- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
16 Mawrth 2004
Yn dod i rym
1 Medi 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77(2) a (4), 80(4), 83(9) a 84(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.
(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001(2) fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2 rhowch y canlynol —
“2. Mae arolygiadau i'w cynnal —
(a)o fewn chwe mlynedd o'r arolygiad diwethaf, neu
(b)os nad oes arolygiad wedi bod, o fewn chwe mlynedd o ba un bynnag yw'r cynharaf o'r canlynol —
(i)dyddiad unrhyw asesiad neu arolygiad a gyflawnwyd o dan adran 9(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3);
(ii)dyddiad sefydlu sefydliad sy'n darparu'r addysg a hyfforddiant sydd i gael eu harolygu; neu
(iii)1 Medi 2004,
ac yna o fewn pob cyfnod o chwe mlynedd o'r arolygiad diwethaf.”.
(3) Yn rheoliad 3 —
(a)yn lle'r Rhif “55” rhowch y Rhif “70”, a
(b)dilëwch y geiriau “neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 65 niwrnod gwaith o'r dyddiad hwnnw”.
(4) Yn rheoliad 4(1) —
(a)yn lle'r Rhif “40” rhowch y Rhif “50”, a
(b)dilëwch y geiriau “neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 50 niwrnod gwaith” a'r geiriau “(yn y naill achos neu'r llall)”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mawrth 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 er mwyn —
(a)darparu bod arolygiadau addysg neu hyfforddiant penodol i'w cynnal o fewn chwe mlynedd o ba un bynnag yw'r cynharaf o'r canlynol —
dyddiad yr arolygiad diwethaf (o dan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 neu'r drefn flaenorol o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992),
dyddiad sefydlu sefydliad newydd, neu
1 Medi 2004,
ac yna o fewn pob cyfnod o chwe mlynedd i ddyddiad yr arolygiad diwethaf; a
(b)newid y cyfnod y mae'n rhaid gwneud adroddiad arolygu ynddo i 70 diwrnod gwaith ym mhob achos a'r cyfnod y mae'n rhaid cyhoeddi cynllun gweithredu ynddo i 50 diwrnod gwaith ym mhob achos.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: