Search Legislation

Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 905 (Cy.89)

GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004

Wedi'u gwneud

24 Mawrth 2004

Yn dod i rym

1 Ebrill 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16BB(4), 17 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) a pharagraffau 2, 3 a 4 o Atodlen 7A iddi drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN ICyffredinol

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.

(2Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “aelod” (“member”), lle y mae'r cyd-destun yn caniatáu hynny, yw aelod o Gyngor neu aelod o Fwrdd CIC yn ôl y digwydd;

ystyr “Awdurdod Iechyd Strategol perthnasol” (“relevant Strategic Health Authority”), mewn perthynas â Chyngor, yw unrhyw Awdurdod Iechyd Strategol sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bersonau sy'n preswylio yn ardal y Cyngor;

ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”), mewn perthynas â Chyngor, yw unrhyw awdurdod lleol y mae ei ardal, neu ran o'i ardal, wedi'i chynnwys yn ardal y Cyngor;

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn;

ystyr “Bwrdd CIC” (“CHC Board”) yw Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru a sefydlwyd gan reoliad 23 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol” (“relevant Local Health Board”), mewn perthynas â Chyngor, yw unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol y mae ei ardal, neu unrhyw ran o'i ardal, yn cael ei chynnwys yn ardal y Cyngor;

ystyr “corff sy'n penodi” (“appointing body”), mewn perthynas â phenodi aelod o'r Cyngor yw'r Cynulliad, awdurdod lleol perthnasol neu gorff gwirfoddol;

ystyr “Cyfarwyddwr” (“Director”) yw'r person a benodir o dan reoliad 24 i weithredu fel Cyfarwyddwr y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru;

ystyr “Cyngor” (“Council”) yw Cyngor Iechyd Cymuned;

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(2)

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;

ystyr “Prif Swyddog” (“Chief Officer”) yw'r person a benodir o dan reoliad 14 i weithredu fel Prif Swyddog Cyngor;

ystyr “Ymddiriedolaeth GIG berthnasol” (“relevant NHS Trust”), mewn perthynas â Chyngor, yw unrhyw Ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd mewn perthynas ag ysbyty, neu sefydliad neu gyfleuster arall sy'n darparu gwasanaethau i bersonau sy'n preswylio o fewn ardal y Cyngor;

ystyr “Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol berthnasol” (“relevant Primary Care Trust”), mewn perthynas â Chyngor, yw unrhyw Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol sy'n darparu gwasanaethau i bersonau sy'n preswylio yn ardal y Cyngor.

RHAN IISefydlu Cynghorau ac Aelodau Cynghorau

Cyfansoddiad Cynghorau

2.—(1Rhaid penodi aelodau Cyngor —

(a)yn achos rhai aelodau, gan yr awdurdodau lleol perthnasol yn unol â rheoliad 5;

(b)yn achos rhai aelodau eraill, gan y cyrff gwirfoddol y penderfynwyd arnynt yn unol â rheoliad 6; ac

(c)yn achos gweddill yr aelodau, gan y Cynulliad,

ac i'r diben hwn rhaid i'r Cynulliad benderfynu ar nifer yr aelodau i'w penodi gan bob categori o awdurdodau sy'n penodi a grybwyllir yn is-baragraffau (a) a (b) uchod.

(2Rhaid i'r Cynulliad arfer ei bwerau i benderfynu o dan baragraff (1) er mwyn sicrhau nid hwyrach nag Ebrill 2006—

(a)bod o leiaf un aelod yn cael ei benodi gan bob awdurdod lleol perthnasol a bod chwarter cyfanswm aelodau Cyngor yn cael eu penodi gan yr awdurdodau lleol perthnasol; a

(b)bod chwarter yr aelodau'n cael eu penodi gan y cyrff gwirfoddol.

(3Yn ychwanegol at yr aelodau a benodir yn unol â pharagraffau (1) a (2), caiff Cyngor o bryd i'w gilydd benodi'r aelodau cyfetholedig hynny sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol neu'n fanteisiol iddo er mwyn iddo gyflawni ei ddyletswyddau.

(4Ni chaiff aelodau cyfetholedig bleidleisio mewn unrhyw un o gyfarfodydd neu weithredoedd y Cyngor.

Tymor gwasanaethu'r aelodau

3.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn ac i reoliadau 9 a 10 (datgymhwyso aelod a dod ag aelodaeth aelod i ben), tymor gwasanaethu unrhyw aelod fydd—

(a)yn achos Cyngor sy'n bodoli, pedair blynedd;

(b)yn achos Cyngor a sefydlwyd o dan adran 20A(2)(b)(3) o'r Ddeddf, tymor nad yw'n hwy na phedair blynedd fel y bydd y corff sy'n penodi yn pennu pan gaiff aelod ei benodi;

(c)yn achos penodi aelod yn aelod cyntaf ar Gyngor a sefydlwyd o dan adran 20A(2)(b) o'r Ddeddf, tymor gwasanaethu aelod a fu, yn union cyn iddo gael ei benodi'n aelod cyntaf ar Gyngor newydd, yn aelod o Gyngor sy'n bodoli neu'n aelod o Gyngor a ddiddymwyd neu o Gyngor y newidiwyd yr ardal y'i sefydlwyd mewn perthynas â hi o dan adran 20A(2)(b) o'r Ddeddf fydd yr amser sy'n weddill o dymor gwasanaethu'r aelod hwnnw yn aelod o Gyngor y cyfeirir ato yn y paragraff hwn.

(2Pan fydd Cyngor newydd i'w sefydlu ar gyfer ardal neu ran o ardal Cyngor sy'n bodoli, caiff y Cynulliad benderfynu y bydd tymor gwasanaethu unrhyw aelod o'r Cyngor sy'n bodoli yn dod i ben yn union cyn sefydlu'r Cyngor newydd ac os penodir aelod y deuir â'i dymor gwasanaethu i ben yn unol â'r paragraff hwn yn aelod cyntaf ar y Cyngor newydd, tymor gwasanaethu'r aelod hwnnw fydd yr amser sy'n weddill o dymor gwasanaethu'r aelod hwnnw yn aelod o'r Cyngor sy'n bodoli.

Tymor gwasanaethu aelodau cyfetholedig

4.  Ni cheir penodi aelodau cyfetholedig am gyfnod sy'n fwy na blwyddyn ac ni cheir eu hailbenodi pan ddaw eu tymor i ben oni fydd y Cyngor yn penderfynu bod ailbenodi o'r fath yn angenrheidiol neu'n fanteisiol iddo er mwyn iddo gyflawni ei ddyletswyddau.

Penodi aelodau gan awdurdodau lleol

5.—(1Pan fydd nifer yr aelodau i'w penodi gan bob awdurdod lleol perthnasol yn caniatáu i fwy nag un aelod gael ei benodi gan bob awdurdod lleol perthnasol, rhaid i unrhyw aelodau pellach gael eu penodi gan yr awdurdodau lleol perthnasol hynny y penderfynir arnynt drwy gytundeb rhwng yr awdurdodau lleol hynny neu, os na cheir cytundeb o'r fath, erbyn y dyddiad y caiff y Cynulliad ei bennu at y diben, yn unol â'i benderfyniad.

(2Caiff person a benodir yn unol â'r rheoliad hwn fod yn aelod o'r awdurdod lleol sy'n ei benodi ond nid yw hynny'n angenrheidiol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os bydd aelod a benodir gan awdurdod lleol yn aelod o'r awdurdod lleol sy'n penodi, rhaid iddo ef neu hi, pan na fydd mwyach yn aelod o'r awdurdod lleol sy'n penodi, beidio â bod yn aelod o'r Cyngor pan ddaw cyfnod o ddeufis yn cychwyn ar y dyddiad y peidiodd â bod yn aelod o'r awdurdod lleol i ben.

(4Mewn achos y mae paragraff (3) yn gymwys iddo, caiff yr awdurdod lleol roi rhybudd ysgrifenedig i'r Prif Swyddog ac i'r Cynulliad, yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw, yn mynegi bod y person a benodir i barhau'n aelod o'r Cyngor.

Penodi aelodau gan gyrff gwirfoddol

6.—(1Rhaid i'r Cynulliad wahodd y cyrff gwirfoddol hynny y mae'n penderfynu bod ganddynt fuddiant digonol yn y gwasanaeth iechyd yn ardal Cyngor, i gymryd rhan yn y gwaith o benodi personau yn aelodau o Gyngor.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r cyrff gwirfoddol a wahoddir i gymryd rhan yn y gwaith o benodi aelodau o Gyngor, trwy gytuno â'i gilydd, benderfynu pa rai ohonynt, pa un ai'n gweithredu ar eu pen eu hunain neu ar y cyd fydd yn penodi'r aelodau hynny.

(3Os na cheir cytundeb at ddibenion paragraff (2) erbyn y dyddiad y bydd y Cynulliad yn ei bennu at y diben, rhaid i'r Cynulliad benderfynu pa gyrff gwirfoddol fydd yn gwneud penodiad, ac a ddylid gwneud y penodiadau gan un corff o'r fath neu fwy yn gweithredu ar eu pen eu hunain neu ar y cyd ag un corff arall o'r fath neu fwy.

(4Caiff aelod a benodir yn unol â'r rheoliad hwn fod yn aelod o'r corff gwirfoddol sy'n ei benodi ond nid yw hynny'n angenrheidiol.

Gweithdrefnau ar gyfer penodi aelodau

7.  Rhaid i'r cyrff sy'n penodi sicrhau bod trefniadau priodol wedi'u gwneud ar gyfer dewis a phenodi personau'n aelodau a bod y trefniadau hynny'n gymryd i ystyriaeth—

(a)yr egwyddorion a bennir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus(4) ac yn y Cod Ymarfer ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus ac yng Nghad Ymarfer y Cynulliad(5);

(b)ei bod yn ofynnol bod dewis a phenodi aelodau'n brosesau agored a thryloyw; a

(c)lle y bo'n gymwys, ei bod yn ofynnol y dewisir ac y penodir aelodau trwy gystadleuaeth deg ac agored.

Aelodau sy'n gymwys i'w hailethol

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i reoliad 9, bydd aelod yn gymwys i'w ailethol pan ddaw tymor ei wasanaeth i ben.

(2Ni fydd person a fu'n aelod am wyth mlynedd ddilynol neu fwy yn gymwys i'w ailethol, onid oes cyfnod o bedair blynedd o leiaf wedi mynd heibio er pan fu ef neu hi yn aelod ddiwethaf ond, os bydd Cyngor a'r Cynulliad yn cytuno bod hynny'n angenrheidiol neu'n fanteisiol er mwyn i Gyngor gyflawni ei ddyletswyddau, caniateir ailethol aelod am gyfnod pellach nad yw'n fwy na blwyddyn.

Datgymhwyso aelodau

9.—(1Ni fydd person yn gymwys i'w benodi'n aelod, ac i fod yn aelod—

(a)os yw ef neu hi yn gadeirydd, yn gyfarwyddwr neu'n aelod o Fwrdd Iechyd Lleol perthnasol, o Ymddiriedolaeth GIG berthnasol, o Awdurdod Iechyd Strategol perthnasol, neu o Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol berthnasol;

(b)os cyflogir ef neu hi gan Fwrdd Iechyd Lleol perthnasol, Ymddiriedolaeth GIG berthnasol, Awdurdod Iechyd Strategol perthnasol neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol berthnasol;

(c)os yw ef neu hi'n darparu gwasanaethau o dan y Ddeddf neu os y'i cyflogir gan berson neu gorff, nad yw'n gorff gwirfoddol, sy'n darparu gwasanaethau o dan y Ddeddf a hynny'n unol â chontract a wnaed rhwng y person neu'r corff hwnnw a'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol neu Ymddiriedolaeth GIG berthnasol;

(ch)os yw ef neu hi'n aelod o Gyngor arall; neu

(d)os yw ef neu hi

(i)yn ymarferydd meddygol,

(ii)yn ymarferydd deintyddol,

(iii)yn fferyllydd cofrestredig,

(iv)yn optegydd offthalmig cofrestredig neu optegydd fferyllol o fewn yr ystyr a geir yn Neddf Optegwyr 1989(6);

(v)yn nyrs gofrestredig, yn fydwraig gofrestredig neu'n ymwelydd iechyd cofrestredig, neu, pan fydd Gorchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(7) wedi dod i rym, wedi'i gofrestru neu wedi'i chofrestru yn y gofrestr sy'n cael ei chadw gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001,

ac yn darparu gwasanaethau fel y cyfryw o fewn ardal y Cyngor, ac eithrio na fydd darpariaethau paragraff (a) yn gymwys i aelod sydd i wasanaethu fel aeold cyswllt a Fwrdd Iechyd Lleol yn unol â darpariaethua Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aeoldaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003(8).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni fydd person yn gymwys i gael ei benodi, ac i fod yn aelod, os yw wedi'i ddiswyddo, ac eithrio oherwydd i'w swydd gael ei dileu, o unrhyw gyflogaeth gyflogedig gydag unrhyw un o'r cyrff canlynol —

(a)Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)Awdurdod Iechyd;

(c)Awdurdod Iechyd Arbennig;

(ch)y Bwrdd Cenedlaethol Diogelu Radiolegol a sefydlwyd gan adran 1 o'r Ddeddf Amddiffyn Rhag Ymbelydredd 1970(9);

(d)Gwasanaeth Labordai Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru;

(dd)y Comisiwn Gwella Iechyd;

(e)Ymddiriedolaeth GIG;

(f)y Bwrdd Ymarfer Deintyddol;

(ff)yr Asiantaeth Diogelu Iechyd(10);

(g)Awdurdod Iechyd Strategol; neu

(ng)Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os nad yw person yn gymwys o dan baragraff (2), ac ar ôl i nid llai na dwy flynedd yn cychwyn ar y dyddiad y'i diswyddwyd fynd heibio, caiff y person hwnnw wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad i ddiddymu'r datgymhwysiad, a chaiff y Cynulliad gyfarwyddo bod y datgymhwysiad wedi'i ddiddymu.

(4Pan fydd y Cynulliad yn gwrthod cais person i ddiddymu'r datgymhwysiad, ni chaiff y person hwnnw wneud cais arall o fewn dwy flynedd i ddyddiad y cais a wrthodwyd.

Terfynu aelodaeth

10.—(1Caiff aelod ymddiswyddo ar unrhyw adeg yn ystod y tymor y'i penodwyd i wasanaethu trwy roi rhybudd ysgrifenedig i'r Cynulliad, a bydd yntau, os nad ef a benododd yr aelod, yn hysbysu'r corff perthnasol sy'n penodi a Bwrdd CIC ar ei union.

(2Y dyddiad y daw ymddiswyddiad trwy rybudd a roddwyd yn unol â pharagraff (1) i rym fydd —

(a)os pennir dyddiad yn y rhybudd yn ddyddiad pryd y daw'r ymddiswyddiad i rym, y dyddiad hwnnw; a

(b)mewn unrhyw achos arall, y dyddiad y derbynnir y rhybudd gan y Cynulliad.

(3Os methodd aelod fynychu cyfarfod o'r Cyngor, neu gyfarfod o un o bwyllgorau'r Cyngor, am gyfnod o dri mis, rhaid i'r Cyngor hysbysu Bwrdd CIC a rhoi gwybod am absenoldeb yr aelod i'r Cynulliad a rhaid i'r Cynulliad, onid yw'n fodlon —

(a)bod esboniad rhesymol dros absenoldeb yr aelod; a

(b)y bydd yr aelod yn gallu mynychu cyfarfodydd o'r Cyngor o fewn cyfnod sydd ym marn y Cynulliad yn gyfnod rhesymol,

ddatgan i'w le ar y Cyngor ddod yn wag a phan wneir y datganiad hwnnw, bydd y person hwnnw'n peidio â bod yn aelod.

(4Os bydd y Cynulliad o'r farn nad yw o fudd i'r gwasanaeth iechyd i berson barhau'n aelod, caiff y Cynulliad, yn ddarostyngedig i baragraff (5), derfynu tymor gwasanaethu'r aelod.

(5Rhaid i'r Cynulliad beidio â therfynu tymor gwasanaethu aelod o dan baragraff (4) heb iddo yngynghori â'r Cyngor, Bwrdd CIC, ac, os nad y Cynulliad a benododd yr aelod, y corff perthnasol sy'n penodi.

(6Ni fydd person sy'n peidio â bod yn aelod oherwydd rhoi paragraff (3) a pharagraff (4) ar waith yn gymwys i gael ei ailbenodi'n aelod am gyfnod o bedair blynedd.

RHAN IIITrafodion Cynghorau

Penodi cadeirydd ac is-gadeirydd

11.—(1Rhaid i'r aelodau benodi —

(a)un o'u plith i fod yn gadeirydd; a

(b)un neu ddau o'u plith, ac eithrio'r cadeirydd, i fod yn is-gadeirydd

a hynny am y cyfnodau y gallant benderfynu arnynt pan fyddant yn cynnal yr etholiad, sef cyfnodau na fyddant, beth bynnag, yn hwy na'r amser sy'n weddill o dymor gwasanaethu'r aelod fel aelod a rhaid i'r Prif Swyddog, ar ei union, hysbysu'r Cynulliad a Bwrdd CIC yn ysgrifenedig o enwau'r personau a etholwyd felly.

(2Caiff cadeirydd neu is-gadeirydd ymddiswyddo o'r swydd honno ar unrhyw adeg trwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Prif Swyddog, a bydd yn rhaid i'r Prif Swyddog, ar ei union, hysbysu'r Cynulliad a Bwrdd CIC yn ysgrifenedig; ac —

(a)pan fydd y cadeirydd wedi ymddiswyddo, rhaid i'r aelodau ethol cadeirydd arall yn unol â pharagraff (1);

(b)pan fydd is-gadeirydd wedi ymddiswyddo—

(i)os nad oes is-gadeirydd arall, rhaid i'r aelodau, neu

(ii)os oes is-gadeirydd arall, caiff yr aelodau

ethol is-gadeirydd arall yn unol â pharagraff (1).

Penodi pwyllgorau a chyd-bwyllgorau

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff Cyngor benodi un neu fwy o bwyllgorau'r Cyngor i arfer, yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a'r amodau hynny sy'n briodol ym marn y Cyngor, rai, ond nid y cyfan, o swyddogaethau'r Cyngor.

(2Ac eithrio pan gaiff y Cynulliad, mewn unrhyw achos arbennig, ganiatáu fel arall, ni ddylai llai na dau draean o aelodau unrhyw bwyllgor a benodwyd gan Gyngor fod yn aelodau o'r Cyngor hwnnw.

(3Caiff Cyngor, ynghyd ag un neu fwy o Gynghorau eraill, benodi cyd-bwyllgor, y bydd ei aelodau i gyd yn aelodau o'r Cynghorau hynny, i arfer, yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a'r amodau hynny y gall y Cynghorau gytuno arnynt rhyngddynt, rai, ond nid y cyfan, o swyddogaethau pob un o'r Cynghorau hynny.

Cyfarfodydd a thrafodion

13.  Rhoddir darpariaethau'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn ar waith mewn cysylltiad â chyfarfodydd a thrafodion y Cyngor.

Swyddogion

14.—(1Rhaid i'r Cynulliad benodi person sy'n dderbyniol i Gyngor i weithredu fel Prif Swyddog y Cyngor, ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor, ac os derbyn y Cyngor unrhyw swyddog unigol a benodwyd, bydd hefyd yn penodi personau i weithredu fel swyddogion eraill y Cyngor fel sy'n angenrheidiol ym marn y Cynulliad.

(2Penodir person i weithredu fel un o swyddogion Cyngor gan y Cynulliad mewn dull ac am gyfnod sy'n dderbyniol i'r Cyngor.

(3Bydd y personau a benodir yn unol â pharagraff (1) a pharagraff (2) yn cael eu cyflogi gan Fwrdd Iechyd Lleol y gall y Cynulliad benderfynu arno at y diben, yn unol ag unrhyw reoliadau a wnaed gan y Cynulliad ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd ganddo o dan y Ddeddf, a rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n eu cyflogi sicrhau bod eu gwasanaethau ar gael i'r Cyngor gydol eu tymor gwasanaethu.

Mangreoedd a chyfleusterau eraill

15.—(1Rhaid i'r Cynulliad, ar ôl ymgynghori â Chyngor —

(a)darparu lle ar gyfer swyddfa ac unrhyw lety arall sydd ym marn y Cynulliad yn angenrheidiol i alluogi Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau; a

(b)sicrhau y gwneir trefniadau ar gyfer gweinyddu, cynnal a chadw, glanhau a gwasanaethau eraill y gall fod eu hangen mewn perthynas â'r llety hwn ym marn y Cynulliad,

ond caiff yr aelodau wneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau a llety, os cymeradwyir hynny gan y Cynulliad.

(2I alluogi Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau —

(a)caiff y Cynulliad sicrhau bod y cyfleusterau hynny y mae'n ystyried bod eu hangen ac a ddarperir ganddo ar gyfer unrhyw wasanaeth o dan y Ddeddf (yn cynnwys defnyddio unrhyw fangre ac unrhyw gerbyd, beiriannau neu offer) ar gael; a

(b)rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol y cyfeirir ato yn rheoliad 14(3) sicrhau bod gwasanaethau'r cyflogeion hynny ar gael yn unol â chyfarwyddyd y Cynulliad.

Adroddiadau

16.—(1Mae'n rhaid i Gyngor, erbyn 1 Medi 2004 ac ym mhob blwyddyn ddilynol —

(a)cyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad ynghylch cyflawni ei swyddogaethau (yn cynnwys ei swyddogaethau o dan reoliad 22) (adfocatiaeth annibynnol) yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis yn dod i ben ar 31 Mawrth y flwyddyn honno, ac ynghylch y materion eraill y gall y Cynulliad ofyn amdanynt;

(b)rhoi copïau o'r adroddiad i bob Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol, pob Ymddiriedolaeth GIG berthnasol a phob awdurdod lleol perthnasol; ac

(c)cymryd y camau hynny y mae'r Cyngor o'r farn eu bod yn briodol i sicrhau bod cynnwys yr adroddiad yn cael ei wneud yn hysbys i'r cyhoedd yn ei ardal.

(2Ar dderbyn yr adroddiad rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG —

(a)cyflwyno i'r Cyngor ei sylwadau ar yr adroddiad ynghyd â chofnod o unrhyw gamau a gymerir gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu'r GIG o ganlyniad i gyngor a roddwyd gan y Cyngor, neu gynigion a wnaed ganddynt; a

(b)sicrhau bod y sylwadau hynny a'r cofnod hwnnw'n cael eu gwneud yn hysbys i'r cyhoedd yn ardal y Cyngor.

RHAN IV

Cyflawni Swyddogaethau

17.  Bydd yn ddyletswydd ar bob Cyngor i adolygu'n gyson y modd y gweithredir y gwasanaeth iechyd yn ei ardal, i wneud argymhellion ar gyfer gwella'r gwasanaeth hwnnw ac i roi cyngor i unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol, neu Ymddiriedolaeth GIG ar y materion hynny y mae'r Cyngor yn eu hystyried yn briodol ac sy'n gysylltiedig â gweithredu'r gwasanaeth iechyd o fewn ei ardal.

Cyrff Iechyd Perthnasol yn Ymgynghori â Chynghorau

18.—(1Bydd yn ddyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ac Awdurdod Iechyd Strategol (y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn fel “corff GIG perthnasol”) mewn perthynas â gwasanaethau iechyd y mae'n gyfrifol amdanynt, i gynnwys Cyngor

(a)yng ngwaith cynllunio'r ddarpariaeth o'r gwasanaethau hynny,

(b)yng ngwaith llunio ac ystyried cynigion i newid y modd y darperir y gwasanaethau hynny, ac

mewn penderfyniadau sydd i'w gwneud gan y corff hwnnw sy'n effeithio ar y ffordd y mae'r gwasanaethau hynny yn cael eu rhoi ar waith[

(2Os yw corff GIG perthnasol wrthi'n ystyried unrhyw gynnig ar gyfer datblygu'r gwasanaeth iechyd yn sylweddol yn ardal Cyngor, neu ar gyfer amrywio'n sylweddol y modd y mae'r gwasanaeth hwnnw'n cael ei ddarparu, rhaid iddo ymgynghori â'r Cyngor hwnnw.

(3Ni fydd paragraffau (1) a (2) yn gymwys i gynigion i sefydlu Bwrdd Iechyd Lleol neu i amrywio neu ddirymu Gorchymyn Bwrdd Iechyd Lleol neu i sefydlu neu ddiddymu Ymddiriedolaeth GIG.

(4Ni fydd paragraffau (1) a (2) yn gymwys i unrhyw gynigion y mae'r corff GIG perthnasol yn fodlon bod yn rhaid gwneud penderfyniad arnynt heb ganiatáu ymgynghori, a hynny er budd y gwasanaeth iechyd neu oherwydd risg i ddiogelwch neu les cleifion neu staff; ond mewn achos o'r fath, rhaid i'r corff GIG perthnasol hysbysu'r Cyngor ar unwaith o'r penderfyniad a wnaed a'r rheswm pam na fu ymgynghori.

(5Caiff Cyngor yr ymgynghorwyd ag ef gan gorff GIG perthnasol yn unol â pharagraff (2) gyflwyno sylwadau ar y cynnig sy'n destun yr ymgynghori erbyn y dyddiad a bennir gan y corff GIG perthnasol.

(6Mewn unrhyw achos lle nad yw Cyngor yn fodlon —

(a)bod yr ymgynghori ar unrhyw gynnig y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2) wedi bod yn ddigonol o ran y cynnwys neu'r amser a ganiatawyd; neu

(b)pan yw paragraff (4) yn gymwys, fod y rheswm a roddwyd gan y corff GIG perthnasol yn ddigonol,

caiff gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad ac fe gaiff y Cynulliad ei gwneud yn ofynnol i'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol neu'r Ymddiriedolaeth GIG berthnasol, a chaiff ofyn i'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu'r Awdurdod Iechyd Strategol o dan sylw gyflawni'r ymgynghori, neu'r ymgynghori pellach, â Chyngor y mae'n barnu ei fod yn briodol.

(7Os yw ymgynghori pellach wedi bod yn ofynnol o dan baragraff (6), rhaid i'r corff GIG perthnasol, gan roi sylw i ganlyniad yr ymgynghori hwnnw, ailystyried unrhyw benderfyniad y mae wedi'i gymryd ynglyn â'r cynnig o dan sylw.

(8Mewn unrhyw achos lle mae Cyngor o'r farn na fyddai cynnig a gyflwynwyd o dan baragraff (2) gan Fwrdd Iechyd Lleol perthnasol neu Ymddiriedolaeth GIG perthnasol er budd y gwasanaeth iechyd yn ei ardal, caiff gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad a chaiff y Cynulliad wneud penderfyniad terfynol ar y cynnig a'i gwneud yn ofynnol i'r corff GIG perthnasol gymryd y camau, neu beidio â chymryd y camau, y mae'r Cynulliad yn cyfarwyddo y dylid eu cymryd.

Gwybodaeth sydd i'w darparu gan gyrff iechyd perthnasol

19.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd yn ddyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu Awdurdod Iechyd Strategol perthnasol i roi i Gyngor yr wybodaeth honno am gynllunio a gweithredu gwasanaethau iechyd yn ei ardal y gall y Cyngor yn rhesymol ofyn amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau.

(2Nid fydd dim ym mharagraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Awdurdod Iechyd Strategol, neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ddarparu gwybodaeth gyfrinachol mewn cysylltiad â —

(a)diagnosis neu driniaeth i unrhyw glaf; neu

(b)materion personél yn effeithio ar unrhyw swyddog a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Awdurdod Iechyd Strategol, neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol; neu unrhyw wybodaeth arall y gwaherddir drwy gyfraith ei datgelu.

(3Os bydd i Fwrdd Iechyd Lleol perthnasol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol neu Awdurdod Iechyd Strategol wrthod datgelu i Gyngor wybodaeth nad yw paragraff (2) yn gymwys iddi, caiff y Cyngor apelio at y Cynulliad a bydd penderfyniad y Cynulliad ynghylch a yw'n rhesymol i'r Cyngor ofyn am yr wybodaeth er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau yn derfynol at ddibenion y rheoliad hwn.

Mynd i mewn i fangreoedd i'w harchwilio

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheoliad hwn, caiff personau a gafodd eu hawdurdodi'n ysgrifenedig gan Gyngor, ar unrhyw adeg resymol, fynd i mewn i fangreoedd y mae'r canlynol yn berchen arnynt neu'n eu rheoli i'w harchwilio:—

(a)Byrddau Iechyd Lleol;

(b)Ymddiriedolaethau GIG ;

(c)awdurdodau lleol;

(ch)Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol;

(d)personau sy'n darparu gwasanaethau o dan Ran 2 o Ddeddf 1977 neu o dan drefniadau o dan adran 28C o'r Ddeddf honno, neu

(dd)personau sy'n darparu gwasanaethau peilot o dan gynlluniau peilot a sefydlwyd o dan adran 28 o Ddeddf 2001, neu sy'n darparu gwasanaethau o dan gynllun GFfLl a sefydlwyd o dan Atodlen 8A i'r Ddeddf,

(e)personau sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol neu wasanaethau deintyddol sylfaenol o dan Ran I o'r Ddeddf; neu

(f)personau sy'n berchen ar fangreoedd lle y darperir gwasanaethau fel a grybwyllir yn (d) (dd), neu (e).

(2Rhaid rhoi i bob person a awdurdodir gan Gyngor o dan baragraff (1) dystiolaeth ysgrifenedig ei fod wedi'i awdurdodi a phan fydd yn ceisio mynd i mewn i unrhyw fangre y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at y dibenion a bennwyd yn y paragraff hwnnw, rhaid iddo ddangos y dystiolaeth honno os gofynnir iddo wneud hynny gan berchennog neu feddiannwr y fangre honno neu gan berson sy'n gweithredu ar ran y naill neu'r llall ohonynt.

(3Ac eithrio pan fydd Cyngor o'r farn ei bod yn fanteisiol i'r gwasanaeth iechyd ac er budd y gwasanaeth hwnnw, neu pan fydd risg i ddiogelwch neu les cleifion neu staff, rhaid i berson a awdurdodir gan Gyngor o dan baragraff (1) beidio â mynnu ei fod yn cael mynd i mewn i unrhyw fangre y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw fel mater o hawl oni chafodd y person neu'r corff sy'n berchen arni neu sy'n eu rheoli rybudd rhesymol o'i fwriad.

(4Ni chaiff person a awdurdodwyd gan Gyngor o dan baragraff (1) fynd i mewn i unrhyw fangre neu ran o fangre a ddefnyddir fel llety preswyl —

(a)ar ran personau a gyflogir gan unrhyw rai o'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraffau 4(a) i (ch); neu

(b)gan bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (4)(d) i (e),

heb iddo fod wedi cael caniatâd y bobl hynny'n gyntaf.

(5Wrth arfer hawliau i fynd i mewn i fangre i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, bydd yn rhaid i Gyngor gadw mewn cof yr angen am sicrhau diogelwch, preifatrwydd ac urddas claf, ac unrhyw gyngor neu ganllawiau a roddwyd gan y Cynulliad a phan fydd yn ymarferol gwneud hynny, bydd yn cydweithredu ag unrhyw gorff arall sy'n arfer hawliau tebyg yn unol ag unrhyw ddeddfiad.

Cyfarfodydd rhwng Cynghorau a Byrddau Iechyd Lleol perthnasol

21.  Bydd yn ddyletswydd ar bob Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol i drefnu cyfarfod rhwng dim llai na thraean aelodau'r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol ac aelodau'r Cyngor er mwyn trafod materion y gallai'r Cyngor a'r Bwrdd Iechyd Lleol gytuno arnynt rhyngddynt, a hynny ddim llai nag unwaith bob blwyddyn.

Adfocatiaeth gwyno annibynnol

22.  Rhaid i Gynghorau ddarparu'r gwasanaethau adfocatiaeth y mae angen eu darparu o dan adran 19A o'r Ddeddf ar ran y Cynulliad.

RHAN VBwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru

Sefydlu Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru

23.  Sefydlir drwy hyn, yn effeithiol o 1 Ebrill 2004, gorff i'w alw'n Fwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru y bydd ganddo'r swyddogaethau canlynol—

(a)rhoi cyngor i Gynghorau mewn cysylltiad â chyflawni eu swyddogaethau;

(b)cynorthwyo Cynghorau i gyflawni eu swyddogaethau;

(c)cynrychioli safbwyntiau a buddiannau Cynghorau ar y cyd gerbron y Cynulliad;

(ch)monitro perfformiad Cynghorau a swyddogion a benodwyd o dan reoliad 14 gyda'r bwriad bod pob Cyngor yn datblygu a sicrhau cysondeb eu safonau.

Cyfansoddiad Bwrdd CIC

24.  Bydd ar Fwrdd CIC 28 o aelodau a bydd —

(a)26 ohonynt yn cael eu penodi gan y Cynghorau'n gweithredu ar y cyd; a

(b)2 yn cael eu penodi gan y swyddogion a benodwyd o dan reoliad 14 a'r rheini'n gweithredu ar y cyd.

Staff cynnal

25.—(1Rhaid i'r Cynulliad benodi person sy'n dderbyniol i Fwrdd CIC i fod yn Gyfarwyddwr y Bwrdd a rhaid iddo hefyd, ar ôl ymgynghori â Bwrdd CIC ac yn ddarostyngedig i fod Bwrdd CIC yn derbyn unrhyw swyddogion unigol a benodir, benodi personau i fod yn swyddogion eraill Bwrdd CIC fel sy'n angenrheidiol ym marn y Cynulliad.

(2Rhaid i benodiad person i weithredu fel un o swyddogion Bwrdd CIC gael ei wneud gan y Cynulliad mewn dull ac am gyfnod sy'n dderbyniol i Fwrdd CIC.

(3Rhaid i bersonau a benodwyd yn unol â pharagraff (1) a pharagraff (2) gael eu cyflogi gan y Bwrdd Iechyd Lleol y bydd y Cynulliad yn penderfynu arno at y diben , a hynny'n unol ag unrhyw reoliadau a wneir gan y Cynulliad ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddir ganddo o dan y Ddeddf, a rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw sy'n eu cyflogi'n sicrhau bod eu gwasanaeth ar gael i'r Cyngor gydol tymor eu gwasanaeth.

Mangreoedd a chyfleusterau eraill

26.—(1Rhaid i'r Cynulliad, ar ôl ymgynghori â Bwrdd CIC —

(a)ddarparu lle y mae ei angen ym marn y Cynulliad ar gyfer swyddfa a llety arall i Fwrdd CIC i alluogi'r Bwrdd i gyflawni ei swyddogaethau; a

(b)sicrhau y gwneir trefniadau ar gyfer y gwaith gweinyddu, cynnal a chadw, glanhau a'r gwasanaethau eraill hynny y gall fod eu hangen ym marn y Cynulliad ar gyfer llety o'r fath,

ond caiff yr aelodau, gyda chymeradwyaeth y Cynulliad, wneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau a llety.

(2I alluogi Bwrdd CIC i gyflawni ei swyddogaethau —

(a)caiff y Cynulliad sicrhau bod y cyfleusterau hynny y mae o'r farn bod eu hangen ac a ddarperir ganddo ar gyfer unrhyw wasanaeth o dan y Ddeddf (yn cynnwys defnyddio unrhyw fangre a defnyddio unrhyw gerbyd, peiriannau neu offer) ar gael i Fwrdd CIC; a

(b)rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol y cyfeirir ato yn rheoliad 25(3) sicrhau bod gwasanaethau'r cyflogeion hynny a gall y Cynulliad eu pennu yn ei gyfarwyddyd ar gael.

Trafodion

27.—(1Rhaid i Fwrdd CIC fabwysiadu cyfansoddiad a Rheolau Sefydlog fel y gwêl yn dda.

(2Caniateir amrywio'r cyfansoddiad a'r rheolau a fabwysiedir felly mewn unrhyw gyfarfod dilynol o Fwrdd CIC.

(3Caiff Bwrdd CIC benodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau y caiff personau nad ydynt yn aelodau o Fwrdd CIC fod yn aelodau ohonynt.

(4Bydd hawl gan gynrychiolydd o'r Cynulliad a chynrychiolydd o'r Bwrdd Iechyd Lleol y cyfeirir atynt yn rheoliad 25(3) fynychu unrhyw gyfarfodydd o Fwrdd CIC a chymryd rhan mewn trafodaethau (ond ni chânt gyfrannu at wneud penderfyniadau).

Adroddiadau

28.  Rhaid i Fwrdd CIC, erbyn 1 Medi 2004 ac ym mhob blwyddyn ddilynol, gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad ynghylch cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis yn gorffen ar 31 Mawrth y flwyddyn honno, ac ynghylch materion eraill y gall y Cynulliad ofyn amdanynt.

RHAN VI

Cyllid a Chyfrifon

Cyllid

29.—(1Rhaid i'r Cynulliad dalu Bwrdd CIC a'r Cynghorau y symiau sydd eu hangen ym marn y Cynulliad er mwyn i Fwrdd CIC gyflawni ei swyddogaethau ac i'r Cynghorau gyflawni eu swyddogaethau hwythau o dan y Rheoliadau yn y drefn honno, a bydd yn rhaid talu'r symiau hyn ar yr adegau hynny ac o dan yr amodau hynny y gall y Cynulliad o dro i dro benderfynu arnynt.

(2Rhaid i Fwrdd CIC gyflwyno i'r Cynulliad ar y ffurf ac erbyn y dyddiad y gall y Cynulliad ofyn amdanynt, yr amcangyfrifon hynny y gall y Cynulliad ofyn amdanynt o'r costau y mae Bwrdd CIC yn disgwyl mynd iddynt yn ystod y blynyddoedd ariannol hynny y gall y Cynulliad eu pennu.

(3Rhaid i bob Cyngor gyflwyno i Fwrdd CIC ar y ffurf ac erbyn y dyddiadau y gall Bwrdd CIC ofyn amdanynt yr amcangyfrifon hynny y gall y Bwrdd CIC ofyn amdanynt o'r gwariant a ddisgwylir gan bob Cyngor yn ystod y blynyddoedd ariannol hynny y gall Bwrdd CIC eu pennu.

(4Rhaid i Fwrdd CIC gadarnhau cyfansymiau'r amcangyfrifon a gyflwynir o dan baragraff (3) wedi'u haddasu neu heb eu haddasu, neu'n ddarostyngedig i'r fath amodau ag y gwêl Bwrdd CIC yn dda, a chaiff amrywio'r cadarnhad neu'r amodau ar unrhyw adeg a bydd yn argymell y symiau hynny i'r Cynulliad i'w talu o dan baragraff (1).

(5Rhaid i wariant Bwrdd CIC a'r Cynghorau beidio â bod yn fwy na'r symiau a gymeradwywyd gan y Cynulliad o dan y rheoliad hwn.

Cyfrifon

30.—(1Rhaid i Fwrdd CIC a'r Cynghorau baratoi a chadw'r cyfrifon hynny y gall y Cynulliad ofyn amdanynt a hynny mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol a rhaid i'r cyfrifon fod yn adlewyrchiad gwir a theg o unrhyw incwm a gwariant a llif arian mewn cysylltiad â Bwrdd CIC a'r Cynghorau.

(2Rhaid i'r Cynghorau a Bwrdd CIC anfon copi o'u cyfrifon blynyddol eu hunain mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol i'r Cynulliad cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.

RHAN VIIDirymiadau

Dirymiadau

31.  I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dirymir drwy hyn Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 1996(11), Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Diwygio) (Cymru) 2000(12) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymdeithas Cynghorau Iechyd Cymuned) 1977(13).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(14))

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mawrth 2004

Rheoliad 13

YR ATODLEN

1.  Cynhelir cyfarfod cyntaf Cyngor a sefydlwyd o dan adran 20A(2)(b) o'r Ddeddf ar y dyddiad ac mewn lle y gall y Cynulliad a fydd yn gyfrifol am alw'r cyfarfod eu pennu.

2.  Rhaid cynnal cyfarfod o'r Cyngor o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o dri mis a rhaid i'r cyfarfodydd fod yn agored i'r cyhoedd.

3.—(1Ar ôl y cyfarfod cyntaf, caiff y cadeirydd alw cyfarfod o'r Cyngor unrhyw bryd.

(2Os cyflwynir cais am gynnal cyfarfod, a hwnnw wedi'i lofnodi gan draean o leiaf o gyfanswm yr aelodau, i'r cadeirydd, a naill ai —

(a)bod y cadeirydd yn gwrthod galw cyfarfod; neu

(b)nad yw'r cadeirydd yn galw cyfarfod o fewn deg diwrnod i dderbyn y cais, a hynny heb wrthod galw cyfarfod,

caiff yr aelodau hynny alw cyfarfod ar eu hunion.

(3Cyn pob cyfarfod o Gyngor, rhaid danfon hysbysiad o'r cyfarfod—

(a)sy'n nodi'r busnes y cynigir ei drin yno; a

(b)a lofnodwyd gan y Prif Swyddog neu gan un o swyddogion y Cyngor a awdurdodwyd gan y Prif Swyddog i arwyddo ar ei ran,

i bob aelod, neu ei anfon trwy'r post i'w breswylfa arferol neu ei gyfeiriad busnes arferol, a hynny o leiaf saith diwrnod cyfan cyn dyddiad y cyfarfod.

(4Ni fydd methu â chyflwyno hysbysiad i unrhyw aelod yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod.

(5Yn achos cyfarfod a gaiff ei alw gan aelodau yn hytrach na'r cadeirydd, rhaid i'r aelodau hynny lofnodi'r hysbysiad ac yn y cyfarfod rhaid peidio â thrin unrhyw fusnes heblaw'r busnes a bennir yn yr hysbysiad.

4.—(1Mewn unrhyw gyfarfod o Gyngor rhaid i'r cadeirydd lywyddu, os yw'n bresennol.

(2Os yw'r cadeirydd yn absennol o'r cyfarfod rhaid i is-gadeirydd lywyddu os yw'n bresennol.

(3Os yw'r cadeirydd a'r is-gadeirydd yn absennol, llywyddir gan aelod y bydd yr aelodau sy'n bresennol yn ei ddewis.

5.  Penderfynir ar bob cwestiwn mewn cyfarfod gan fwyafrif pleidleisiau yr aelodau sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn ac, yn achos pleidlais gytbwys, bydd gan y person sy'n llywyddu ail bleidlais a honno'r bleidlais fwrw.

6.  Rhaid peidio â thrin unrhyw fusnes mewn cyfarfod onid oes traean o'r aelodau o leiaf yn bresennol (ac eithrio llefydd gwag ac aelodau cyfetholedig).

7.  Rhaid llunio cofnodion a'u cyflwyno er mwyn cytuno arnynt yng nghyfarfod nesaf y Cyngor, a rhaid i'r person sy'n llywyddu yno eu llofnodi.

8.  Rhaid cofnodi enwau aelodau sy'n bresennol mewn cyfarfod yng nghofnodion y cyfarfod.

9.  Ym mharagraff 3 o'r Atodlen hon mae “cadeirydd” yn cynnwys is-gadeirydd sy'n gweithredu fel cadeirydd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Gosododd Adran 20 o Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ddyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol, sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru, i sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned. Mae Adran 1 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 yn darparu ar gyfer diddymu adran 20 o Ddeddf 1977 ac Atodlen 7 iddi ac yn mewnosod hefyd adran newydd 20A ac Atodlen newydd 7A yn Neddf 1977.

Mae adran 20A yn darparu bod Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru yn cael eu cadw; mae Atodlen 7A yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â Chynghorau Iechyd Cymuned.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 1996. Maent yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â:—

chyfansoddiad ac aelodaeth Cynghorau (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer penodi aelodau i Gynghorau sy'n bodoli eisoes a Chynghorau a sefydlwyd neu a ailgyfluniwyd o dan adran 20A o Reoliadau 2003 (rheoliadau 2 i 10). Mae Rheoliadau 1996 ar hyn o bryd yn darparu y daw hanner aelodau Cynghorau Iechyd Cymuned o awdurdodau lleol, traean ohonynt o gyrff gwirfoddol a'r gweddill i'w penodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn darparu y bydd chwarter aelodau Cynghorau Iechyd Cymuned, erbyn Ebrill 2006, yn cael eu penodi gan awdurdodau lleol, chwarter yr aelodau gan gyrff gwirfoddol a'r gweddill gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer gweithdrefnau penodi;

  • trafodion (rheoliadau 11 i 16);

  • staff a mangreoedd (rheoliadau 14 ac 15);

  • cyllid (rheoliadau 29 a 30); a

swyddogaethau (rheoliadau 17 i 22) sy'n cynnwys y gofyniad am i gyrff y gwasanaeth iechyd (h.y. Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau GIG, Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol ac Awdurdodau Iechyd Strategol), awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau iechyd i deuluoedd (e.e. meddygon teulu, fferyllwyr, deintyddion ac optegwyr) yn ogystal ag eraill sy'n berchen ar fangreoedd lle y darperir gwasanaethau o'r fath neu sy'n eu rheoli i ganiatáu i aelodau awdurdodedig Cynghorau Iechyd Cymuned i archwilio mangreoedd y maent yn berchen arnynt neu a reolir ganddynt. Er, yn gyffredinol, y bydd gofyn rhoi rhybudd rhesymol o'r archwiliad, ni fydd angen rhoi rhybudd os yw Cyngor o'r farn bod archwiliad er budd y gwasanaeth iechyd neu er lles neu ddiogelwch cleifion (rheoliad 20). Mae rheoliad 22 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynghorau ymgymryd â gwasanaethau adfocatiaeth annibynnol ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel sy'n ofynnol o dan adran 19A o Ddeddf 1977.

Mae rheoliad 23 yn darparu ar gyfer sefydlu corff statudol newydd a elwir yn Fwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru i gynghori a helpu Cynghorau Iechyd Cymuned i gyflawni eu swyddogaethau. Bydd y bwrdd hefyd yn rhoi gwybod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beth yw barn ar y cyd y Cynghorau Iechyd Cymuned ac yn monitro perfformiad Cynghorau Iechyd Cymuned gyda'r bwriad o ddatblygu a sicrhau cysondeb yn safonau y Cynghorau i gyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad (rheoliad 24), staff a mangreoedd (rheoliadau 25 a 26), trafodion y Bwrdd (rheoliad 27) a chyllid (rheoliadau 29 a 30).

I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 1996, Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Diwygio) 2000 a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymdeithas y Cynghorau Iechyd Cymuned) 1977.

(1)

1977 p.49. Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19) a pharagraff 37(6) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ac adran 1 o Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (p.4) (“Deddf 2003”). Mewnosodwyd adran 16BB(4) gan adran6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17). Mewnasodwyd, ac Atodlen 7A gan adran 1 o Ddeddf 2003. Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 126(4) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672.

(3)

Mewnosodwyd adran 20A gan adran 1 o Ddeddf 2003.

(4)

Gellir cael copïau o'r ddogfen hon drwy ysgrifennu at Is-adran GIG (Adnoddau Dynol), Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(5)

Gellir cael copïau o'r ddogfen hon drwy ysgrifennu at Is-adran GIG (Adnoddau Dynol), Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(8)

O.S. 2003/149(Cy.19), rheoliad 3(4)(i) ac Atodlen 2 , paragraff 17(a).

(10)

Sefydlwyd gan OS 2003/505

(14)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources