- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Rhaid i benodiad o dan adran 72(3) o'r Ddeddf fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddo—
(a)ymwneud ag unrhyw apêl neu fater penodol a bennir yn y penodiad neu ag apelau neu faterion o ddisgrifiad a bennir felly;
(b)darparu bod unrhyw swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi yn arferadwy gan y person penodedig naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i gyflawni unrhyw amodau a bennir yn y penodiad; ac
(c)cael ei ddirymu ar unrhyw adeg gan yr awdurdod apelau, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person penodedig, mewn perthynas ag unrhyw apêl neu fater nad ydynt wedi'u penderfynu gan y person penodedig cyn yr amser hwnnw.
(2) Mae gan berson penodedig, mewn perthynas ag unrhyw apêl neu fater y mae'r penodiad yn ymwneud â hwy, yr un pwerau a dyletswyddau â'r awdurdod apelau, ac eithrio unrhyw swyddogaeth o ran—
(a)gwneud rheoliadau;
(b)cynnal gwrandawiad; neu
(c)penodi person er mwyn—
(i)galluogi personau i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir gan y person a benodir felly a chymryd rhan ynddo, neu
(ii)cyfeirio unrhyw gwestiwn neu fater at y person hwnnw.
(3) Pan fo'r awdurdod apelau, o dan baragraff (1)(c), yn dirymu penodiad mewn perthynas ag unrhyw apêl neu fater, rhaid i'r awdurdod apelau, onid yw'n bwriadu penderfynu'r apêl neu'r mater ei hun, benodi person arall i benderfynu'r apêl neu'r mater yn ei le.
(4) Pan gaiff penodiad newydd ei wneud, rhaid i'r broses o ystyried yr apêl neu'r mater, neu unrhyw wrandawiad mewn cysylltiad â'r penodiad, gael ei dechrau o'r newydd; ond, os dyna'r sefyllfa, nid oes hawl gan neb i wneud sylwadau newydd neu i addasu neu dynnu'n ôl unrhyw sylwadau a wnaed eisoes.
(5) Rhaid i unrhyw beth sydd wedi'i wneud neu sydd heb ei wneud gan berson penodedig wrth iddo arfer, neu honni arfer, unrhyw swyddogaeth y mae'r penodiad yn ymwneud â hi neu mewn cysylltiad ag arfer neu honni arfer y swyddogaeth honno, gael ei drin i bob pwrpas fel rhywbeth sydd wedi'i wneud neu heb ei wneud gan yr awdurdod apelau, ac eithrio i'r graddau y mae'r weithred honno neu'r anwaith hwnnw yn ymwneud—
(a)â chymaint o unrhyw gontract a wnaed rhwng yr awdurdod apelau a'r person penodedig ag sy'n ymwneud ag arfer y swyddogaeth; neu
(b)ag unrhyw achos troseddol sydd wedi'i ddwyn mewn perthynas ag unrhyw beth a gafodd ei wneud neu na chafodd ei wneud fel a grybwyllir yn y paragraff hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: