Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “a ariennir yn gyhoeddus” (“publicly-funded”) yw yn cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau ailadroddus o'r cronfeydd cyhoeddus ac mae ymadroddion perthynol i'w dehongli yn unol â hyn;

ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r Gymuned Ewropeaidd ac ardal Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Teyrnas Norwy a Thywysogaeth Liechtenstein;

mae i “athro neu athrawes gymwysedig” yr ystyr a roddir i “qualified teacher” yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002(1);

ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw'r corff llywodraethu neu'r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae'n cynnwys person sy'n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

ystyr “benthyciad” (“loan”), ac eithrio lle nodir fel arall, yw benthyciad tuag at gynhaliaeth neu ffioedd cwrs myfyriwr yn unol ag unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, gan gynnwys y llog sy'n crynhoi ar y benthyciad ac unrhyw gosbau neu daliadau sy'n codi mewn cysylltiad ag ef;

ystyr “benthyciwr” (“borrower”) yw person y mae benthyciad wedi'i roi iddo;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw'r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno;

ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcare bursary”) yw bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(2) neu Erthygl 44 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(3);

ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public funds”) yw arian sy'n cael ei ddarparu gan y Senedd gan gynnwys cronfeydd sy'n cael eu darparu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “cwrs addysg uwch” (“higher education course”) yw cwrs y cyfeirir ato yn Atodlen 2 neu gwrs i ôl-raddedigion neu gwrs arall y mae ei safon yn uwch na safon cwrs gradd gyntaf;

mae “cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“course for the initial training of teachers”) yn cynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf oni nodir yn wahanol ac nid yw'n cynnwys cynllun hyfforddi athrawon ar cyflogaeth;

ystyr “cwrs carlam” (“accelerated course”) yw cwrs y mae'r sefydliad sy'n ei ddarparu yn ei gwneud yn ofynnol fel rheol i'r personau sy'n ei gymryd fod yn bresennol (boed ar fangre'r sefydliad ynteu mewn man arall) am gyfnod o 40 wythnos o leiaf yn y flwyddyn derfynol, a hwnnw'n gwrs sy'n para am ddwy flwyddyn academaidd;

ystyr “cwrs dynodedig” (“designated course”) yw cwrs sydd wedi'i ddynodi gan reoliad 5 neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 5;

ystyr “cwrs dynodedig rhan-amser” (“designated part-time course”) yw cwrs sydd wedi'i ddynodi gan reoliad 51 neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 51;

ystyr “cwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion” (“flexible postgraduate ITT course”) yw cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol athrawon, y mae ei hyd a'i batrwm yn cael eu pennu drwy gyfeirio at brofiad ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr cymwys ac sydd wedi'i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion(4);

ystyr “cwrs ôl-raddedig dynodedig” (“designated postgraduate course”) yw cwrs sydd wedi'i ddynodi o dan reoliad 63 neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 63;

ystyr “cwrs pen-ben” (“end-on course”) yw—

(a)

cwrs gradd gyntaf amser-llawn (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs amser-llawn sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 ac y mae'r myfyriwr wedi derbyn dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004 neu 2005 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i dderbyn un o'r rhain ar ei gyfer;

(b)

cwrs gradd anrhydedd amser-llawn sy'n dechrau ar 1 Medi 2006 neu ar ei ôl a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs amser-llawn gradd sylfaenol ac y mae'r myfyriwr wedi derbyn dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004 neu 2005 ar ei gyfer;

(c)

cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n dechrau cyn 1 Medi 2006 nad yw'n para am fwy na dwy flynedd (mynegir hyd cwrs rhan-amser mewn modd sy'n gyfartal i hyd y cwrs llawn-amser sy'n cyfateb iddo) a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd gyntaf ac y mae'r myfyriwr wedi derbyn dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004 neu 2005 ar ei gyfer;

ystyr “cwrs presennol” (“present course”) yw'r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef;

mae i “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (6);

ystyr “cyfnodau o brofiad gwaith” (“periods of work experience”) yw—

(a)

cyfnodau o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol sy'n gysylltiedig ag astudiaethau amser-llawn mewn sefydliad ond mewn man y tu allan i'r sefydliad hwnnw;

(b)

cyfnodau pryd y caiff myfyriwr ei gyflogi ac y bydd yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae'r myfyriwr yn ei hastudio at ei gwrs (ar yr amod bod y cyfnod o breswylio yn y wlad honno yn un o ofynion ei gwrs a bod astudio un neu fwy o ieithoedd modern yn cyfrif am nid llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);

ystyr “cyfraniad” (“contribution”) yw cyfraniad myfyriwr cymwys wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 45 ac Atodlen 4;

ystyr “Cyngor Ymchwil (“Research Council”) yw unrhyw un o'r cynghorau ymchwil canlynol—

(a)

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau,

(b)

Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol,

(c)

Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol,

(ch)

Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol,

(d)

Y Cyngor Ymchwil Meddygol,

(dd)

Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol,

(e)

Cyngor Ymchwil Ffiseg Ronynnol a Seryddiaeth;

ystyr “cymorth” (“support”) yw cymorth ariannol ar ffurf grant neu fenthyciad sy'n cael eu rhoi gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

ystyr “cyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd” (“former Metropolitan Police District”) yw—

(a)

Llundain Fwyaf, heb gynnwys dinas Llundain, y Deml Fewnol a'r Deml Ganol;

(b)

yn sir Essex, yn nosbarth Epping Forest—

  • ardal cyn ddosbarth trefol Chigwell,

  • plwyf Waltham Abbey;

(c)

yn sir Hertfordshire—

  • ym mwrdeistref Broxbourne, ardal cyn ddosbarth trefol Cheshunt,

  • dosbarth Hertsmere,

  • yn nosbarth Welwyn Hatfield, plwyf Northaw; ac

(ch)

yn sir Surrey—

  • ym mwrdeistref Elmbridge, ardal cyn ddosbarth trefol Esher,

  • bwrdeistrefi Epsom ac Ewell a Spelthorne,

  • yn nosbarth Reigate a Banstead, ardal cyn ddosbarth trefol Banstead;

ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion rheoliad 8 o'r Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(5) sy'n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig tra'i fod yn cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol a gynhelir, mewn ysgol annibynnol neu mewn sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru”;

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Switzerland Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law a Chydffederasiwn y Swistir ar y llaw arall, ynghylch Symud Rhydd i Bersonau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(6) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “Cytundeb yr AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992(7) fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993(8);

ystyr “chwarter” (“quarter”) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfnod yn y flwyddyn honno—

(a)

sy'n dechrau ar 1 Ionawr ac sy'n diweddu ar 31 Mawrth;

(b)

sy'n dechrau ar 1 Ebrill ac sy'n diweddu ar 30 Mehefin;

(c)

sy'n dechrau ar 1 Gorffennaf ac sy'n diweddu ar 31 Awst; neu

(ch)

sy'n dechrau ar 1 Medi ac sy'n diweddu ar 31 Rhagfyr;

ystyr “Deddf 1962” (“the 1962 Act”) yw Deddf Addysg 1962(9);

ystyr “dyfarniad statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd y Ddeddf neu Ddeddf 1962, neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs sy'n cael ei dalu o'r cronfeydd cyhoeddus;

ystyr “dyfarniad trosiannol” (“transitional award”) yw dyfarniad a wnaed o dan Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 1998(10) heblaw hen ddyfarniad;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(11), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(12), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980 a rheoliadau a wnaed odani, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(13) a rheoliadau a wnaed odano neu'r Ddeddf a rheoliadau a wnaed odani;

ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan Lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(14) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(15) ac mae unrhyw gyfeiriad at blentyn i ffoadur yn cynnwys cyfeiriad at lysblentyn;

mae i “gweithiwr mudol o'r AEE” (“EEA migrant worker”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (5);

ystyr “y Gymuned Ewropeaidd” (“European Community”) yw tiriogaeth Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o dro i dro;

mae “hen ddyfarniad” (“old award”) yn ddyfarniad o fewn ystyr “award” yn Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003(16);

mae i “incwm yr aelwyd”, “incwm aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir iddynt yn Atodlen 4;

ystyr “lwfans gofal iechyd yr Alban” (“Scottish healthcare allowance”) yw unrhyw lwfans o dan adrannau 73(f) a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(17) a roddwyd mewn perthynas â pherson sy'n bresennol ar gwrs sy'n arwain at gymhwyster mewn proffesiwn gofal iechyd heblaw fel doctor meddygol neu ddeintydd;

mae “llofnod electronig” (“electronic signature”) yn golygu cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd—

(a)

wedi'i ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi'i gysylltu yn rhesymegol â hwy; a

(b)

yn honni ei fod wedi'i ymgorffori neu wedi'i gysylltu felly er mwyn cael ei ddefnyddio i sefydlu bod y cyfathrebiad neu'r data yn ddilys, bod y cyfathrebiad neu'r data yn gyflawn, neu'r ddau;

mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

ystyr “myfyriwr cymwys dan y drefn newydd” (“new system eligible student”) yw myfyriwr cymwys sy'n cychwyn ar y cwrs cyfredol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac sydd heb fod yn fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn;

ystyr “myfyriwr cymwys dan yr hen drefn” (“old system eligible student”) yw myfyriwr cymwys—

(sa)

sydd wedi cychwyn ar y cwrs cyfredol cyn 1 Medi 2006,

(b)

sy'n fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd,

(c)

sy'n cychwyn ar y cwrs cyfredol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 os yw'r cwrs hwnnw yn gwrs pen-ben mewn cysylltiad â chwrs y cychwynnodd arno cyn 1 Medi 2006 neu, yn achos myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd, cyn 1 Medi 2007, neu

(ch)

sy'n cychwyn ar y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 wedi i'w statws fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, oddi ar gwrs dynodedig y cychwynnodd y myfyriwr hwnnw arno cyn 1 Medi 2006 neu, yn achos myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd, cyn 1 Medi 2007, ac y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw, ei fod yn fyfyriwr cymwys;

ystyr “myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 1 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys dan y drefn newydd sydd ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb amser-llawn (gan gynnwys presenoldeb at ddibenion ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth ar ei chyfer yn 6 wythnos o leiaf ond yn llai na 10 wythnos;

ystyr “myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 2 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys dan y drefn newydd sydd ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb amser-llawn (gan gynnwys presenoldeb at ddibenion ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth ar ei chyfer yn 10 wythnos neu fwy;

y mae i “myfyriwr ôl-raddedig cymwys” (“eligible postgraduate student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 62;

mae i “myfyriwr rhan-amser cymwys” (“eligible part-time student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 50;

ystyr “Rheoliadau 1998” (“the 1998 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1998(18);

ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1999(19);

ystyr “Rheoliadau 2000” (“the 2000 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2000(20);

ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2001(21);

ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2002(22);

ystyr Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002(23) fel y'u diwygiwyd dim ond gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2003(24) a Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Chymorth i Fyfyrwyr) (Y Swistir) 2003(25);

ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau 2003 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2004(26), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 2) 2004(27), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 3) 2004(28), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 4) 2004(29) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2005(30);

ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005(31) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau (Cymorthi Fyfyrwyr) (Diwygio) 2005 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Rhif 2) 2005;

ystyr “Rhif cyfrif benthyciad myfyriwr” (“student loan account number”) yw'r Rhif cyfrif a ddyrennir gan y rhoddwr benthyg ar gyfer benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr;

ystyr “sefydliad preifat” (“private institution”) yw sefydliad nad yw'n cael ei ariannu'n gyhoeddus;

ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw; ac

ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir;

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu'r Ynysoedd o ganlyniad i symud o un arall o'r ardaloedd hynny er mwyn ymgymryd—

(a)â'i gwrs presennol; neu

(b)â chwrs dynodedig blaenorol yr oedd y myfyriwr, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn ymgymryd ag ef yn union cyn ymgymryd â'i gwrs presennol,

yn preswylio yn gyffredinol yn y lle y symudodd y person hwnnw ohono.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn, gan gynnwys er mwyn penderfynu a yw person wedi setlo yn y Deyrnas Unedig o fewn ystyr Deddf Mewnfudo 1971(32), trinnir person fel pe bai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir pe bai wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod y person, priod neu bartner sifil y person neu riant neu warcheidwad y person neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto neu unrhyw berson sy'n gofalu amdano os yw'r person yn blentyn, yn cael ei gyflogi dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn ôl fel y digwydd, y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir ac nid yw paragraff 9(c) o Atodlen 1 yn gymwys yn achos person o'r fath. Heb ragfarnu'r uchod, rhaid trin aelodau o lynges, byddin neu lu awyr rheolaidd y Goron fel pe baent wedi'u cyflogi dros dro o fewn ystyr y paragraff hwn am unrhyw gyfnod y byddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r lluoedd hynny.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod ardal—

(a)nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd na'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall neu'r ddwy o'r ardaloedd hyn,

bob amser wedi bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

(5Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at weithiwr mudol o'r AEE yn gyfeiriad at berson sy'n wladolyn un o Aelod-wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir ac sydd wedi ymgymryd â gweithgaredd fel person cyflogedig yn y Deyrnas Unedig—

(a)o dan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ynghylch rhyddid symud gweithwyr yn y Gymuned(33), fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir; neu

(b)o dan amgylchiadau lle mae gan y person fel un o wladolion y Deyrnas Unedig hawl Gymunedol orfodadwy i gael ei drin heb fod yn llai ffafriol na gwladolyn Aelod-wladwriaeth arall mewn perthynas â materion sy'n destun Rheoliad y Cyngor a grybwyllwyd uchod.

(6Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae cwrs yn “gwrs rhyngosod”(“sandwich course”)—

(i)os nad yw'n gwrs y cyfeirir ato ym mharagraff 4 o Atodlen 2;

(ii)os yw'n cynnwys cyfnodau o astudio amser-llawn mewn sefydliad am yn ail â chyfnodau o brofiad gwaith; a

(iii)gan gymryd y cwrs yn ei gyfanrwydd, os yw'r myfyriwr yn bresennol ar y cyfnodau o astudio amser-llawn am nid llai na 18 wythnos ym mhob blwyddyn ar gyfartaledd;

(b)er mwyn cyfrifo presenoldeb y myfyriwr, trinnir y cwrs fel pe bai'n dechrau gyda'r cyfnod cyntaf o astudio amser-llawn ac yn diweddu gyda'r cyfnod olaf o'r fath; ac

(c)os ceir cyfnodau o astudio amser-llawn am yn ail â phrofiad gwaith yn ystod unrhyw wythnos ar y cwrs, mae'r dyddiau o astudio amser-llawn yn cael eu hadio at ei gilydd ac at unrhyw wythnosau o astudio amser-llawn wrth bennu nifer yr wythnosau o astudio amser-llawn ym mhob blwyddyn.

(7Ac eithrio yn achos rheoliad 27 (grant at deithio), mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “bresenoldeb” myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig yn cynnwys ymgymryd â chwrs drwy ddysgu o hirbell os nad yw'r myfyriwr cymwys yn gallu bod yn bresennol yn gorfforol am ei fod yn anabl.

(8Yn y Rheoliadau hyn ystyr “myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd” (“gap-year student”) yw myfyriwr cymwys y mae paragraffau (9) neu (10) yn gymwys iddo ac sy'n cychwyn ar gwrs dynodedig (“y cwrs presennol”) ar neu ar ôl 1 Medi 2006.

(9Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—

(a)a oedd wedi cael cynnig lle, ar 1 Awst 2005 neu cyn hynny, pa un ai yn amodol ar ennill cymwysterau penodedig ai peidio, ar y cwrs presennol neu gwrs cyffelyb, a

(b)sy'n cychwyn ar flwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol cyn 1 Medi 2007.

(10Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—

(a)a oedd wedi cael cynnig lle ar gwrs dynodedig (pa un ai yn yr un sefydliad â'r cwrs presennol ai peidio) y mae blwyddyn academaidd y cwrs hwnnw yn dechrau cyn 1 Medi 2006,

(b)na allai dderbyn y cynnig oherwydd na ddyfarnwyd iddo gymhwyster neu safon dynodedig,

(c)a apeliodd yn erbyn y penderfyniad i beidio dyfarnu'r cymhwyster neu'r safon iddo,

(ch)os caniatawyd yr apêl ar ôl y dyddiad diwethaf y gallasai'r myfyriwr fod wedi derbyn y cynnig,

(d)os, o ganlyniad i ganiatáu'r apêl honno, y cafodd gynnig lle ar y cwrs presennol, a

(dd)os yw blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs perthnasol yn cychwyn ar ôl 31 Awst 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(11At ddibenion paragraff (2)(a) mae cwrs (“y cwrs gwreiddiol”) yn gyffelyb i'r cwrs presennol—

(a)os yw'n ymddangos i gorff llywodraethu'r sefydliad sy'n darparu'r cwrs presennol fod cynnwys y cwrs, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yr un fath â chynnwys y cwrs gwreiddiol, a

(b)ac eithrio pan nad yw'r cwrs gwreiddiol yn cael ei ddarparu bellach, os yw'r cwrs presennol yn cael ei ddarparu gan y sefydliad a fuasai wedi darparu'r cwrs gwreiddiol.

(12Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y cwrs dynodedig a bennir” (“specified designated course”) yw'r cwrs presennol yn ddarostyngedig i baragraffau (13) a (14).

(13Os cafodd statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys ei drosglwyddo i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddiad, neu fwy nag un trosglwyddiad, o'r statws hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol oddi ar gwrs (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, y cwrs cychwynnol yw'r cwrs dynodedig a bennir.

(14Os yw'r cwrs presennol yn gwrs pen-ben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs pen-ben ag ef (“y cwrs blaenorol”). Os yw'r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs pen-ben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs blaenorol ei hun, mewn cysylltiad ag ef, yn gwrs pen-ben.

Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), dirymir y Rheoliadau canlynol o ran Cymru ar 1 Medi 2006—

(a)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005

(b)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) 2005; ac

(c)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Rhif 2) 2005.

(2Mae Rheoliadau 2003 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.

(3Mae Rheoliadau 2004 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.

(4Mae Rheoliadau 2005 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.

(5Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 p'un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2006.

(6Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn—

(a)os yw person yn bresennol ar gwrs y rhoddwyd dyfarniad trosiannol iddo mewn perthynas ag ef; neu

(b)os na roddwyd dyfarniad o dan Ddeddf 1962 mewn perthynas â'r cwrs ond y byddai dyfarniad trosiannol wedi'i roi i'r person pe bai wedi gwneud cais am ddyfarniad o dan Ddeddf 1962 a phe na bai ei adnoddau wedi bod yn fwy na'i anghenion,

mae'r person yn fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn at ddibenion Rhannau 4, 5 a 6 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs dilynol y byddai'r dyfarniad (a roddwyd neu a fyddai wedi'i roi o dan Ddeddf 1962) wedi'i drosglwyddo iddo pe bai dyfarniadau trosiannol yn darparu ar gyfer taliadau ar ôl blwyddyn gyntaf cwrs, ond oni bai bod paragraff (7) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf benthyciad o dan Ran 7 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau'r hawl i gael cefnogaeth o dan Ran 7.

(7Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, os cafodd unrhyw berson fenthyciad neu os oedd yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs o dan Reoliadau 1998, mae'n fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn at ddibenion Rhan 7 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu ag unrhyw gwrs dynodedig dilynol y bydd yn dechrau arno (gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn union ar ôl gorffen y cwrs hwnnw, ond oni bai bod paragraff (6) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf grant o dan Rannau 4, 5 a 6 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau perthnasol yr hawl i gael cefnogaeth o dan Rannau 4, 5 a 6.

(2)

1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p. 58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 a 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, Rheoliadau Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Cychwyn (Rhif 2) Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480), erthygl 6 a Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) 2004 (O.S. 2004/957), yr Atodlen.

(4)

Sefydlwyd y corff hwn yn wreiddiol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg 1994 (p. 30) fel yr Asiantaeth Hyfforddi Athrawon. Y mae'n parhau mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 74 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) ond ei enw fydd yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion.

(6)

Gorch. 4904.

(7)

Cm 2073.

(8)

Cm 2183.

(9)

1962 p.12; amnewidiwyd adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 gan y darpariaethau a nodwyd yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p. 20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p. 11), adran 4. Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 2. Cafodd y Ddeddf gyfan ei diddymu gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44(2) ac Atodlen 4, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a nodwyd yng Ngorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Gorchymyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237), erthygl 3.

(10)

O.S. 1998/1166, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1972.

(11)

1990 p. 6; a ddiddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4.

(12)

O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/1274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a'r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6.

(14)

Gorch. 9171.

(15)

Gorch. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).

(16)

O.S. 2003/1994, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1038 ac O.S. 2004/1792.

(17)

1980 p.44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2) a diwygiwyd adran 74 gan Ddeddf Ysgolion Hunan-lywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39), Atodlen 10, paragraff 8(17). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).

(19)

O.S. 1999/496, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2266 ac O.S. 2000/1120.

(31)

O.S. 2005/52 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/1341.

(32)

1971 p. 77; a ddiwygiwyd gan Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61), adran 39 ac Atodlen 4.

(33)

OJ Rhif L257, 19.10. 1968, t 2 (OJ/SE 1968 (II) t 475).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources