- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Caiff aelod ymddiswyddo ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y penodwyd ef iddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad.
(2) Caiff aelod cyfetholedig ymddiswyddo ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y penodwyd ef iddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Ganolfan.
(3) Y dyddiad y bydd ymddiswyddiad drwy hysbysiad yn unol â pharagraff (1) neu (2) yn effeithiol fydd—
(a)os pennwyd dyddiad yn yr hysbysiad fel y dyddiad y bydd yr ymddiswyddiad yn effeithiol, yna'r dyddiad hwnnw; a
(b)yn unrhyw achos arall, y dyddiad pan gaiff y Cynulliad neu'r Ganolfan yr hysbysiad.
(4) Yn achos aelod sydd yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd, rhaid i'r ymddiswyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ddatgan os yw mewn perthynas â phenodiad yr aelod yn gadeirydd neu is-gadeirydd yn unig a chaiff y Cynulliad ganiatáu i'r person hwnnw barhau fel aelod am y cyfnod sydd heb ddirwyn i ben o gyfnod gwreiddiol y penodiad fel cadeirydd neu is-gadeirydd.
(5) Os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw person a benododd yn gadeirydd, is-gadeirydd neu aelod arall o'r Ganolfan yn ffit neu fel arall yn alluog i gyflawni swyddogaethau'r swydd honno, caiff y Cynulliad derfynu deiliadaeth y person hwnnw o'r swydd ar unwaith drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo i'r perwyl hwnnw.
(6) Os bydd y Cynulliad wedi'i fodloni bod aelod wedi bod yn absennol o 3 chyfarfod olynol o'r Ganolfan, caiff y Cynulliad derfynu deiliadaeth y swydd gan y person hwnnw ar unwaith onid yw wedi'i fodloni—
(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
(b)y bydd yr aelod yn gallu mynychu cyfarfodydd y Ganolfan o fewn y cyfryw gyfnod y mae'r Cynulliad yn ei ystyried sy'n rhesymol.
(7) Os cafodd person ei benodi'n aelod o'r Ganolfan gan y Cynulliad —
(a)os daw i sylw'r Cynulliad fod y person wedi'i ddatgymhwyso rhag cael ei benodi o dan reoliad 5, rhaid i'r Cynulliad ar unwaith hysbysu'r person hwnnw o'r datgymhwysiad drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r perwyl hwnnw; neu
(b)os daw i sylw'r Cynulliad fod y person wedi'i ddatgymhwyso pan gafodd ei benodi, rhaid i'r Cynulliad ddatgan na chafodd y person ei benodi'n briodol a hysbysu'r person hwnnw yn ysgrifenedig i'r perwyl hwnnw,
a, phan ddaw'r hysbysiad hwnnw i law, bydd deiliadaeth swydd y person hwnnw, os oes un, yn terfynu a bydd yn peidio â bod yn aelod.
(8) Mae paragraffau (5) i (7) yn gymwys i aelodau cyfetholedig fel pe bai pob cyfeiriad at aelod yn gyfeiriad at aelod cyfetholedig a phob cyfeiriad at y Cynulliad yn gyfeiriad at y Ganolfan.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: