Mae adran 118 yn diffinio “the 2002 Act” at ddibenion Rhan 4.

Mae adran 123 yn cyflwyno Atodlen 19 (Diddymu).

Darpariaethau trosiannol ac arbedion

Mae Atodlen 4 yn cynnwys darpariaethu trosiannol ac arbedion.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources