- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
52.—(1) Mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys drwy gydol y cyfnod cymhwystra.
(2) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”) ym mharagraff (1) yn rhedeg tan ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau ei gwrs rhan-amser dynodedig ynddi.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y bydd yn penderfynu arno.
(4) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr rhan-amser cymwys—
(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs rhan-amser dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu lle na fydd yn trosglwyddo neu yn trosi ei statws o dan reoliad 57 neu 58; neu
(b)yn rhoi'r gorau i'w gwrs rhan-amser dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.
(6) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr rhan-amser cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—
(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;
(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth;
(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 61.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: