Search Legislation

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 1735 (Cy.178)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2004

Wedi'u gwneud

6 Gorffennaf 2004

Yn dod i rym

1 Medi 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 42(1) a (2) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.

(2Mae'r Rheoliadau yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau

2.—(1Mae Rheoliadau Adroddiadau Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 mewnosoder y diffiniadau a ganlyn yn nhrefn briodol yr wyddor —

ystyr “absenoldeb heb ei awdurdodi” (“unauthorised absence”) yw achlysur pan gofnodir disgybl yn absennol heb awdurdod yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995(4)) a rhaid dehongli “absenoldeb wedi'i awdurdodi” (“authorised absence”) yn unol â hynny;

ystyr “blwyddyn adrodd yr ysgol” (“reporting school year”) yw'r flwyddyn ysgol yn union o flaen y flwyddyn ysgol y cyhoeddwyd yr wybodaeth ynddi gan y corff llywodraethu;

ystyr “blwyddyn ysgol flaenorol” (“previous school year”) yw'r flwyddyn ysgol yn union o flaen blwyddyn adrodd yr ysgol;

ystyr “cwrs byr TGAU” (“GCSE short course”) yw cwrs TGAU a gynlluniwyd i gwmpasu cyfran yn unig (nid llai na hanner) o'r cwrs astudio TGAU llawn cyfatebol, ac y mae'r un safonau graddio yn berthnasol iddo ac ystyr “arholiad cwrs byr TGAU” (“GCSE short course examination”) yw arholiad y mae'r cwrs sy'n arwain ato yn gwrs byr TGAU;

ystyr “cyfnod perthnasol o dair blynedd” (“relevant three year period”) yw'r cyfnod o dair blynedd ysgol sy'n dod i ben pan fydd blwyddyn adrodd yr ysgol yn darfod a'r cyfnod o dair blynedd ysgol sy'n dod i ben pan fydd y flwyddyn ysgol flaenorol yn darfod;

ystyr “cymhwyster allanol a gymeradwywyd” (“approved external qualification”) yw cymhwyster o fewn ystyr “approved external qualification” yn adran 96(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(5) ac yn gymhwyster a gafodd ei gymeradwyo, ar yr adeg berthnasol, o dan adran 99 o'r Ddeddf honno at ddibenion adran 96 o'r Ddeddf honno;

ystyr “GNVQ” (“GNVQ”) yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol;

ystyr “NQF” (“NQF”) yw'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol sy'n cynnwys cymwysterau achrededig gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm a Chyngor Gogledd Iwerddon ar gyfer Arholiadau Cwricwlwm ac Asesiadau ac ystyr “lefel NQF” (“NQF level”) yw'r lefel(au) yr achredir y cymwysterau o fewn yr NQF;

ystyr “TAAU” (“AVCE”) yw Tystysgrif Addysg Alwedigaethol Uwch ac ystyr “TAAUG” (“ASVCE”) yw Tystysgrif Addysg Alwedigaethol Uwch Gyfrannol;

ystyr “TAG Safon Uwch” (“GCE ‘A’ level”) a “TAG Uwch Gyfrannol” (“GCE 'AS'”) yw Tystysgrif Addysg Gyffredinol Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yn y drefn honno; ac

ystyr “TGAU” (“GCSE”) yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd..

(3Yn rheoliad 3 yn lle'r geiriau “yr Atodlen” rhodder y geiriau “Atodlenni 1 a 2”.

(4Yn rheoliad 6(1)(a)—

(a)yn lle'r geiriau “5 i 7” rhodder y geiriau “5, 6”; a

(b)yn lle'r geiriau “o'r Atodlen” rhodder y geiriau “ o Atodlen 1 ac yn rhinwedd Atodlen 2”.

(5Mae'r Atodlen wedi'i hailrifo yn Atodlen 1.

(6Yn lle paragraff 6 o'r Atodlen a ailrifwyd yn Atodlen 1 rhodder—

(1) Mynegir nifer yr absenoldebau heb eu hawdurdodi a nifer yr absenoldebau wedi'u hawdurdodi yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol fel canran o gyfanswm y presenoldebau posibl yn ystod y flwyddyn honno.

(2) At ddibenion y paragraff hwn ystyr “cyfanswm y presenoldebau posibl” yw'r rhif a geir drwy luosogi nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar ddechrau'r flwyddyn adrodd â nifer y sesiynau ysgol yn y flwyddyn honno..

(7Hepgorer paragraff 7 o'r Atodlen a ailrifwyd yn Atodlen 1.

(8Ar ôl yr Atodlen a ailrifwyd yn Atodlen 1 rhodder y canlynol —

Rheoliad 3

ATODLEN 2GWYBODAETH AM GANLYNIADAU ARHOLIADAU

RHAN 1Arholiadau TGAU, Cymwysterau Lefel Mynediad NQF a Chymwysterau Galwediagethol: Crynodebau

1.  Ar gyfer blwyddyn adrodd yr ysgol, nifer y disgyblion 15 mlwydd oed ar ddechrau blwyddyn adrodd yr ysgol.

2.  Ar gyfer y flwyddyn honno ac unrhyw flwyddyn gynharach, canran y disgyblion 15 mlwydd oed —

(a)a gofrestrwyd ar gyfer un neu ragor o arholiadau TGAU, dau neu ragor o arholiadau cwrs byr TGAU ac un neu ragor o arholiadau eraill ar lefel NQF 1 neu 2;

(b)a enillodd unrhyw radd o A* i C mewn un neu ragor o arholiadau TGAU neu radd gyfatebol mewn arholiadau eraill ar lefel NQF 2 neu mewn unrhyw gyfuniad o arholiadau TGAU ac arholiadau eraill ar lefel NQF 2;

(c)a enillodd unrhyw radd o A* i G mewn un neu ragor o arholiadau TGAU neu radd gyfatebol mewn unrhyw arholiadau eraill ar lefel NQF 1 neu 2 neu mewn unrhyw gyfuniad o arholiadau TGAU ac arholiadau eraill ar lefel NQF 1 neu 2

(ch)nad enillasant unrhyw radd o A* i G mewn arholiad TGAU neu radd gyfatebol mewn unrhyw arholiad ar lefel NQF 1 neu 2;

(d)nad enillasant unrhyw radd o A* i G mewn arholiad TGAU neu radd gyfatebol mewn unrhyw arholiadau eraill ar lefel NQF 1 neu 2, ond a enillodd unrhyw radd lwyddo mewn cymhwyster lefel mynediad NQF;

(dd)nad enillasant unrhyw radd o A* i G mewn arholiad TGAU neu radd gyfatebol mewn unrhyw arholiad arall ar lefel NQF 1 neu 2 neu unrhyw radd lwyddo mewn cymhwyster lefel mynediad NQF;

(e)a gofrestrwyd ar gyfer pump neu ragor o arholiadau TGAU neu a gofrestrwyd ar gyfer nifer gyfatebol o arholiadau eraill ar lefel NQF 1 neu 2 neu unrhyw gyfuniad o arholiadau TGAU ac arholiadau eraill ar lefel NQF 1 neu 2;

(f)a gofrestrwyd ar gyfer un neu ragor o arholiadau ar lefel NQF 2 neu odani;

(ff)a enillodd unrhyw radd o A* i C mewn pump neu ragor o arholiadau TGAU, neu radd gyfatebol mewn arholiadau eraill ar lefel NQF 2 neu mewn unrhyw gyfuniad o arholiadau TGAU neu arholiadau eraill ar lefel NQF 2; ac

(g)a enillodd unrhyw radd o A* i G mewn pump neu ragor o arholiadau TGAU, neu radd gyfatebol mewn arholiadau tebyg ar lefel NQF 1 neu 2 neu mewn unrhyw gyfuniad o arholiadau TGAU ac arholiadau eraill ar lefel NQF 1 neu 2.

3.  Am y flwyddyn honno, mewn perthynas â disgyblion y rhoddwyd eu henwau i sefyll arholiadau ar lefel NQF 1 neu 2 heblaw cymwysterau nad ydynt yn cael eu graddio A* i G o fewn lefelau NQF 1 a 2, cyfartaledd y pwyntiau y mae disgyblion 15 mlwydd oed yn eu hennill fel a benderfynir drwy ganfod cyfanswm y pwyntiau a enillwyd gan y disgyblion hynny a rhannu'r ffigur hwnnw â chyfanswm y disgyblion.

4.  Pob categori o wybodaeth y cyfeirir ato ym mharagraff 2 uchod, ond am bob cyfnod perthnasol o dair blynedd wedi'i fynegi fel canran gyfartalog dros y cyfnod hwnnw.

5.  At ddibenion paragraff 3, mae'r cymwysterau a'r graddau a ganlyn yn cyfateb i'r pwyntiau a ganlyn:

(a)TGAU gradd A* = 8 bwynt; gradd A = 7 bwynt; gradd B = 6 phwynt; gradd C = 5 pwynt; gradd D = 4 pwynt; gradd E = 3 phwynt; gradd F = 2 bwynt; a gradd G = 1 pwynt;

(b)cwrs byr TGAU; gradd A* = 4 pwynt; gradd A = 3.5 pwynt; gradd B = 3 phwynt; gradd C = 2.5 pwynt; gradd D = 2 bwynt; gradd E = 1.5 pwynt; gradd F = 1 pwynt; a gradd G = 0.5 pwynt;

(c)GNVQ llawn, lefel Ganolradd: rhagoriaeth = 30 pwynt; teilyngdod = 24 pwynt; a gradd lwyddo arall = 20 pwynt; a

(ch)GNVQ llawn, lefel Sylfaen: rhagoriaeth = 16 pwynt; teilyngdod = 12 pwynt; a phob gradd lwyddo arall = 6 phwynt.

RHAN 2Cymwysterau Safon Uwch a lefel NQF 3: Crynodebau

6.  Am flwyddyn adrodd yr ysgol, nifer y disgyblion 16, 17 neu 18 mlwydd oed ar ddechrau blwyddyn adrodd yr ysgol.

7.  Am y flwyddyn honno, nifer y disgyblion y cyfeirir atynt ym mhargraff 6 uchod y rhoddwyd eu henwau i sefyll llai na dau arholiad TAG Safon Uwch neu gymwysterau allanol a gymeradwywyd ar lefel NQF 3.

8.  Am y flwyddyn honno, canran y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 7 uchod y mae eu graddau yn dod o fewn i bob un o'r ystodau canlynol o bwyntiau, sef: 0 i 4 pwynt, 5 i 9 pwynt a 10 i 15 pwynt.

9.  Am y flwyddyn honno, mewn perthynas â'r disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 7 uchod, y nifer gyfartalog o bwyntiau a enillwyd gan ddisgyblion y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw fel a benderfynir drwy ganfod cyfanswm y pwyntiau a enillwyd gan y disgyblion hynny a rhannu'r ffigur hwnnw â chyfanswm y disgyblion.

10.  Am y flwyddyn honno, nifer y disgyblion, y cyfeirir atynt ym mharagraff 6 uchod, a gofrestrwyd ar gyfer dau neu ragor o arholiadau TAG Safon Uwch neu'r cymwysterau allanol cyfatebol a gymeradwywyd ar lefel NQF 3.

11.  Am y flwyddyn honno, canran y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 uchod a enillodd unrhyw radd o A i C mewn dau neu ragor o arholiadau TAG Safon Uwch neu radd gyfatebol mewn arholiadau eraill ar lefel NQF 3 neu'n uwch neu mewn unrhyw gyfuniad o arholiadau eraill ar lefel NQF 3 neu'n uwch ac arholiadau TAG Safon Uwch.

12.  Am y flwyddyn honno, canran y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 uchod a enillodd unrhyw radd o A i E mewn dau neu ragor o arholiadau Safon Uwch TAG neu radd gyfatebol mewn arholiadau eraill ar lefel NQF 3 neu'n uwch neu mewn unrhyw gyfuniad o arholiadau eraill ar lefel NQF 3 neu'n uwch ac arholiadau TAG Safon Uwch.

13.  Am y flwyddyn honno, canran y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 uchod y mae eu graddau yn dod o fewn pob un o'r ystodau canlynol o bwyntiau, sef: 0 pwynt, 1 i 4 pwynt, 5 i 9 pwynt, 10 i 14 pwynt, 15 i 19 pwynt, 20 i 24 pwynt, 25 i 29 pwynt a 30 pwynt neu drosodd.

14.  Am y flwyddyn honno, mewn perthynas â'r disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 uchod, nifer gyfartalog y pwyntiau a enillodd y disgyblion y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw fel a benderfynir drwy ganfod cyfanswm y pwyntiau a enillwyd gan y disgyblion hynny a rhannu'r ffigur hwnnw gan gyfanswm y disgyblion.

15.  Pob categori o wybodaeth y cyfeirir ati ym mhob un o baragraffau 7 i 9 ac 11 i 14 uchod, ond mewn perthynas â phob cyfnod o dair blynedd wedi'i fynegi fel canran neu rif cyfartalog (yn ôl y digwydd) dros y cyfnod hwnnw.

16.  At ddibenion paragraffau 8, 9, 13 a 14 o Ran 2 o'r Atodlen hon, mae'r cymwysterau a'r graddau canlynol yn cyfateb i'r pwyntiau canlynol:

(a)TAG Safon Uwch neu TAAU; gradd A = 10 pwynt; gradd B = 8 pwynt; gradd C = 6 phwynt; gradd D = 4 pwynt; a gradd E = 2 bwynt; a

(b)TAG Uwch Gyfrannol neu TAAUG: gradd A = 5 pwynt; gradd B = 4 pwynt; gradd C = 3 phwynt; gradd D = 2 bwynt; a gradd E = 1 pwynt.

RHAN 3Crynodebau o Ganlyniadau TGAU mewn Meysydd Pwnc Dethol

17.  Am flwyddyn adrodd yr ysgol, canran y disgyblion 15 mlwydd oed ar ddechrau blwyddyn adrodd yr ysgol—

(a)y rhoddwyd eu henwau i sefyll arholiad TGAU yn y Saesneg;

(b)a enillodd unrhyw radd o A* i C mewn arholiad TGAU yn y Saesneg;

(c)a enillodd unrhyw radd o A* i G mewn arholiad TGAU yn y Saesneg;

(ch)y rhoddwyd eu henwau i sefyll arholiad TGAU yn y Gymraeg;

(d)a enillodd unrhyw radd o A* i C mewn arholiad TGAU yn y Gymraeg;

(dd)a enillodd unrhyw radd o A* i G mewn arholiad TGAU yn y Gymraeg;

(e)y rhoddwyd eu henwau i sefyll arholiad TGAU mewn mathemateg;

(f)a enillodd unrhyw radd o A* i C mewn arholiad TGAU mewn mathemateg;

(ff)a enillodd unrhyw radd o A* i G mewn arholiad TGAU mewn mathemateg;

(g)y rhoddwyd eu henwau i sefyll arholiad TGAU mewn gwyddoniaeth;

(ng)a enillodd unrhyw radd o A* i C mewn arholiad TGAU mewn gwyddoniaeth;

(h)a enillodd unrhyw radd o A* i G mewn arholiad TGAU mewn gwyddoniaeth; ac

(i)a enillodd unrhyw radd o A* i C mewn arholiad TGAU yn y Saesneg neu'r Gymraeg (heblaw Cymraeg Ail Iaith) ac mewn arholiad TGAU mewn gwyddoniaeth ac arholiad TGAU mewn mathemateg.

18.  Pob categori o wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 15 uchod, ond am bob cyfnod perthnasol o dair blynedd wedi'i fynegi fel canran gyfartalog dros y cyfnod hwnnw.

RHAN 4Canlyniadau disgyblion mewn ysgolion yn ardal yr awdurdod addysg lleol ac mewn ysgolion yng Nghymru

19.  Y llyfryn diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ac sy'n dangos canlyniadau cyfartalog disgyblion mewn ysgolion uwchradd yn ardal yr awdurdod ac yng Nghymru yn yr arholiadau a'r cymwysterau y cyfeirir atynt yn Rhannau 1, 2 a 3 o'r Atodlen hon..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2001. Mae rheoliad 2 yn mewnosod rhai diffiniadau newydd ac yr mewnosod hefyd Atodlen 2 newydd sy'n rhagnodi'r wybodaeth am ganlyniadau arholiadau a chymwysterau galwedigaethol y mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu eu cyhoeddi yn eu hadroddiad blynyddol.

(1)

1998 p.31. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources