- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
2.—(1) Yn y paragraff hwn ystyr “apêl” yw apêl a wneir o dan y trefniadau a bennir yn rheoliad 3(d).
(2) Pan fydd unrhyw benderfyniad a grybwyllir yn adran 95(2) wedi'i wneud gan yr [F1awdurdod addysg lleol] neu ar ei ran, rhaid i'r awdurdod hysbysu corff llyworaethu'r ysgol yn ysgrifenedig am —
(a)y penderfyniad hwnnw; a
(b)hawl y corff llywodraethu i apelio yn erbyn y penderfyniad yn unol ag is-baragraff (3).
(3) Rhaid i unrhyw apêl gan y corff llywodraethu yn erbyn unrhyw benderfyniad cael ei gwneud dim hwyrach na'r pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan hysbysir ef o dan is-baragraff (2).
(4) Rhaid i apêl fod drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r sail dros ei gwneud.
(5) Rhaid i'r panel apêl gyfarfod i ystyried apêl ar unrhyw ddyddiad y bydd yr awdurdod addysg lleol yn ei benderfynu ond rhaid i'r dyddiad a benderfynir beidio â bod ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan fydd yr awdurdod hwnnw yn derbyn yr hysbysiad y cyfeirir ato o dan hysbysiad is-baragraff (4).
(6) Ar apêl rhaid i'r panel ganiatáu —
(a)i'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu wneud sylwadau ysgrifenedig;
(b)i un o swyddogion yr awdurdod a enwebir gan yr awdurdod, a llywodraethwr a enwebir gan y corff llywodraethu, ymddangos a gwneud sylwadau llafar; ac
(c)i'r corff llywodraethu gael ei gynrychioli.
(7) Rhaid i apelau gael eu gwrando'n breifat ac eithrio pan fydd yr awdurdod addysg lleol yn cyfarwyddo fel arall; ond —
(a)os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o'r awdurdod addysg lleol fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad o apêl gan banel apêl; a
(b)caiff un aelod o'r Cyngor Tribiwnlysoedd fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw gyfarfod o banel apêl sy'n ystyried apêl.
(8) Caniateir cyfuno dwy neu ragor o apelau ac ymdrin â hwy yn yr un achos os yw'r panel apêl yn ystyried bod hynny'n hwylus oherwydd mai'r un rhai yw'r materion a godir gan yr apelau neu oherwydd eu bod yn gysylltiedig.
(9) Os bydd aelodau panel apêl yn anghytuno â'i gilydd, bydd yr apêl sy'n cael ei hystyried i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd ac, os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan gadeirydd y panel ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
(10) Rhaid i'r panel apêl roi gwybod am ei benderfyniad a'r sail dros ei wneud—
(a)yn ysgrifenedig i'r [F1awdurdod addysg lleol] a'r corff llywodraethu; a
(b)erbyn diwedd yr ail ddiwrnod ysgol ar ôl i wrandawiad yr apêl ddod i ben.
(11) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (10), mae pob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio i'w benderfynu gan yr [F1awdurdod addysg lleol] .
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 wedi eu hamnewid (15.7.2009) gan Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/1500), rhlau. 1(1), 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: