- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 2(f)
Rheoliad 5A(1)(dd)
Rhaid i win fynd drwy brofion dadansoddi ar gyfer pob un o'r ffactorau a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl canlynol a rhaid iddynt gyrraedd y safon a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r tabl.
Colofn 1 | Colofn 2 |
---|---|
Y ffactor | Y safon i'w chyrraedd |
Cryfdfer alcoholaidd gwirioneddol yn ôl cyfaint | Lleiafswm o 8.5% |
Cryfder alcoholaidd gofynnol yn ôl cyfaint | (a)yn achos gwin gwyn wedi'i gyfoethogi, uchafswm o 11.5%; (b)yn achos gwin coch a gyfoethogwyd a gwin rosé a gyfoethogwyd, uchafswm o 12%; ac (c)yn achos unrhyw win arall, uchafswm o 15% |
Cryfder alcoholaidd naturiol yn ôl cyfaint | Lleiafswm o 6% |
Cyfanswm echdyniad sych (a geir drwy ddwysfesureg) | Lleiafswm o 14 gram am bob litr |
Cyfanswm asidedd | Lleiafswm o 4 gram am bob litr wedi'i fynegi fel asid tartarig |
Asidedd anweddol | Yn achos gwin melus gyda 45 gram am bob litr neu fwy o siwgr gweddilliol, uchafswm o 1.14 gram am bob litr |
Sylffwr deuocsid rhydd | (a)yn achos gwin sych, uchafswm o 45 miligram am bob litr, a (b)yn achos unrhyw win arall, uchafswm o 60 miligram am bob litr |
Cyfanswm y sylffwr deuocsid | (a)yn achos gwin coch gyda llai na 5 gram am bob litr o siwgr gweddilliol, uchafswm o 160 miligram am bob litr; (b)yn achos gwin coch gyda 5 gram am bob litr neu fwy o siwgr gweddilliol, uchafswm o 210 miligram am bob litr; (c)yn achos gwin gwyn neu win rosé gyda llai na 5 gram am bob litr o siwgr gweddilliol, uchafswm o 210 miligram ambob litr; ac (ch)yn achos gwin gwyn neu win rosé gyda 5 gram am bob litr neu fwy o siwgr gweddilliol, uchafswm o 260 miligram am bob litr |
Copr | Uchafswm o 0.5 miligram am bob litr |
Haearn | Uchafswm o 8 miligram am bob litr |
Sterileiddiwch | Rhaid peidio â chael unrhyw arwydd o furumau neu facteria sy'n dueddol o ddifetha'r gwin |
Sefydlogrwydd proteinau | Rhaid i olwg y gwin beidio â newid ar ôl cael ei gadw ar 70° C am 15 munud a'i oeri wedyn i 20°C |
Rheoliad 5A(5)
1. Mae'r Atodlen hon yn gymwys i'r unedau daearyddol a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl canlynol sydd wedi'u ffurfio ym mhob achos o'r ardal a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r tabl heblaw tir o fewn yr ardal honno sydd wedi'i leoli ar uchder o fwy na 250 metr uchlaw lefel y môr —
Colofn (1) | Colofn (2) |
---|---|
Enw'r uned ddaearyddol | Hyd a lled daearyddol yr uned |
1. Caerdydd | Yr ardal sy'n cynnwys dinas a sir Caerdydd |
2. Sir Aberteifi | Yr ardal sy'n cynnwys sir Aberteifi |
3. Sir Gaerfyrddin | Yr ardal sy'n cynnwys sir Gaerfyrddin |
4. Sir Ddinbych | Yr ardal sy'n cynnwys sir Ddinbych |
5. Gwynedd | Yr ardal sy'n cynnwys sir Gwynedd |
6. Sir Fynwy | Yr ardal sy'n cynnwys sir Fynwy |
7. Casnewydd | Yr ardal sy'n cynnwys bwrdeistref sirol Casnewydd |
8. Sir Benfro | Yr ardal sy'n cynnwys sir Benfro |
9. Rhondda Cynon Taf | Yr ardal sy'n cynnwys bwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf |
10. Abertawe | Yr ardal sy'n cynnwys dinas a sir Abertawe |
11. Bro Morgannwg | Yr ardal sy'n cynnwys bwrdeistref sirol Bro Morgannwg |
12. Cymru | Yr ardal sy'n cynnwys yr holl siroedd a'r holl fwrdeistrefi sirol a sefydlwyd gan adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 |
13. Wrecsam | Yr ardal sy'n cynnwys bwrdeistref sirol Wrecsam |
2. Yn yr Atodlen hon mae unrhyw gyfeiriad at sir neu fwrdeistref sirol a enwir yn gyfeiriad at sir neu fwrdeistref sirol a sefydlwyd gan neu o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) neu gan orchymyn a wnaed o dan adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1992(2).”
1972 p.70. Gweler, yn benodol, adran 20 o Ddeddf 1972 ac Atodlen 4 iddi, fel y'u diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, ac unrhyw ddiwygiadau a wnaed i ardaloedd llywodraeth leol drwy orchmynion a wnaed o dan adran 51 o Ddeddf 1972 (diddymwyd adran 51 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1992 (p.19) ond mae darpariaethau Gorchmynion a wnaed o dan yr adran honno yn parhau mewn grym yn rhinwedd adran 29(3) o Ddeddf 1992) ac adran 17 o Ddeddf 1992.
1992 p.19; diwygiwyd adran 17 gan Ddeddf yr Heddlu a Llysoedd Ynadon 1994 (p.29), adran 39(4) a (5); Deddf yr Heddlu 1996 (p.16), paragraff 44 o Atodlen 7; Deddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29), adran 20(1); Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), adran 89(3) ac O.S. 2001/3962.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: