- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
18.—(1) Yn yr Atodlen hon—
(a)ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw milfeddyg swyddogol neu filfeddyg a gymeradwywyd fel y'i ddiffinir yn Erthygl 2.1(g) o Reoliad 854/2004;
(b)ystyr “y ffi safonol” (“the standard charge”), o ran unrhyw ladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, yw'r ffi a gyfrifir yn unol â pharagraff 4, 5 neu 6, yn ôl y digwydd, a drosir i bunnoedd yn unol â pharagraff 7;
(c)ystyr “cyfradd drosi Ewro / punnoedd” (“the Euro / sterling conversion rate”) sy'n gymwys o ran unrhyw flwyddyn o dan sylw yw—
(i)am 2006, 1 Ewro = £0.68290, a
(ii)ym mhob blwyddyn ar ôl hynny, y gyfradd a gyhoeddir yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ar ddiwrnod gwaith cyntaf Medi y flwyddyn flaenorol neu, os na chyhoeddir cyfradd ynddo ar y diwrnod hwnnw, y gyfradd gyntaf a gyhoeddir ynddo ar ôl hynny; a
(ch)ystyr “costau amser” (“time costs”), o ran unrhyw sefydliad am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, yw'r costau a gyfrifir yn unol â pharagraffau 10 i 12; a
(d)mae i “anifeiliaid hela gwyllt” yr ystyr a roddir i “wild game” ym mhwynt 1.5 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
(2) Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon, heblaw'r rheini a ddiffinnir yn is-baragraff (1), ac unrhyw ymadroddion Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC ar ariannu arolygiadau milfeddygol a rheolaethau a gwmpesir gan Gyfarwyddebau 89/662/EEC, 90/425/EEC, 90/675/EEC a 91/496/EEC (fel y'u diwygiwyd a'u cydgrynhoi gan Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC(1)) yr un ystyr ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny a grybwyllir yn y Gyfarwyddeb a enwyd gyntaf uchod.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 1.1.2006, gweler rhl. 1
Mae testun Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC wedi cael ei atodi i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC yn OJ Rhif L162, 1.7.96, t.1. Addaswyd Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC gan Gyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33); mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi ei osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: