- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
2 Tachwedd 2004
Yn dod i rym
3 Tachwedd 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(5) a (6) o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970(1) sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru(2):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 3 Tachwedd 2004.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2. Mae PBS 2003 Limited(3), gan ei fod yn ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel pe bai'n berson sy'n arfer swyddogaeth o natur gyhoeddus, yn gorff cyhoeddus at ddibenion Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970.
3. Mae'r cytundebau y caniateir i PBS 2003 Limited ymrwymo iddynt yn rhinwedd y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a ganlyn—
(a)rhaid bod unrhyw gytundeb felly ar gyfer darparu gwasanaethau arlwyo a chynnal a chadw tiroedd, neu'r naill neu'r llall o'r gwasanaethau hynny, gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; a
(b)rhaid bod unrhyw gytundeb felly wedi'i wneud mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Tachwedd 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 1 o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 (“Deddf 1970”) yn nodi at ba ddibenion y caiff Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol yng Nghymru (ymhlith eraill) ymrwymo mewn cytundeb â chorff cyhoeddus ynghylch cyflenwi nwyddau a gwasanaethau gan y Cyngor hwnnw.
O dan adran 1(5) o Ddeddf 1970, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion Deddf 1970, y pŵer i bennu yn gorff cyhoeddus berson neu ddisgrifiad o bersonau yr ymddengys iddo eu bod yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dynodi PBS 2003 Limited yn gorff cyhoeddus o dan adran 1(5) o Ddeddf 1970.
Yn erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, ceir cyfyngiadau ar y cytundebau y caniateir ymrwymo iddynt.
Effaith y dynodiad hwnnw yw caniatáu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ddarparu gwasanaethau arlwyo a chynnal a chadw tiroedd (neu'r naill neu'r llall o'r gwasanaethau hynny) i PBS 2003 Limited drwy gytundeb sydd at unrhyw ddiben a ragnodir gan adran 1(1) o Ddeddf 1970.
1970 p.39. Mae'r pŵer a roddwyd i'r Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol; gweler O.S. 1970/1681 a hefyd O.S. 1997/2971.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Ymgorfforwyd PBS 2003 Limited yn gwmni preifat wedi'i gyfyngu gan gyfrannau ar 12 Rhagfyr 2002 ac fe'i cofrestrwyd o dan rif cwmni 4615908.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: