Search Legislation

Rheoliadau Ffioedd mewn Sefydliadau Addysg Uwch (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1860 (Cy.152)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd mewn Sefydliadau Addysg Uwch (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

7 Gorffennaf 2005

Yn dod i rym

8 Gorffennaf 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau yn adran 26(4) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd mewn Sefydliadau Addysg Uwch (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 8 Gorffennaf 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

  • mae i “cwrs rhyngosod” yr ystyr a roddir i “sandwich course” yn y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

  • ystyr “y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr” (“the Student Support Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005(2) fel y'u diwygir o dro i dro, ac unrhyw reoliadau o dan adran 22 o'r Ddeddf sy'n disodli'r rheoliadau hynny gydag addasiadau neu hebddynt.

Dosbarth rhagnodedig o bersonau

3.  Y dosbarth o bersonau a ragnodir at ddibenion adran 26(4) o'r Ddeddf yw'r dosbarth o'r personau hynny a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr onid ydynt —

(a)yn bersonau nad ydynt yn gymwys ar gyfer cymorth o dan y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr oherwydd rheoliad 4(3) o'r rheoliadau hynny;

(b)yn bersonau nad ydynt yn gymwys ar gyfer grant ar gyfer ffioedd o dan y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr oherwydd rheoliad 11(3) o'r rheoliadau hynny; ac

(c)yn bersonau nad ydynt, cyn neu yn ystod y flwyddyn academaidd o dan sylw, yn gwneud cais am gymorth yn unol â rheoliadau 8 a 9 o'r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr mewn cysylltiad â mynychu cwrs sy'n cynnwys y flwyddyn academaidd honno.

Disgrifiad rhagnodedig o gyrsiau

4.—(1Y disgrifiad o gyrsiau a ragnodir at ddibenion adran 26(4) o Ddeddf 1998 yw cyrsiau sy'n gyrsiau dynodedig o fewn ystyr y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr ac a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru.

(2At ddibenion paragraff (1) dehonglir cyfeiriad at sefydliad yng Nghymru yn unol ag adran 62(7) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3).

Swm rhagnodedig

5.—(1O ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006, y swm rhagnodedig at ddibenion adran 26(4) yw

(a)yn achos cwrs neu flwyddyn academaidd nad ymdrinnir â hwy gan unrhyw is-baragraff arall o'r paragraff hwn, £1200;

(b)am flwyddyn olaf cwrs y gofynnir ei gwblhau fel arfer ar ôl ei fynychu am lai na 15 wythnos, £600;

(c)am flwyddyn academaidd cwrs rhyngosod pan fydd cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos, £600;

(ch)am flwyddyn academaidd cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon, gan gynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf, pan fydd cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos, £600;

(d)am flwyddyn academaidd cwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor pan fydd cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser mewn sefydliad yng Ngymru yn llai na 10 wythnos, £600; ac

(dd)yn achos cwrs rhyngosod neu gwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor pan fydd cyfnodau astudio llawnamser mewn sefydliad yng Nghymru yn 10 wythnos neu fwy ond, o ran y flwyddyn academaidd ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol o'r fath, pan fydd cyfanswm unrhyw un cyfnod o bresenoldeb neu ddau nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos, £600.

Dirymu

6.  Dirymir Rheoliadau Addysg (Ffioedd Sefydliadau Addysg Uwch) 1999(4) o ran Cymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Gorffennaf 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi symiau'r ffi y gellir eu codi am gyrsiau mewn sefydliadau addysg uwch pan fydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn gosod amod ar gyllido sefydliadau o'r fath yn unol ag adran 26(4) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Maent hefyd yn rhagnodi'r dosbarth o bersonau a'r disgrifiad o'r cyrsiau y mae amod o dan adran 26(4) o Ddeddf 1998 yn gymwys iddynt.

(1)

p. 30. Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 26(4) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Dirymwyd adran 26(5) o'r Ddeddf sy'n diffinio'r “prescribed amount” fel swm hafal i fwyafswm y grant a ragnodwyd o dan adran 22(2)(b) o'r Ddeddf gydag effaith o 7 Gorffennaf 2005 yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005.

(3)

p. 13

(5)

p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources