- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006, RHAN 1.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 Rhn. 1 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)
1. Yn y Rhan hon–LL+C
ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i neu sy'n dal swydd daledig neu gyflogaeth dan yr awdurdod;
mae i “camau disgyblu” (“disciplinary action”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006;
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1);
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(2);
mae i “maer etholedig” a “chorff gweithredol” yr un ystyr sydd I “elected mayor” ac “executive” yn Rhan II o Ddeddf 2000; ac
ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw swyddog a benodwyd gan yr awdurdod at ddibenion y darpariaethau yn y Rhan hon.
2. Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid cyflawni swyddogaeth penodi a diswyddo aelod o staff yr awdurdod perthnasol, a chymryd camau disgyblu yn ei erbyn, ar ran yr awdurdod perthnasol, gan [F1y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan brif weithredwr yr awdurdod].LL+C
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 wedi eu hamnewid (5.5.2022) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022 (O.S. 2022/355), rhlau. 1(2), 3(6)(a) (ynghyd â rhl. 9)
3.— [F2(1)] Nid yw paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn, y canlynol–LL+C
[F3(a)y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod;]
(b)prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989(3) (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol);
(c)prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989;
(ch)dirprwy brif swyddog o fewn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989;
(d)person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989(4) (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol);
(dd)person a benodwyd yn rhinwedd rheoliadau o dan baragraff 6 Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (cymhorthydd y maer); neu
(e)person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr [F4awdurdod lleol] ) o Ddeddf Addysg 2002(5) yn gymwys iddo.
[F5(f)y swyddog a ddynodwyd yn swyddog monitro’r awdurdod; neu
(ff)y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaethau democrataidd yr awdurdod.]
[F6(2) Nid yw paragraff 2 yn gymwys i ddiswyddo, na chymryd camau disgyblu yn erbyn, swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef,—
(a)a oedd yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (ff), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a
(b)pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (ff).]
Diwygiadau Testunol
F2Atod. 3 para. 3(1): Atod. 3 Rhn. 1 para. 3 wedi ei ailrifo fel Atod. 3 Rhn. 1 para. 3(1) (1.7.2014) gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/1514), rhlau. 1(2), 10(1)(a) (ynghyd â rhl. 12)
F3Atod. 3 Rhn. 1 wedi ei amnewid (5.5.2022) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022 (O.S. 2022/355), rhlau. 1(2), 3(6)(b) (ynghyd â rhl. 9)
F4Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 para. 3(g) wedi eu hamnewid (5.5.2010) gan Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1142), ergl. 1(1), Atod. 2 para. 18(2)
F5Atod. 3 para. 3(1)(h)(i) wedi ei fewnosod (1.7.2014) gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/1514), rhlau. 1(2), 10(1)(b) (ynghyd â rhl. 12)
F6Atod. 3 para. 3(2) wedi ei fewnosod (1.7.2014) gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/1514), rhlau. 1(2), 10(1)(c) (ynghyd â rhl. 12)
4.—(1) Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo [F7person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod], rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn cynnig y penodiad neu, pa un bynnag sy'n briodol, rhaid cymeradwyo'r diswyddo hwnnw cyn rhoi rhybudd diswyddo.LL+C
(2) Lle bo pwyllgor neu is-bwyllgor yr awdurdod perthnasol yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a), (b), (c) [F8, (ch), (f), neu (ff) o baragraff 3(1) neu’r swyddogaeth o ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(2)] –
(a)rhaid i o leiaf un aelod o'r corff gweithredu fod yn aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; a
(b)rhaid nad yw mwy na hanner aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw yn aelodau o weithrediaeth yr awdurdod perthnasol.
Diwygiadau Testunol
F7Geiriau yn Atod. 3 Rhn. 1 wedi eu hamnewid (5.5.2022) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Drosiannol) (Prif Weithredwyr) 2022 (O.S. 2022/355), rhlau. 1(2), 3(7)(c) (ynghyd â rhl. 9)
F8Geiriau yn Atod. 3 para. 4(2) wedi eu hamnewid (1.7.2014) gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/1514), rhlau. 1(2), 10(1)(d) (ynghyd â rhl. 12)
5. Nid oes unrhyw beth ym mharagraff 2 yn atal person rhag gweithredu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.LL+C
[F96. Rhaid i’r awdurdod perthnasol bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol, ac unrhyw newid yn lefel y gydnabyddiaeth ariannol, a delir i brif swyddog.]LL+C
Diwygiadau Testunol
F9Atod. 3 para. 6 wedi ei fewnosod (1.7.2014) gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/1514), rhlau. 1(2), 10(1)(e) (ynghyd â rhl. 12)
Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).
Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: