- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae “anifail buchol” (“bovine animal”) yn cynnwys—
byfflo o rywogaeth Bubalus bubalis; a
Bison bison;
ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw'r corff perthnasol a bennir yn adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1);
ystyr “awdurdod gorfodi perthnasol” (“relevant enforcement authority”) yw'r awdurdod y mae dyletswydd arno yn rhinwedd rheoliad 7 i weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn;
ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(2), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
mae i “bwyd anifeiliaid” a “bwyd i bobl” yr ystyr sydd i “animal food” a “human food” yn eu tro yn Rheoliad 999/2001;
dehonglir “deunydd” a “cynnyrch” yn eu tro yn unol a'r ystyron sydd i “materials” a “products” ym Mhenderfyniad y Comisiwn.
mae i “gwrteithiau” yr ystyr a roddir i “fertilisers” yn erthygl 3.1(k) o Reoliad 999/2001
ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“the Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio anifeiliaid o'r fath rhag mesurau rheoli a difodi penodol a geir yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001(3);
ystyr “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau spyngffurf trosglwyddadwy penodol(4), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1292/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001(5);
ystyr “rhoi ar y farchnad” (“place on the market”) yw gwerthu, cyflenwi mewn unrhyw ffordd arall am dâl neu'n ddi-dâl a storio gyda golwg ar gyflenwi am dâl neu'n ddi-dâl a dehonglir “gafodd ei roi ar y farchnad” (“placed on the market”) yn unol â hynny;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran yr awdurdod gorfodi perthnasol, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig ganddo, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn ac mae'n cynnwys,
o ran mangreoedd sydd wedi'u trwyddedu o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995(6),
milfeddyg a benodwyd yn swyddog awdurdodedig o ran y mangreoedd hynny yn unol â rheoliad 8(1) o'r Rheoliadau hynny;
unrhyw berson arall a benodwyd yn swyddog awdurdodedig o ran y mangreoedd hynny yn unol â rheoliad 8(2) o'r Rheoliadau hynny;
o ran unrhyw fangreoedd sy'n fangreoedd wedi eu cyfuno at ddibenion y Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994(7), ac sydd wedi'u cymeradwyo oddi tanynt, person sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hynny; ac
o ran unrhyw fangreoedd sy'n fangreoedd wedi eu cyfuno at ddibenion y Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995(8), person—
a benodwyd yn swyddog awdurdodedig o ran y mangreoedd hynny yn unol â rheoliad 12(2) o'r Rheoliadau hynny, neu
a awdurdodwyd i weithredu o ran y mangreoedd hynny yn unol â rheoliad 12(3) o'r Rheoliadau hynny.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd, ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn gyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd
OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22
OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1
OJ Rhif L163, 23.6.2005, t.1
O.S. 1995/539, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/731, O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2148, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3124, O.S. 1995/3189, O.S. 1996/1148, O.S. 1996/2235, O.S. 1997/1729, O.S. 1997/2074, O.S. 2000/656, O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/1508 (Cy.105), O.S. 2001/1740 (Cy.123), O.S. 2001/1802 (Cy.131), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2001/2627 (Cy.216), O.S. 2001/2198 (Cy.158) O.S. 2002/129 (Cy.17) ac O.S. 2002/1476 (Cy.148).
O.S. 1994/3082, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/539, O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2200, O.S. 1995/3205, O.S. 1996/1499, O.S. 1999/683, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (Cy.131), O.S. 2000/2257 (Cy.150) ac O.S. 2001/2198 (Cy.158) .
O.S. 1995/3205, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3124, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (Cy.131) ac O.S. 2000/2257 (Cy.150).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: