- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD ANIFEILIAID, CYMRU
Wedi'i wneud
11 Hydref 2005
Yn dod i rym
20 Hydref 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan Adran 14A(1)(b) a (8)(c) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cynllunio Wrth Gefn) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 20 Hydref 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Adran 14A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (Cynllun cenedlaethol wrth gefn) yn gymwys o ran ffliw adar a chlefyd Newcastle.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Hydref 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod gofynion adran 14A o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y'u mewnosodwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 p.42) yn gymwys i Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle. Mae Adran 14A yn darparu ar gyfer paratoi cynlluniau cenedlaethol wrth gefn sy'n dynodi'r trefniadau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu eu gosod yn eu lle er mwyn delio â'r clefyd os digwydd.
Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Gorchymyn hwn ar gostau busnes a cheir copiau gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1981 p.22 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42). Mewnosododd adran 18 o Ddeddf 2002 adran 14A yn Neddf 1981, gan roi pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru. Estynnodd y Gorchymyn Ffliw Adar a Chlefyd Newcastle (Cymru a Lloegr) 2003 (O.S. 2003/1734) bwerau penodol yn Neddf 1981 y gellir eu harfer o ran clwy'r Traed a'r Genau i ffliw adar a chlefyd Newcastle.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: