- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan(1)) gynnwys (yn ychwanegol at y datganiadau a'r gwahoddiad y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) i (c) o is-adran (2) o adran 78 (hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan) o Ddeddf 2002), y manylion a grybwyllir ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —
(a)Rhif cofrestredig y cwmni RTM(2), cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig ac enwau ei gyfarwyddwyr a'i ysgrifennydd;
(b)enwau'r landlord ac unrhyw drydydd parti;
(c)datganiad, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a grybwyllir yn is-baragraff (d), os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, y bydd y cwmni'n gyfrifol am—
(i)cyflawni dyletswyddau'r landlord o dan y les; a
(ii)arfer ei bwerau o dan y les,
o ran gwasanaethau, trwsio, cynnal a chadw, gwelliannau, yswiriant a rheoli;
(ch)datganiad, yn ddarostyngedig i'r eithriad a grybwyllir yn is-baragraff (d)(ii), os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, y caiff y cwmni orfodi cyfamodau tenant na chafodd eu trosglwyddo(3));
(d)datganiad, os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, na fydd y cwmni'n gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r landlord nac arfer ei bwerau o dan y les—
(i)o ran mater sy'n ymwneud yn unig â rhan o'r fangre sy'n fflat neu'n uned arall nad yw'n ddarostyngedig i les a gaiff ei dal gan denant cymwys(4); neu
(ii)ynghylch ailfynediad neu fforffediad;
(dd)datganiad, os bydd y cwmni RTM yn caffael yr hawl i reoli, y bydd gan y cwmni swyddogaethau o dan y darpariaethau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 7 i Ddeddf 2002;
(e)datganiad bod y cwmni RTM yn bwriadu neu, yn ôl y digwydd, nad yw'n bwriadu, penodi asiant rheoli o fewn ystyr adran 30B(8) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985(5); ac,
(i)os yw'n fwriad o'r fath ganddo, ddatganiad—
(aa)o enw a chyfeiriad yr asiant rheoli arfaethedig (os yw'n wybyddus); a
(bb)os yw'n wir, bod y person yn asiant rheoli i'r landlord; neu
(ii)os nad yw'n fwriad o'r fath ganddo, cymwysterau neu brofiad (os oes rhai) aelodau presennol y cwmni RTM mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl;
(f)datganiad, os bydd y cwmni'n rhoi hysbysiad hawlio(6), y gall person sydd neu sydd wedi bod yn aelod o'r cwmni fod yn atebol am gostau a dynnwyd gan y landlord ac eraill o ganlyniad i'r hysbysiad;
(ff)datganiad, os nad yw'r sawl sy'n derbyn yr hysbysiad (yn gwahodd i gymryd rhan) yn llwyr ddeall ei ddiben neu ei oblygiadau, sy'n ei gynghori i geisio cymorth proffesiynol; ac
(g)yr wybodaeth a roddir yn y nodiadau i'r ffurf a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
Gweler adran 78(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.
Gweler adran 705(1) o Ddeddf Cwmnïau 1985 (p.6). Amnewidiwyd adran 705 gan Ddeddf Cwmnïau 1989 (p.40), Atodlen 19, paragraff14.
Er mwyn “untransferred tenant covenants” (“cyfamodau tenant na chafodd eu trosglwyddo”) gweler adran 100(4) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.
O ran y mangre y mae Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Cyfraith Diwygio a Lesddaliad 2002 yn gymwys, gweler adran 72 (ac Atodlen 6). ). I gael diffiniad o “flat” (“fflat”) ac “unit” (“uned”) gweler adran 112(1). I gael diffiniad o “lease” (“les”) gweler adran 112(2). I gael diffiniad o “qualifying tenant” (“tenant cymwys”), gweler adrannau 75 a 112(4) a (5).
1985 p.70. Mewnosodwyd adran 30B gan Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p.31), adran 44.
I gael diffiniad o “claim notice” (“hysbysiad hawlio”) gweler adran 79(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: