- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7. Mae swyddogaethau canlynol awdurdod lleol yn swyddogaethau cymwys at ddibenion adran 26(3) o'r Ddeddf—
(a)swyddogaethau o dan adran 31;
(b)swyddogaethau o dan adran 33;
(c)swyddogaethau o dan adran 34;
(ch)swyddogaethau o dan adran 35;
(d)swyddogaethau o dan adran 43;
(dd)swyddogaethau o dan adran 44; ac
(e)swyddogaethau o dan adran 47.
8.—(1) Pan fo sylwadau'n ymwneud ag unrhyw fater—
(a)y mae'r achwynydd wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu dwyn achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys yn ei gylch, neu
(b)y mae'r awdurdod lleol yn dwyn achos disgyblu neu'n bwriadu dwyn achos disgyblu yn ei gylch, neu
(c)y mae'r awdurdod lleol wedi'i hysbysu bod ymchwiliad yn cael ei gynnal iddo gan unrhyw berson neu gorff gyda'r bwriad o ddwyn achos troseddol, neu
(ch)y galwyd cyfarfod yn ei gylch o gyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion hawdd eu niweidio, neu
(d)yr hysbyswyd yr awdurdod lleol yn ei gylch, fod ymchwiliadau cyfredol yn mynd rhagddynt gyda'r bwriad o ddwyn achosion o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1),
rhaid i'r awdurdod lleol ystyried, drwy ymgynghori â'r achwynydd ac ag unrhyw berson neu gorff arall y mae'n briodol ymgynghori ag ef ym marn yr awdurdod, sut y dylid ymdrin â'r sylwadau. Cyfeirir at sylwadau o'r fath at ddibenion y rheoliad hwn fel “sylwadau darostyngedig i ystyriaeth gydredol”.
(2) Caniateir rhoi'r gorau i ystyried sylwadau darostyngedig i ystyriaeth gydredol os ymddengys i'r awdurdod lleol ar unrhyw adeg y byddai parhau i'w hystyried yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu rhoi'r gorau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r achwynydd o'r penderfyniad hwnnw.
(4) Pan fydd yr awdurdod lleol yn rhoi'r gorau i ystyried unrhyw sylwadau o dan baragraff (2), caiff fynd yn ôl i'w hystyried ar unrhyw adeg.
(5) Pan roddwyd y gorau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r awdurdod ganfod a yw'r ystyriaeth gydredol yn mynd rhagddi a rhaid iddo hysbysu'r achwynydd pan fydd wedi dod i ben.
(6) Rhaid i'r awdurdod lleol fynd yn ôl i ystyried unrhyw sylwadau pan roddir y gorau i'r ystyriaeth gydredol neu os daw'r ystyriaeth gydredol i ben a bod yr achwynydd yn gofyn am i'r sylwadau gael eu hystyried o dan y Rheoliadau hyn.
9. Pan fyddai'r sylwadau'n rhai y byddai'n dod i ran mwy nag un awdurdod lleol i'w hystyried, rhaid iddynt gael eu hystyried gan—
(a)yr awdurdod sy'n gofalu neu a oedd yn gofalu am y plentyn y mae'r sylwadau'n ymwneud ag ef neu a oedd yn gofalu am y cyn-blentyn y mae'r sylwadau'n ymwneud ag ef; neu
(b)pan nad oes gan neu pan nad oedd gan unrhyw awdurdod y cyfrifoldeb hwnnw, gan yr awdurdod y mae'r plentyn yn preswylio'n arferol neu yr oedd y plentyn yn preswylio'n arferol ddiwethaf yn ei ardal.
10.—(1) Ac eithrio pan fydd paragraff (2) yn gymwys, mewn unrhyw achos pan fydd sylwadau'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â gwasanaethau a ddarperir gan sefydliad neu asiantaeth y mae person wedi'i gofrestru gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef neu â hi o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 neu Ddeddf Plant 1989, rhaid i'r awdurdod lleol y daw sylwadau o'r fath i'w law, o fewn 2 ddiwrnod gwaith i'r sylwadau ddod i law—
(a)anfon manylion am y sylwadau cyfan neu am y rhan honno o unrhyw sylw sy'n ymwneud â'r gwasanaeth cofrestredig at y person a gofrestrwyd fel darparwr mewn cysylltiad â'r sefydliad hwnnw neu'r asiantaeth honno;
(b)gofyn i'r person yr anfonir ato fanylion o dan is-baragraff (a) hysbysu'r awdurdod o fewn 10 niwrnod gwaith o ganlyniad ei ystyriaeth o'r gŵyn; a
(c)hysbysu'r achwynydd o'r camau sydd wedi'u cymryd o dan is-baragraffau (a) a (b).
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan fo sylwadau eisoes wedi'u hystyried gan y person cofrestredig; neu
(b)pan fo'r awdurdod lleol o'r farn y byddai mynd ymlaen o dan baragraff (1) yn debygol o beryglu neu ragfarnu'r ymchwiliad i'r sylwadau o dan Ran IV o'r Rheoliadau neu y byddai'n peryglu neu'n rhagfarnu ymchwiliad gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Mewn unrhyw achos pan fo sylwadau'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â gwasanaethau a ddarperir gan sefydliad neu asiantaeth y mae person wedi'i gofrestru gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef neu hi, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu swyddfa briodol (“appropriate office”) y Cynulliad Cenedlaethol os na fu'n bosibl dod i benderfyniad ar y sylwadau o dan reoliad 15.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: