- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl ar ôl gorffen archwiliad, a beth bynnag cyn 31 Rhagfyr yn union ar ôl diwedd blwyddyn, rhaid i gorff llywodraeth leol y mae paragraff (2) yn gymwys iddo —
(a)cyhoeddi drwy gyfrwng heblaw drwy gyfeiriadau'n unig yn y dogfennau o gyfarfodydd, pwyllgorau neu is–bwyllgorau'r corff, y datganiad o gyfrifon, os yw'r cyngor yn penderfynu hynny, neu'r cyfrif incwm a gwariant a'r datganiad o falansau a baratowyd yn unol â rheoliad 8(3) ynghyd ag unrhyw dystysgrif, barn, neu adroddiad a ddyroddwyd, neu a roddwyd neu a wnaed gan yr archwilydd o dan adrannau 23(2)(a) a 33 o Ddeddf 2004 cyn y dyddiad cyhoeddi, neu, os gwneir y cyhoeddi cyn gorffen yr archwiliad ac na roddwyd y cyfryw farn, ynghyd â datganiad ac esboniad o'r ffaith na roddwyd barn gan yr archwilydd erbyn y dyddiad cyhoeddi; a
(b)cadw copïau fel eu bod ar gael i'w prynu gan unrhyw berson wrth dalu swm y caiff corff llywodraeth leol yn rhesymol ei wneud yn ofynnol.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i —
(a)corff llywodraeth leol y mae rheoliad 8(2) yn gymwys iddo; a
(b)corff llywodraeth leol y cyfeirir ato yn is–baragraffau (a) neu (b) o reoliad 8(3), mewn perthynas â'r cyfrifon am gyfnod y mae'r rheoliad hwnnw yn gymwys iddo.
(3) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl ar ôl gorffen archwiliad, a beth bynnag cyn 31 Rhagfyr yn union ar ôl diwedd blwyddyn, rhaid i gorff llywodraeth leol y cyfeirir ato yn rheoliad 8(3)(c), mewn perthynas â'r cyfrifon am gyfnod y cyfeirir ato yn y rheoliad hwnnw, arddangos hysbysiad sy'n cynnwys yr wybodaeth ofynnol mewn lle neu leoedd amlwg yn ardal y corff am gyfnod o 14 o ddiwrnodau o leiaf a chadw copïau fel eu bod ar gael i'w prynu gan unrhyw berson wrth dalu swm y caiff y corff llywodraeth leol yn rhesymol ei wneud yn ofynnol.
(4) At ddibenion paragraff (3) ystyr “yr wybodaeth ofynnol” yw cofnod o'r derbyniadau a thaliadau a baratowyd yn unol â rheoliad 8(3)(c) ynghyd ag unrhyw dystysgrif, barn, neu adroddiad a ddyroddwyd, neu a roddwyd neu a wnaed gan yr archwilydd o dan adrannau 23(2)(a) a 33 o Ddeddf 2004 cyn y dyddiad cyhoeddi, neu, os caiff yr hysbysiad ei arddangos cyn gorffen yr archwiliad ac na roddwyd y cyfryw farn, ynghyd â datganiad ac esboniad o'r ffaith na roddwyd barn gan yr archwilydd erbyn y dyddiad y cafodd yr hysbysiad ei arddangos gyntaf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: