Search Legislation

Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 2916 (Cy.255) (C.120)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

9 Tachwedd 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 105(3) a (6) o Ddeddf Dŵr 2003(1) (“y Ddeddf”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2004.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Y Diwrnod Penodedig

2.  11 Tachwedd 2004 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—

(a)adran 77 (cynlluniau llifogydd: cyforgronfeydd dŵr mawr);

(b)adran 78 (diogelwch y wlad);

(c)adran 80 (cymhwysiad i'r Goron);

(ch)adran 81 (dyletswydd i annog arbed dŵr);

(d)adran 86(2)(f), ac is-adran (1) i'r graddau y mae'n berthnasol i'r paragraff hwnnw (tir halogedig: llygru dyfroedd a reolir);

(dd)adran 101(1), i'r graddau y mae'n berthnasol i'r diwygiad a wneir gan baragraff 38 o Atodlen 7; ac

(e)adran 101(2), i'r graddau y mae'n berthnasol i adrannau 147 i 149 ac adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(2) ac adran 101(1) o Ddeddf Amgylchedd 1995(3) a bennir yn Atodlen 9.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Tachwedd 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai o ddarpariaethau Deddf Dŵr 2003 i rym yng Nghymru ar 11 Tachwedd 2004, sef adrannau 77, 78, 80, 81 ac 86(2)(f) (ac adran 86(1) i'r graddau y mae'n berthnasol i'r paragraff hwnnw).

Mae adrannau 77, 78 ac 80 yn diwygio Deddf Cronfeydd Dŵr 1975(5) (“Deddf 1975”).

Mae adran 77 yn mewnosod adran 12A newydd yn Neddf 1975, sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol (i'w ddehongli fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghymru) i'w gwneud yn ofynnol i ymgymerwyr baratoi cynlluniau yn nodi'r camau y byddant yn eu cymryd pe bai cyforgronfeydd dŵr mawr yn gorlifo.

Mae adran 78 yn mewnosod adrannau 2(2A) a 12B newydd yn Neddf 1975, sy'n rhoi'r pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar sail diogelwch y wlad, gyfarwyddo Asiantaeth yr Amgylchedd i beidio â chynnwys gwybodaeth benodol mewn cofrestrau a gedwir o dan Ddeddf 1975; i beidio ag ymgynghori â phersonau wrth baratoi'r cynlluniau y cyfeirir atynt yn adran 12A o Ddeddf 1975; ac i beidio â chyhoeddi'r fath gynlluniau.

Mae adran 80 yn mewnosod adran 27A newydd yn Neddf 1975, sy'n cymhwyso darpariaethau Deddf 1975 i'r Goron.

Mae adran 81 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd camau i annog arbed dŵr, ac yn ei alluogi i wneud Gorchymyn a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol iddo baratoi adroddiadau ar y fath gamau.

Mae adran 86 yn diwygio Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(6) fel y mae'n ymwneud â thir halogedig a llygru dyfroedd a reolir. Mae adran 86(2)(f) yn egluro'r diffiniad o ddyfroedd a reolir yn adran 78A(9)(a) o'r Ddeddf honno.

Mae adran 101(1) a (2) yn cychwyn yn rhannol Atodlen 7 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) ac Atodlen 9 (diddymiadau a dirymiadau).

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daeth darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 1 isod i rym yng Nghymru ac yn Lloegr drwy Orchymynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn —

TABL 1

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 6(1) (yn rhannol)1 Ebrill 20042004/641
Adran 91 Ebrill 20042004/641
Adran 10(11)1 Ebrill 20042004/641
Adran 151 Ebrill 20042004/641
Adran 16 (ar wahân i is-a drannau (4) a (5))1 Ebrill 20042004/641
Adran 181 Ebrill 20042004/641
Adran 19(4)1 Ebrill 20042004/641
Adran 201 Ebrill 20042004/641
Adran 25(1) (yn rhannol), (2) a (4)1 Ebrill 20042004/641
Adran 261 Hydref 20042004/2528
Adran 271 Ebrill 20042004/641
Adrannau 28 a 291 Hydref 20042004/2528
Adran 311 Hydref 20042004/2528
Adran 371 Ebrill 20042004/641
Adran 38 (yn rhannol)1 Hydref 20042004/2528
Adran 48(1) (yn rhannol)1 Hydref 20042004/2528
Adran 491 Hydref 20042004/2528
Adran 501 Hydref 20042004/2528
Adran 531 Ebrill 20042004/641
Adrannau 54 a 551 Hydref 20042004/2528
Adran 56 (yn rhannol)1 Ebrill 20042004/641
Adran 571 Ebrill 20042004/641
Adran 591 Hydref 20042004/2528
Adrannau 60 a 611 Ebrill 20042004/641
Adran 62 (yn rhannol)1 Hydref 20042004/2528
Adran 63 (yn rhannol)1 Hydref 20042004/2528
Adran 641 Ebrill 20042004/641
Adran 651 Ebrill 20042004/641
Adran 661 Ebrill 20042004/641
Adran 681 Ebrill 20042004/641
Adran 711 Ebrill 20042004/641
Adran 721 Ebrill 20042004/641
Adran 741 Hydref 20042004/2528
Adran 761 Hydref 20042004/2528
Adran 791 Hydref 20042004/2528
Adrannau 81 i 831 Ebrill 20042004/641
Adran 841 Ebrill 20042004/641
Adran 851 Ebrill 20042004/641
Adran 871 Hydref 20042004/2528
Adrannau 90 i 9228 Mai 20042004/641
Adrannau 93 i 97 a 9928 Mai 20042004/641
Adran 100(1)1 Hydref 20042004/2528
Adran 100(2) (yn rhannol)1 Ebrill 2004 a 28 Mai 20042004/641
Adran 100(2) (yn rhannol)1 Hydref 20042004/2528
Adran 100(3) (yn rhannol)1 Hydref 20042004/2528
Adran 100(4) (yn rhannol)1 Ebrill 20042004/641
Adran 100(4) (yn rhannol)1 Hydref 20042004/2528
Adran 100(5)1 Ebrill 20042004/641
Adran 100(6) a (7) (yn rhannol)17 Mawrth 2004, 1 Ebrill 2004 a 28 Mai 20042004/641
Adran 100(6) a (7) (yn rhannol)1 Hydref 20042004/2528
Adran 101(1) (yn rhannol)17 Mawrth 2004 a 1 Ebrill 20042004/641
Adran 101(1) (yn rhannol)1 Hydref 20042004/2528
Adran 101(2) (yn rhannol)17 Mawrth 2004, 1 Ebrill 2004 a 28 Mai 20042004/641
Adran 101(2) (yn rhannol)1 Hydref 20042004/2528
Atodlen 7 (yn rhannol)1 Ebrill 20042004/641
Atodlen 7 (yn rhannol)1 Hydref 20042004/2528
Atodlen 8 (yn rhannol)1 Ebrill 20042004/641
Atodlen 8 (yn rhannol)1 Hydref 20042004/2528
Atodlen 9 (yn rhannol)1 Ebrill 2004 a 28 Mai 20042004/641
Atodlen 9 (yn rhannol)1 Hydref 20042004/2528

Daw darpariathau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 2 isod i rym yng Nghymru a Lloegr drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

TABL 2

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 241 Ebrill 20052004/641
Adran 101(1), i'r graddau y mae'n berthnasol i baragraff 27(2) o Atodlen 729 Rhagfyr 20042004/2528

Daeth darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Nhabl 3 isod i rym yng Nghymru drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

TABL 3

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 671 Ebrill 20042004/910 (Cy.93)
Adran 691 Ebrill 20042004/910 (Cy.93)
Adran 751 Ebrill 20042004/910 (Cy.93)
Adran 101(1) (yn rhannol)1 Ebrill 20042004/910 (Cy.93)
Atodlen 7 (yn rhannol)1 Ebrill 20042004/910 (Cy.93)
Atodlen 9 (yn rhannol)1 Ebrill 20042004/910 (Cy.93)
(1)

2003 p.37. Gweler y tabl yn adran 105(6) i gael ystyr “the appropriate authority” mewn perthynas â chychwyniad adrannau 77, 78, 80, 81, 86 a 101 o'r Ddeddf, ac Atodlen 9 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources