Search Legislation

Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 2921 (Cy.260)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

9 Tachwedd 2004

Yn dod i rym

1 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 3(5)(a), 4 a 113 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1)a pharagraff 7 o Atodlen 1 iddi, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy) 1992

2.  Mae Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy) 1992(2) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn:

(a)yn erthygl 2, ar ôl y diffiniad o “the Act”, mewnosoder —

“care home” means a care home within the meaning of the Care Standards Act 2000(3), in respect of which a person is registered in accordance with Part 2 of that Act;

(b)yn erthygl 3, o flaen “Where” mewnosoder “Subject to article 3A,”;

(c)ar ôl erthygl 3, mewnosoder yr erthygl ganlynol —

3A.  A care home shall be treated as comprising the number of dwellings found by adding one to the number of self-contained units occupied by, or if currently unoccupied, provided for the purpose of accommodating the person registered in respect of it in accordance with Part 2 of the Care Standards Act 2000, and each such unit shall be treated as a dwelling..

Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992

3.  Yn erthygl 3 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992(4), rhodder yn lle Dosbarth I—

  • Class I: an unoccupied dwelling which was previously the sole or main residence of a person who is an owner or tenant of the dwelling and who —

    (a)

    for the purpose of receiving personal care required by that person by reason of old age, disablement, illness, past or present alcohol or drug dependence or past or present mental disorder has his sole or main residence in another place (not being a hospital, care home, independent hospital or hostel within the meaning of paragraphs 6 or 7 of Schedule 1 to the Act or accommodation provided in Scotland by a care home service within the meaning of section 2(3) of the Regulation of Care (Scotland) Act 2001(5)); and

    (b)

    has been a relevant absentee for the whole of the period since the dwelling last ceased to be his residence;.

Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992

4.  Yn lle erthygl 6 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992(6) rhodder —

6.  For the purposes of paragraph 7 of Schedule 1 to the Act, “hostel” means —

(a)premises approved under section 9(1) of the Criminal Justice and Court Services Act 2000(7)), or

(b)a building or part of a building —

(i)which is solely or mainly used for the provision of residential accommodation in other than separate and self-contained sets of premises, together with personal care, for persons who require such personal care by reason of old age, disablement, past or present alcohol or drug dependence or past or present mental disorder, and

(ii)which is not a care home or independent hospital for the purposes of that paragraph..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Tachwedd 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn wedi'i wneud yn unol ag adrannau 3(5)(a), 4 a 113 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) a pharagraff 7 o Atodlen 1 iddi, ac mae'n diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy) 1992 (“Gorchymyn 1992”), Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 a Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992.

Mae adran 3 o Ddeddf 1992 yn diffinio annedd at ddibenion darpariaethau'r dreth gyngor ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae erthygl 3 o Orchymyn 1992 yn ei gwneud yn ofynnol trin eiddo sengl sy'n cynnwys mwy nag un uned hunan gynwysedig fel pe bai wedi'i ffurfio o'r un nifer o anheddau â'r nifer o unedau hunan gynwysedig yn yr eiddo hwnnw. Diffinir eiddo sengl yng Ngorchymyn 1992 yn eiddo a fyddai, ar wahân i'r Gorchymyn hwnnw, yn un annedd o fewn ystyr “one dwelling” yn adran 3 o Ddeddf 1992.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn mewnosod erthygl 3A newydd yng Ngorchymyn 1992. Bydd hynny'n sicrhau bod cartref gofal (o fewn ystyr “care home” yn adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac y mae person wedi'i gofrestru ar ei gyfer yn unol â Rhan 2 o'r Ddeddf honno), yn lle cael ei drin, at ddibenion y dreth gyngor, fel pe bai wedi'i ffurfio o anheddau ar wahân o fewn annedd, yn unol â nifer yr unedau hunan gynwysedig, yn cael ei drin fel nifer yr anheddau a geir wrth ychwanegu un at nifer yr unedau hunan gynwysedig a ddarperir i letya'r person a gofrestrwyd ar gyfer y cartref gofal.

Mae adran 4 o Ddeddf 1992 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, i ragnodi drwy orchymyn ddosbarthiadau ar anheddau nad yw'r dreth gyngor yn daladwy ar eu cyfer. Mae Dosbarth I yn erthygl 3 o Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 yn esemptio rhag talu'r dreth gyngor annedd sydd heb ei meddiannu ac y mae ei pherchennog neu ei thenant bellach â'i unig neu ei brif breswylfa mewn man arall “not being a hospital, residential care home, nursing home, mental nursing home or hostel within the meaning of paragraphs 6, 7 or 8 of Schedule 1” i Ddeddf 1992, at y diben o dderbyn gofal personol y mae ei angen ar y perchennog neu'r tenant am rai resymau penodedig.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn rhoi geiriad newydd ar gyfer Dosbarth I, sy'n cynnwys cyfeiriad at lety a ddarperir gan wasanaeth gofal cartref yn yr Alban.

Mae adran 11 o Ddeddf 1992 ac Atodlen 1 iddi yn darparu y caiff disgrifiadau o bobl sy'n preswylio mewn annedd eu diystyru wrth benderfynu a yw'n gymwys rhoi gostyngiad ar swm y dreth gyngor sy'n daladwy mewn perthynas â'r annedd. Mae paragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992 yn darparu y caiff person ei ddiystyru os hostel yw ei unig neu ei brif breswylfa. Mae paragraff 7(2) yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddiffinio hostel drwy Orchymyn. Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn rhoi erthygl 6 (sy'n diffinio “hostel”) newydd yng Ngorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Gostyngiadau) 1992 o ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed i baragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf 1992 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000. Mae'r diffiniad bellach yn rhoi, yn lle'r cyfeiriad at adran 49(1) o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol 1973, sydd wedi'i diddymu, gyfeiriad at adran 9(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000.

(1)

1992 (p.14). Trosglwyddwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn Atodlen 1.

(2)

O.S. 1992/549, y mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud iddo gan Orchymyn Diwygio y Dreth Gyngor (Anheddau Taladwy, Anheddau Esempt a Diystyru Gostyngiadau) 1997 (O.S. 1997/656).

(4)

O.S. 1992/558 y mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud iddo gan Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) (Diwygio) 1994 (O.S. 1994/539).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources