- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Caiff unrhyw berson y mae gan yr awdurdod lleol y pwer neu'r ddyletswydd i ddarparu gwasanaeth ar ei gyfer, neu i sicrhau y darperir gwasanaeth ar ei gyfer, wneud cwyn, pan fyddai'r gwasanaeth, pe darperid ef, yn cael ei ddarparu fel un o swyddogaethau'r gwasanaeth cymdeithasol a phan fo angen unrhyw berson amdano, neu'r angen posibl am wasanaeth o'r fath (ym mha fodd bynnag), wedi dod i sylw'r awdurdod lleol.
(2) Caiff person (“cynrychiolydd”) sy'n gweithredu ar ran person a grybwyllir ym mharagraff (1) wneud cwyn mewn unrhyw achos pan fo'r person hwnnw—
(a)yn blentyn; neu
(b)wedi gofyn i'r cynrychiolydd weithredu ar ei ran; neu
(c) heb fod yn abl i wneud y gwyn yn bersonol.
(3) Caiff person (“cynrychiolydd”) wneud cwyn mewn cysylltiad â pherson sydd wedi marw.
(4) Rhaid i unrhyw gynrychiolydd sy'n gwneud cwyn o dan baragraff (2)(a) neu (c) neu o dan baragraff (3), ym marn yr awdurdod lleol, fod â buddiant neu fod wedi bod â buddiant yn lles y person, a bod yn berson addas i weithredu fel cynrychiolydd.
(5) Os bydd yr awdurdod lleol o'r farn, mewn unrhyw achos, nad oes gan unrhyw berson sy'n gwneud cwyn o dan baragraffau (2)(a) neu (c) neu (3) fuddiant digonol yn lles y person neu nad yw'n berson addas i weithredu fel cynrychiolydd, rhaid i'r awdurdod hysbysu'r person yn ysgrifenedig ar unwaith, gan nodi'r rhesymau dros y farn honno.
(6) Pan roddir hysbysiad o dan baragraff (5) a phan fo'r person y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ac y gwnaed y gwyn mewn cysylltiad ag ef yn fyw, rhaid i'r awdurdod lleol, os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny o ystyried beth yw dealltwriaeth y person y cyfeirir ato ym mharagraff (1), ddarparu copi o'r hysbysiad ar gyfer y person hwnnw.
(7) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at achwynydd yn cynnwys cyfeiriad at ei gynrychiolydd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: