- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
49.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordaliad grant neu fenthyciad at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan Ran 6 neu 7 sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y cymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan Ran 6 neu 7.
(3) Caniateir i unrhyw ordaliad ar gyfer unrhyw grant o dan Ran 6 gael ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—
(a)drwy dynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(b)drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Caniateir i unrhyw ordaliad benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd gael ei adennill os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn—
(a)bod y gordaliad yn deillio o fethiant gan y myfyriwr i roi yn ddi-oed wybodaeth a allai effeithio ar a oes ganddo hawl i gael benthyciad neu beidio neu ar swm y benthyciad y mae ganddo hawl i'w gael; neu
(b)bod unrhyw wybodaeth y mae'r myfyriwr wedi'i rhoi yn anghywir o ran manylyn perthnasol; neu
(c)bod y myfyriwr wedi methu â rhoi gwybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn berthnasol yng nghyd-destun adennill y benthyciad.
(5) Os oes gordaliad benthyciad at gostau byw yn adenilladwy yn unol â pharagraff (4), caniateir ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—
(a)drwy dynnu'r gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(b)drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(6) Os cafwyd gordaliad benthyciad at gostau byw nad yw'n adenilladwy o dan baragraff (4), caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu'r gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: