- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Wedi'i wneud
2 Tachwedd 2004
Yn dod i rym
19 Tachwedd 2004
1.—(1) O ran y Gorchymyn hwn —
(a)ei enw yw Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2004;
(b)mae'n dod i rym ar 19 Tachwedd 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Gofal Cymru;
ystyr “gwaith” (“work”) yw gwaith o unrhyw fath a grybwyllir yn adran 55(2)(b) i (d) o'r Ddeddf.
2.—(1) Mae'r gweithwyr gofal cymdeithasol a ddisgrifir ym mharagraff (2) isod wedi'u pennu at ddibenion adran 56(1)(b) o'r Ddeddf (dyletswydd y Cyngor i gadw cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol a bennir drwy orchymyn)(3).
(2) Mae'r disgrifiad o weithwyr gofal cymdeithasol yn cyfeirio at y personau hynny —
(a)sy'n dod o fewn unrhyw un o'r disgrifiadau yn adran 55(2)(b) i (d) o'r Ddeddf(4);
(b)sydd fel arfer yn cyflawni rhyw waith yng Nghymru neu'n disgwyl gwneud hynny; ac
(c)y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol, yn rhinwedd y gwaith hwnnw, ddyroddi tystysgrif cofnod troseddol ar eu cyfer o dan adran 113(1) neu 115(1) o Ddeddf yr Heddlu 1997(5).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6))
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Tachwedd 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 56(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Gofal Cymru gadw cofrestr o weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy orchymyn.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn pennu disgrifiad o weithwyr gofal cymdeithasol at ddibenion adran 56(1).
2000 p. 14. Mae'r pwerau wedi'u rhoi i'r “appropriate Minister”, sy'n golygu'r “Assembly”, mewn perthynas â Chymru: adran 121(1) o'r Ddeddf. Ystyr “Assembly” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru: adran 5(1)(b) o'r Ddeddf.
Gweler adran 56(4) o'r Ddeddf ynglyn â'r gofyniad i ymgynghori.
Dyma'r ail grwp o weithwyr gofal cymdeithasol i gael eu pennu at ddibenion cofrestru gyda'r Cyngor o dan adran 56(1)(b). Gweithwyr cymdeithasol o dan hyfforddiant a bennwyd gan O.S. 2004/709 (Cy.76) oedd y grŵ p cyntaf.
Mae person yn dod o dan adran 55(2)(b) os yw'n cael ei gyflogi mewn cartref plant, cartref gofal neu ganolfan breswyl i deuluoedd neu at ddibenion asiantaeth gofal cartref, asiantaeth faethu neu asiantaeth fabwysiadu wirfoddol. Mae person yn dod o dan adran 55(2)(c) os yw'n rheoli sefydliad, neu asiantaeth, o ddisgrifiad a grybwyllir yn adran 55(2)(b). Mae person yn dod o dan adran 55(2)(d) os yw wedi'i gyflenwi gan asiantaeth gofal cartref i ddarparu gofal personol yn eu cartrefi eu hunain i bersonau nad ydynt yn gallu ei ddarparu iddynt eu hunain heb gymorth oherwydd eu hafiechyd, eu llesgedd neu eu hanabledd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: