Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Safonau Iechyd) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 2733 (Cy.240)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Safonau Iechyd) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

19 Hydref 2004

Yn dod i rym

31 Hydref 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 141 ac 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw'r Rheoliadau Addysg (Safonau Iechyd) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Hydref 2004.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addysgu” (“teaching”, “to teach”) yw cyflawni unrhyw weithgaredd o'r fath a ragnodwyd gan reoliad 5(1)(a) i (ch);

mae “cyflogwr” (“employer”) yn cynnwys person sy'n cymryd person arall ymlaen i ddarparu gwasanaethau heb iddo fod o dan gontract cyflogaeth;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “gweithgaredd perthnasol” (“relevant activity”) yw gweithgaredd o'r fath a ragnodir gan reoliad 5(1)(a) i (f); ac

ystyr “rhan-amser” (“part-time”) yw gweithio am ddim mwy na dau ddiwrnod a hanner o ddyddiau gwaith arferol, neu gyfnod cyfatebol, mewn unrhyw wythnos waith.

Dirymiadau

4.  Dirymir rheoliadau 5, 6 a 7 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(2).

Gweithgareddau rhagnodedig

5.—(1Mae'r holl fathau o weithgareddau a ganlyn wedi'u rhagnodi at ddibenion adran 141 o Ddeddf 2002

(a)cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau i blant;

(b)cyflwyno gwersi i blant;

(c)asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad plant;

(ch)adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad plant;

(d)gweithgaredd sy'n cynorthwyo neu'n cefnogi addysgu;

(dd)goruchwylio, cynorthwyo a chefnogi plentyn;

(e)gweithgaredd gweinyddol neu drefniadol sy'n cefnogi wrth ddarparu addysg; ac

(f)gweithgaredd sy'n atodol i ddarparu addysg.

(2Ym mharagraff (1)(b), mae “cyflwyno” yn cynnwys cyflwyno drwy ddysgu o bell neu drwy ddulliau dysgu â chymorth cyfrifiadur.

Safonau iechyd

6.—(1Ni chaiff person wneud gweithgaredd perthnasol oni bai bod ganddo'r gynneddf gorfforol neu'r iechyd i wneud y gweithgaredd hwnnw, o ystyried unrhyw ddyletswydd sydd ar y cyflogwr o dan Ran II o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995(3).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), nid ystyrir fod gan berson sy'n derbyn pensiwn ymddeol, yn rhinwedd rheoliad E4(4) o Reoliadau Pensiynau Athrawon 1997(4) (ymddeol oherwydd afiechyd), y gynneddf gorfforol na'r iechyd i addysgu.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys i berson a benodwyd i addysgu yn rhan-amser os oedd hawl y person i gael pensiwn o'r fath, fel y'i disgrifir yn y paragraff hwnnw, yn effeithiol cyn 1 Ebrill 1997.

(4Os cyfyd unrhyw gwestiwn o ran cynneddf gorfforol neu iechyd person i wneud gweithgaredd perthnasol y mae wedi'i gymryd ymlaen i'w wneud, penderfynir ar y cwestiwn hwnnw yn unol â rheoliad 7.

Penderfyniadau o ran cynneddf gorfforol neu iechyd

7.—(1Rhaid unrhyw gwestiwn fel y cyfeirir ato yn rheoliad 6(4) gael ei benderfynu gan y cyflogwr ac, er mwyn iddo wneud hynny —

(a)rhaid iddo roi cyfle i'r person roi tystiolaeth feddygol gerbron a gwneud sylwadau i'r cyflogwr;

(b)rhaid i'r cyflogwr ystyried y cyfryw dystiolaeth a sylwadau ac unrhyw dystiolaeth feddygol arall sydd ar gael iddo, gan gynnwys tystiolaeth feddygol sy'n ymwneud â'r person ac a roddwyd i'r cyflogwr yn gyfrinachol ar y sail na fyddai er lles y person dan sylw i'w gweld, a hynny yn nhyb y person a roddodd y dystiolaeth;

(c)gall y cyflogwr ei gwneud yn ofynnol i'r person gael ei archwilio gan ymarferydd meddygol a chanddo gymhwyster priodol ac a benodwyd gan y cyflogwr;

(ch)rhaid iddo drefnu archwiliad felly os yw'r person dan sylw yn gofyn amdano; ac

(d)os nad yw'r person yn ymddangos i gael ei archwilio heb reswm da, neu os yw'n gwrthod neu'n methu â rhyddhau'r wybodaeth feddygol neu wybodaeth arall i'r ymarferydd meddygol y caiff ef ofyn amdani yn rhesymol, caiff y cyflogwr ddod i'r casgliad nad oes gan y person dan sylw y gynneddf gorfforol neu'r iechyd angenrheidiol, os yw'r dystiolaeth a gwybodaeth arall sydd ar gael i'r cyflogwr yn cyfiawnhau hynny, a hynny er gwaethaf y ffaith y byddai fel arall wedi bod yn ddymunol cael tystiolaeth feddygol bellach.

(2Ar unrhyw adeg cyn yr archwiliad meddygol y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) neu (ch), caiff y cyflogwr neu'r person gyflwyno i'r ymarferydd meddygol penodedig ddatganiad sy'n cynnwys tystiolaeth neu ddeunydd arall sy'n berthnasol i'r archwiliad.

(3Gall ymarferydd meddygol a chanddo gymhwyster priodol sydd wedi'i benodi gan y person sy'n cael ei archwilio fod yn bresennol yn ystod unrhyw archwiliad meddygol fel y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) neu (ch).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Hydref 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi, at ddibenion adran 141 o Ddeddf Addysg 2002, y gweithgareddau y caiff person eu gwneud dim ond os oes ganddo'r gynneddf gorfforol neu'r iechyd i'w gwneud. Mae'r Rheoliadau yn gymwys i berson sy'n darparu addysg mewn ysgol, sefydliad addysg bellach neu fan arall o dan gontract gydag AALI (neu gyda pherson sy'n arfer swyddogaethau ar ran AALl). Maent hefyd yn gymwys pan fo person yn gweithio o dan gontract i AALl neu gorff llywodraethu ysgol neu sefydliad addysg bellach i wneud gwaith ar wahân i ddarparu addysg ond sy'n dod â'r person i gyswllt â phlant yn gyson. Mae'r gweithgareddau a ragnodwyd fel a ganlyn:—

(a)cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau i blant;

(b)cyflwyno gwersi i blant;

(c)asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad plant;

(ch)adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad plant;

(d)gweithgaredd sy'n cynorthwyo neu'n cefnogi addysgu;

(dd)goruchwylio, cynorthwyo a chefnogi plentyn;

(e)gweithgaredd gweinyddol neu drefniadol sy'n cefnogi wrth ddarparu addysg; ac

(f)gweithgaredd sy'n atodol i ddarparu addysg.

Dylid trin person sy'n derbyn pensiwn ymddeol ar sail afiechyd fel pe na bai ganddo'r gynneddf gorfforol na'r iechyd i wneud y pedwar gweithgaredd cyntaf a restrir uchod, sy'n weithgareddau addysgu. Er hynny, os oes gan y person y gynneddf gorfforol neu'r iechyd i wneud, gall wneud pedwar gweithgaredd olaf y rhestr. Nid yw'r cyfyngiad ar y sawl sy'n derbyn pensiwn ymddeol oherwydd afiechyd yn gymwys i berson a oedd â hawl i'r fath bensiwn cyn 1 Ebrill 1997 ac sy'n gweithio'n rhan-amser.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn nodi sut y dylid penderfynu ar gwestiynau o ran pa un a oes gan berson y gynneddf gorfforol neu'r iechyd i wneud gweithgaredd y mae wedi'i gymryd ymlaen i'w wneud. Mae hyn yn cynnwys cynnig cyfle i'r person roi tystiolaeth feddygol gerbron a gwneud sylwadau, a threfnu archwiliadau meddygol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli darpariaethau'r Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 sy'n ymwneud â chynneddf feddyliol a chorfforol ac iechyd.

(1)

2002 p.32. Gweler adran 212 am yr ystyron sydd i “prescribed” a “regulations”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources