Search Legislation

Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “achos disgyblu” (“disciplinary proceedings”) yw unrhyw weithdrefn ar gyfer disgyblu cyflogeion a gaiff ei mabwysiadu gan awdurdod lleol;

ystyr “achwynydd” (“complainant”) yw person sy'n gwneud sylwadau o dan adran 24D o'r Ddeddf neu berson sy'n dod o dan adran 26(a) i (e) o'r Ddeddf, neu berson syn gwneud sylwadau o dan baragraff 6 o Atodlen 7 i'r Ddeddf;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd San Steffan, yn Ddydd Gwener y Groglith, neu'n ddiwrnod sy'n wŷl y banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989;

ystyr “eiriolwr” (“advocate”) yw person sy'n darparu cymorth o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 26A(1) o'r Ddeddf;

ystyr “person annibynnol” (“independent person”) yw'r person, ac yntau heb fod yn un o aelodau nac yn un o swyddogion yr awdurdod lleol, sy'n cymryd rhan yn yr ystyriaeth o'r sylwadau ac mewn unrhyw drafodaethau dilynol, yn unol ag adran 26(4) o'r Ddeddf;

ystyr “Rheoliadau 1991” (“the 1991 Regulations”) yw Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991(3);

ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli” (“the Advocacy Services Regulations”) yw Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau a Gwasanaethau Eirioli (Plant) (Cymru) 2004(4)”;

ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn perthynas â sefydliad neu asiantaeth—

(a)

os yw swyddfa wedi'i phennu o dan reoliad 10(3) ar gyfer yr ardal lle y lleolir y sefydliad neu'r asiantaeth, yw y swyddfa honno;

(b)

mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd eraill y Cynulliad Cenedlaethol;

ystyr “swyddog cwynion” (“complaints officer”) yw'r person a benodir o dan reoliad 5;

ystyr “sylwadau” (“representations”) yw sylwadau o dan adran 24D neu adran 26 o'r Ddeddf neu baragraff 6(2) o Atodlen 7 iddi;

ystyr “ystyried sylwadau” (“to consider representations”) yw ystyried sylwadau o dan y weithdrefn a geir yn y Rheoliadau hyn.

(2Mae unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn i'w roi'n ysgrifenedig a chaniateir ei anfon drwy'r post.

Egwyddorion cyffredinol o ran ymdrin â sylwadau

3.—(1Rhaid i unrhyw weithdrefn sylwadau a sefydlir o dan y Ddeddf gael ei gweithredu'n unol â'r egwyddor y dylai lles yr achwynydd, pan wneir sylwadau gan berson y mae adran 24D neu 26(3)(a) yn gymwys iddo, gael ei ddiogelu a'i hybu.

(2Pan ellir canfod beth ydynt, dylid ystyried dymuniadau a theimladau'r achwynydd.

(3)

O.S. 1991/894; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1991/2033, 2001/2874.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources